Cwpan y Byd ar fy stepen drws

- Cyhoeddwyd
Ers blynyddoedd mae Gareth Pritchard, sy'n wreiddiol o Bontnewydd ger Caernarfon, wedi bod yn byw yn nhalaith Kansas yn yr UDA, ac mae Cwpan y Byd eleni ar ei stepen drws.
Mae'n byw rownd y gornel i un o gaeau ymarfer un o'r timau sy'n cystadlu yng Nghwpan y Byd eleni, ac mae wedi bod draw i wylio'r tîm yn ymarfer.
Mae pêl-droed yn elfen bwysig o fywyd Gareth. Fe aeth draw i America yn wreiddiol yn 1987 i hyfforddi pêl-droed ac mae o dal yno hyd heddiw.
Dywedodd Gareth ar raglen Ar y Marc: "Mae gennym ni gymaint o dimau sydd wedi sefydlu yma.
"Mae'r base camp gyda nhw yn fan hyn. Mae'r trefniadau, y ddinas, mae bob dim i weld yn mynd yn grêt."
Mae sawl tîm wedi'i lleoli yn Kansas, gan gynnwys Lloegr, Yr Ariannin, Yr Iseldiroedd ac Algeria.
Gyda'i gysylltiad clos â phentref Bontnewydd, mae Gareth (Gags i'w ffrindiau) wedi derbyn gwahoddiad i fynd draw i wylio Lloegr yn hyfforddi gan ei rheolwr offer, Pat Frost.
Mae Pat ar fwrdd rheoli CPD Caernarfon gan ei fod wedi'i fagu yn yr ardal am gyfnod.
Drwy gysylltu â Pat, bydd criw o'r dref yn cael mynediad i gamp hyfforddi Lloegr.

Gareth yng nghanol Kansas
"Dwi'n nabod Pat ers blynyddoedd a drwy'r cysylltiad efo Bontnewydd, dyna sut ges i'r alwad gyno fo," meddai.
Mae Gareth wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd allan yn America bellach. Ar ôl graddio fe sefydlodd gwmni hyfforddi pêl-droed llwyddiannus o'r enw Welsh Soccer Camps, yn Colorado ac yn Kansas.
Mae wedi magu ei deulu yno ond mae'n parhau i siarad Cymraeg yn rhugl ac yn edrych ymlaen at groesawu rhai o'i ffrindiau o Gymru i Kansas i fwynhau Cwpan y Byd yn ei gwmni.
Er gwaetha'r ffaith fod rhai o'r meysydd ar ddechrau'r gystadleuaeth heb werthu eu tocynnau i gyd, mae Gags yn credu bod y sefyllfa yn gwella wrth i'r gystadleuaeth fynd yn ei flaen.
"Ar y dechrau roedd prisiau tocynnau yn wirion o ddrud, i'r pwynt nad oedd person cyffredin yn gallu eu fforddio nhw. Doedden nhw ddim mor ddrwg yn Kansas, ond yn LA ac yn Efrog Newydd roedden nhw'n uchel iawn.
"Ond, dwi'n sylwi rŵan fod y prisiau yn dechrau dod lawr, felly gobeithio ceith pobl gyfle i fynd i wylio fwy o gemau," meddai.
Mae Gareth wedi bod digon lwcus i sicrhau tocyn ar gyfer un o'r gemau yn rownd yr wyth olaf.
"Ar hyn o bryd mae downtown Kansas i gyd yn llawn cefnogwyr Yr Iseldiroedd ac mae pawb yn dod ymlaen efo'i gilydd yn grêt yma, mae 'na awyrgylch braf.
"Dwi wedi bod ddigon lwcus i gael tocynnau i fwy nag un gêm a dwi'n edrych ymlaen at weddill y gystadleuaeth," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd16 Mehefin
