Mael Evans: O'r Bala i Bayern Munich, trafferthion yr FBI a gweithio i Juventus

- Cyhoeddwyd
Hyfforddwr ifanc yw Mael Evans o'r Bala sydd wedi gweithio i rai o glybiau pêl-droed mwyaf y byd.
Y clwb diweddaraf iddo weithio iddyn nhw oedd Juventus.
Mae Mael sy'n 27 oed adre yn y Bala ar y funud, ar ôl ffoi o academi Juventus yn Kuwait yn sgil y rhyfel rhwng Israel ac Iran.
Ag yntau dal yn ifanc, mae wedi gweithio hefyd gyda Bayern Munich a chlybiau yn America, ble gafodd brofiad annisgwyl gyda'r FBI.
Raid gan yr FBI
"Dwi wedi bod yn reit lwcus dros y blynyddoedd i allu symud i lefydd gwahanol i fyw a chael profiadau gwahanol gyda gwahanol glybiau," meddai Mael.
Fe ddechreuodd ei yrfa hyfforddi yn ôl yn Y Bala yn 2013 cyn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio cwrs rheoli pêl-droed a pherfformiad.
Yn 2019 fe symudodd i America i ddechrau gweithio yn hyfforddi sêr dyfodol Bayern Munich.
"Ro'n i'n 21 yn mynd allan i America a nes i dreulio pedair mlynedd yn Boston.
"Ar y dechrau ro'n i'n gweithio i Bayern Munich naethon ni gael raid gan yr FBI. Roedd hi'n sgandal fawr ar y pryd oherwydd roedd rhywbeth o'i le gyda'n papurau fisa ni fel hyfforddwyr.
"Diolch byth roedd un fi yn iawn, ond wedyn nes i ffeindio gwaith arall yn gweithio i Surf Soccer.
"Roedd na opsiwn wedyn i gael residency yn America ond nes i benderfynu symud ymlaen a ges i waith gyda Juventus," meddai.

Mael ac hyfforddwr arall yn Kuwait
Roedd y gwaith gyda Juventus yn golygu symud cyfandir a chael profiad newydd o fyw yn Kuwait.
"Mae na lot fawr iawn o bres yn Kuwait a sawl academi allan yno. Ro'n i'n gweithio i Juventus ac roedd o'n waith caled gyda oriau hir.
"Yn Kuwait mae ei dydd Sul nhw fel ein dydd Llun ni, sef dechrau'r wythnos waith.
"Fel arfer o'n i yn y swyddfa o naw y bore tan tua dau y prynhawn yn cynllunio, ac allan ar y cae hyfforddi wedyn drwy'r pnawn tan tua naw y nos.
"I gyd-fynd efo hynny roedden ni yn chwarae gemau ar ddydd Sadwrn.
"Ro'n i'n gweithio efo'r timau ieuenctid ac fe allai ddeud rŵan y bydd 'na un neu ddau yn serennu yn y dyfodol. Roedd na chwaraewyr o Sbaen, yr Eidal a sawl gwlad arall yn rhan o'r academi ac ambell aelod o deulu brenhinol y Dwyrain Canol hefyd," meddai.
Adre yn y Bala
Ond mae Mael bellach adref yn y Bala ar ôl gorfod ffoi o'r Dwyrain Canol yn sgil y gwrthdaro rhwng Iran ac Israel.
"Roedden ni mewn twrnament yn Dubai ac yn eistedd ar yr awyren yn barod i fynd yn ôl i Kuwait. Peth nesaf, sylwi fod na ddim byd yn digwydd a cael ein gofyn i adael a deud fod popeth wedi'i ganslo.
"Roedden ni yn gorfod aros mewn gwesty yn Dubai a rhieni y plant yn gorfod dod i'w nôl nhw.
"Roedd 'na ambell un cyfoethog yn gallu fforddio gyrwyr i ddod i Dubai i'w nôl a wedyn ffoi i'w tai gwyliau mewn llefydd fel Groeg ac ati.
"Pan o'n i'n chwilio am awyren i ddod nôl i Brydain roedden nhw tua £4,000 felly nes i benderfynu mynd i Wlad Thai am gyfnod ar fy ngwyliau," meddai.

Mael yn hyfforddi allan yn America
Ers cyrraedd yn ôl yn y Bala mae Mael wedi cael cynnig cytundeb newydd gan Juventus, ond mae'n ystyried yn ofalus iawn beth fydd ei gam nesaf.
"Ers cyrraedd yn ôl dwi wedi cael sawl cynnig i fynd fewn i hyfforddi mewn gwahanol lefydd. Dwi'n agored i gynigion ond dwi'n meddwl fy mod am aros adre am flwyddyn.
"Dwi wedi bod i ffwrdd ers yn oed ifanc iawn felly mae hi'n braf cael bod adre a threulio amser gyda fy nheulu," meddai.
Pwy a ŵyr beth fydd nesaf i Mael? Mae eisoes wedi gweithio i bencampwyr yr Almaen yn Bayern Munich, un o dimoedd enwocaf yr Eidal yn Juventus - felly pa glwb bydenwog fydd nesaf ar ei restr?
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Mehefin

- Cyhoeddwyd16 Mehefin
