Dyfodol darlledu Cymraeg 'mewn perygl' ac 'mae'n rhaid newid ffi'r drwydded'

BBC/S4CFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae dyfodol darlledu yn y Gymraeg "mewn perygl" meddai prif weithredwr S4C, wrth ddweud bod adnoddau dan straen.

Dywedodd Geraint Evans wrth y Pwyllgor Materion Cymreig yn Senedd y DU fod yn hwn yn gyfnod "hollbwyisg" i'r sianel, a bod cynnig mwy na chynnwys llinol traddodiadol yn gofyn am fwy o arian.

Fe gyfrannodd un o uwch-swyddogion y BBC yng Nghymru, Rhys Evans, hefyd gan ddweud nad oes gan BBC Cymru Wales ddigon o arian i barhau i gynhyrchu'r cynnwys y maen nhw'n ei gynnig ar hyn o bryd.

Mae yna alwadau eisoes ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid "digonol" a "chynaliadwy" yn y dyfodol ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ôl gweinidogion maen nhw'n ystyried modelau ariannu newydd ac wrthi'n adolygu ffi'r drwydded - sy'n ariannu'r BBC a'r rhan fwyaf o S4C.

Mae Llywodraeth y DU, sy'n rheoli meysydd darlledu a chyfathrebu, wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori – papur gwyrdd – yn gofyn am farn y cyhoedd ar nifer o opsiynau ariannu. Yn eu plith mae:

  • Caniatáu hysbysebion ar y BBC

  • Cynnig gwasnaeth ychwanegol y gall pobl danysgrifio ar ei gyfer, a fyddai'n cynnig cynnwys premiwm

  • Cyflwyno cyfraddau gwahanol yn lle'r ffi drwydded bresennol (sy'n costio £174.50 y flwyddyn) - yn seiliedig ar ba wasnaethau y mae pobl yn eu defnyddio.

Mae'r ymgynghoriad yn rhan o broses adnewyddu siarter y BBC sy'n dod i ben yn 2027.

Gan fod llai o bobl yn talu ffi'r drwydded, mae'r BBC am geisio gwneud arbedion o tua £500m cyn adnewyddu'r siarter yn 2028.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd uwch-swyddogion BBC Cymru Wales eu bod yn ystyried gwneud arbedion o £9m, gan dorri 50 o swyddi.

Geraint EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Evans yn croesawu sylwadau diweddar am fwy o gyllid ond mae am ddeall yn union beth y mae hynny'n ei olygu

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, ei fod yn croesawu sylw diweddar gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock, yn galw am "gyllid digonol" i S4C.

Ond fe ychwanegodd: "Beth mae cyllid digonol yn ei olygu a beth yw ei bwynt? Oherwydd i ni, mae'n rhaid i ni gynnig mwy na sianel deledu draddodiadol.

"Mae'n rhaid i ni wasanaethu nifer o lwyfannau a gwasanaethau ffrydio, yn ogystal â'r cyfryngau cymdeithasol a YouTube - ac mae hynny'n gofyn am fwy o arian."

Aeth ymlaen i ddweud nad oedd yn credu ei fod yn gor-ddweud wrth nodi bod y cyfnod yma yr un mor bwysig â'r cyfnod yr oedd pobl yn ymgyrchu dros gael sianel yn y lle cyntaf.

"Heb gyllid digonol, mae dyfodol S4C a darlledu yn y Gymraeg mewn perygl."

Rhys Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Evans yn pwysleisio bod BBC Cymru Wales yma i aros ond heb newid bydd rhaid edrych ar y cynnwys sy'n cael ei gynnig

Dywedodd Pennaeth Materion Corfforaethol BBC Cymru Wales, Rhys Evans fod "BBC Cymru Wales yma i aros, ond dydw i ddim mor hyderus ynghylch y math o gynnwys rydym yn ei gynhyrchu a'i gynnig ar hyn o bryd, achos does gyda ni ddim yr arian ar ei gyfer e".

"Oni bai bod newid i ffi'r drwydded yn y dyfodol, byddwn ni ar y llwybr anochel yna o ddirywiad parhaus a rheoledig," meddai.

Fe gytunodd Cyfarwyddwr Strategaeth ITV, Magnus Brooke, fod angen "model ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer y BBC", ond ychwanegodd fod y "trefniadau ar gyfer hynny yn fater gwleidyddol".

Mae'r ASau ar y pwyllgor yn "archwilio'r heriau a'r cyfleoedd" sy'n wynebu'r sector darlledu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mi fyddan nhw hefyd yn clywed gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – y rhan o Lywodraeth y DU sy'n delio â darlledu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig