Criwiau'n brwydro tân ar long yn nociau Casnewydd

Tân ar longFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyrhaeddodd swyddogion tân y dociau am 05:38 fore Sul 26 Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae criwiau tân ar draws De Cymru'n ymateb i ddigwyddiad sy'n ymwneud â thân mawr ar long sydd wedi'i docio yng Nghasnewydd.

Fe gyrhaeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'r dociau am 05:38 fore Sul 26 Ebrill yn dilyn adroddiadau o dân ar long Nord Housten.

Roedd y llong yn cario tua 1,000 tunnell o fetel sgrap meddai'r gwasanaeth tân.

Mae nifer fawr o swyddogion wedi cael eu galw yno er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r tân drwy ddefnyddio jetiau a'i dargedu o uchder.

Ar hyn o bryd maen nhw wedi llwyddo amgylchynu'r tân ond mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Associated British Ports, awdurdodau harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a'r awdurdod lleol.

Pwysleisiodd y gwasanaeth tân nad oes unrhyw un nag unrhyw adeilad mewn perygl ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i'r criwiau barhau ar y safle wrth i'r gwasanaethau wneud trefniadau i gludo nwyddau oddi ar y llong.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig