Rhyddhau rheithgor yn achos dyn oedd wedi ei gyhuddo o dreisio ger yr Eisteddfod

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Emlyn Jones yn gadael y llys ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddydd Llun

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor wedi methu â dod i ddyfarniad yn achos ffermwr o Ddyffryn Conwy a oedd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes yr oedd wedi ei chyfarfod yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2023.

Roedd Emlyn Jones, sy'n 27 oed ac o Gapel Curig, wedi gwadu pedwar cyhuddiad gan gynnwys ymosodiad rhyw, tagu bwriadol a threisio.

Roedd y rheithgor wedi clywed pedwar diwrnod o dystiolaeth yn Llys y Goron Caernarfon.

Yna bu'r rheithgor yn trafod am bron i bedair awr cyn i'r Barnwr Nicola Saffman ddweud dydd Gwener y byddai'n derbyn dyfarniad yr oedd mwyafrif o'r rheithgor, sef 10 o'r 12, yn gytûn.

Ond er trafod am ddwy awr a hanner arall brynhawn Gwener, dywedodd y rheithgor nad oedden nhw mewn sefyllfa i gyrraedd penderfyniad, hyd yn oed os bydden nhw'n cael mwy o amser i drafod.

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caernarfon i'r ddynes gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023

Wrth ryddhau'r rheithgor o'u dyletswyddau dywedodd y barnwr "na ddylen nhw ystyried hyn yn fethiant", ac "ni fysa'i wedi gallu gofyn mwy ohonyn nhw".

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron saith diwrnod i benderfynu os bydden nhw yn pwyso ymlaen gydag erlyniad o'r newydd.

Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig