Ymchwiliad i farwolaeth dynes yn Aberteifi yn dod i ben heb gyhuddiadau

Corinna BakerFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Corinna Baker ei chanfod yn farw yn iard gychod Pwll y Rhwyd ym mis Tachwedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad i farwolaeth dynes 21 oed yn Aberteifi wedi dod i ben heb i unrhyw un gael eu cyhuddo o unrhyw droseddau.

Cafodd Corinna Baker ei chanfod yn farw yn iard gychod Pwll y Rhwyd tua 12:35 ddydd Sadwrn, 15 Tachwedd y llynedd.

Cafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Ond dydd Mercher fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys nad oes camau pellach yn cael eu cymryd yn ei erbyn, a bod yr ymchwiliad troseddol ar ben.

Dywedodd y llu fod hyn yn dilyn "adolygiad cynhwysfawr o'r dystiolaeth yn yr achos, gan gynnwys canfyddiadau'r prawf post-mortem".

Mae tystiolaeth nawr yn cael ei basio ymlaen i'r crwner ar gyfer cynnal cwest i'w marwolaeth.

Dywedodd y llu bod teulu Corinna wedi cael gwybod am y penderfyniad.

Blodau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer wedi gadael blodau yn Aberteifi wedi marwolaeth Corinna ym mis Tachwedd

Dywedodd teulu Corinna mewn teyrnged iddi yn dilyn ei marwolaeth eu bod "wedi'n llorio yn dilyn colli Corinna annwyl".

"Roedd yn cael ei charu'n fawr, a bydd ei theulu a'r rheiny a gafodd y fraint o'i hadnabod yn gweld colled aruthrol ar ei hôl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.