Rhoi crys pêl-droed Cymru i un o chwaraewyr Seland Newydd

Kosta Barbarouses a Gav Murphy
- Cyhoeddwyd
Roedd llawer o sylw wedi bod yn y cyfryngau cyn un o gemau Cwpan y Byd nos Lun, y bennaf oherwydd fod un o'r gwledydd sy'n cynnal y bemcampwriaeth – UDA – mewn rhyfel gydag un o'r timau oedd yn chwarae – Iran.
Gyda thrafferthion visa rhai o staff y garfan, a'r gwersyll hyfforddi yn gorfod symud i Mecsico ar fyr-rybudd, roedd amheuaeth os y byddai Iran yn cael chwarae o gwbl.
Ond yn ôl un Cymro oedd allan yn Los Angeles yn gwylio gêm Iran v Seland Newydd, dim ond awyrgylch o hapusrwydd oedd i'w deimlo yn y stadiwm.
"Wrth gerdded i mewn, o'n i'n shocked achos popeth ni wedi glywed am y llywodraeth yn America, yn tawelu'r protestio," eglurodd y cyflwynydd a chynhyrchydd podlediadau a fideos, Gav Murphy.
"Ond o'dd cymuned mawr o Iran wedi sefydlu eu hunain tu fas i'r stadiwm, yn coginio bwyd, gwylio'r gêm ar sgriniau mawr, a cherddoriaeth yn chwarae – oedd e fel protest, ond o'dd pobl yn cael amser da."
"O'dd e'n teimlo fel fod rhywbeth ar wahân i chwaraeon yn digwydd yna"
Gav Murphy yn siarad am gêm Iran v Seland Newydd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru
"Yn y stadiwm oedd e'n boncyrs – odd e tua 10% Seland Newydd a 90% Iran. O'dd y gefnogaeth i Iran yn y stadiwm yn anhygoel, ac mae'r stadiwm 'na yn insane. Y count ar y diwedd oedd 70,000 o ffans ond odd e'n teimlo fel 100,000.
"Gyda gôls Seland Newydd, o'dd ffans Iran yno, yn siglo llaw pawb – o'dden nhw'n rili hapus i fod yna.
"O'dd e'n teimlo fel fod rhywbeth ar wahân i chwaraeon yn digwydd yna; o'dd pawb yn rili cael amser anhygoel."
Y Cymro a'r Kiwi
Gêm gyfartal 2-2 oedd y canlyniad. Seland Newydd oedd Gav yn ei gefnogi – mae colled Cymru yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd 2022 dal yn bwnc poenus iddo, meddai.
Ond yn fwy na hynny, roedd ganddo ffrind yn chwarae ar y cae mewn crys du.

Cafodd Kosta Barbarouses a Gav Murphy gyfarfod go iawn am y troi cyntaf ar ôl gêm Iran v Seland Newydd
"Mae'n stori anhygoel", meddai Gav. "Mae 'na foi o'r enw Kosta Barbarouses sy'n chwarae i Seland Newydd ac mae e'n watcho sianel YouTube fi ers rhyw 10 mlynedd. Fe 'naeth sgorio'r gôl 'naeth gael Seland Newydd i mewn i Gwpan y Byd.
"O'n i'n gweld e cwpl o flynyddoedd yn ôl ar Instagram fi, ac o'n ni'n anfon negeseuon nôl a 'mlaen. A dywedodd e 'os ma' Cymru yn qualifyio, byddwn ni yn yr un ardal yr un pryd, ac alla i sortio ti mas gyda tocynnau'.
"Pan 'naethon ni ddim mewn, doedd e ddim yn meddwl fydden i'n dod – 'well you obviously don't know me because I am still coming' medde fi!"

Kosta Barbarouses yn hapus gyda'i hen grys Cymru newydd!
Felly gyda diolch i Kosta Barbarouses, roedd Gav a'i gariad yno yn stadiwm SoFi yn gwylio gêm bêl-droed, 5,000 o filltiroedd o adref, cyn cael y cyfle i gyfarfod y Kiwi go iawn am y tro cyntaf ar ôl y chwiban olaf.
"O'dd e'n boncyrs ar y diwedd," eglurodd Gav. "'Naeth e redeg yr holl ffordd i'r stafelloedd newid i ddod â'i grys e yn ôl i fi, a 'naethon ni swopio crysau.
"Es i ag un o fy hoff grysau Cymru i, felly nawr mae 'na striker yn Seland Newydd gyda chrys Umbro o'r 90au!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 Mehefin

- Cyhoeddwyd3 Mehefin

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
