'Gofal plant yn ddrud ac yn straen' - yr her i lywodraeth nesaf Cymru

Dywedodd Rebecca na fyddai wedi gallu goroesi heb gymorth ei rhieni
- Cyhoeddwyd
Mae'n anodd credu "nifer y weithiau dwi'n gorwedd yn fy ngwely yn crio oherwydd ma' gymaint dwi eisiau rhoi iddi, ond yn methu", meddai mam i ferch dair oed.
Mae Rebecca o Abertawe'n dweud bod magu plentyn yn yr economi bresennol yn heriol iawn.
Bu Rebecca'n siarad â Hywel Griffith, gohebydd y BBC, o ran sut brofiad yw delio â thlodi.
Dywedodd ei bod yn rhoi straen "meddyliol ac emosiynol" arni, ond bod costau byw a'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran yr economi yn ei gwneud hi'n anoddach fyth.
'Anodd trio osgoi'r argyfwng'
Aeth Hywel Griffith i ymweld â grŵp chwarae cymunedol Teilo yn Abertawe er mwyn trafod yr anawsterau ariannol sydd ar rieni.
Roedd Danielle, rhiant arall yno, yn dweud fod y broblem yn gallu tyfu'n gyflym.
"Mae'n anodd trio osgoi'r argyfwng," meddai.
"Dwi 'di dod yn agos iawn, iawn at y llinell honno ac yna mae'n rhaid i mi ddod o hyd i fwy [o arian] i ariannu'r argyfwng hwnnw ac ychwanegu at y taliad gwreiddiol."
Gydag etholiad y Senedd lai na phythefnos i ffwrdd, fe hoffai Danielle weld y gwleidyddion yn cynnig cymorth ymarferol gyda chostau ynni drwy gydol y flwyddyn.
"Roedd y cynnig lleoedd diogel a chynnes yn hynod o ddefnyddiol dros y gaeaf.
"Dwi'n meddwl y gallen nhw gynnig mwy o help yn ystod yr haf - blancedi sy'n twymo, grantiau cynhesu, unrhyw beth sy'n helpu mewn ffordd."

Dywedodd Danielle fod y "cynnig lleoedd diogel a chynnes yn hynod o ddefnyddiol dros y gaeaf"
Mae tua thraean o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru - ffigwr sydd wedi aros yn weddol gyson yn ystod y tri degawd diwethaf.
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, mae angen i'r targed o ddileu tlodi plant, a gafodd ei ollwng yn 2016, gael ei adfer gan bwy bynnag fydd mewn grym.
"Dwi'n ei ystyried yn esgeulustod truenus iawn o ran dyletswydd, uchelgais a ffocws, a hoffwn weld llywodraeth nesaf Cymru yn newid hynny.
"Allwn ni ddim fforddio gweld cenhedlaeth arall o blant yn profi'r amgylchiadau ofnadwy yma ble does dim digon o fwyd ar eu byrddau," a dim digon o arian i'w cael nhw i'r ysgol.
Mae'r prif bleidiau sy'n sefyll yn yr etholiad yma'n anghytuno o ran sut i wneud bywyd yn fwy fforddiadwy i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, y Blaid Werdd, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi addo ymestyn gofal plant am ddim, tra bod Plaid Cymru hefyd yn cynnig taliad o £10 yr wythnos i rai teuluoedd incwm isel.
Polisi blaenllaw Reform ar gyfer mynd i'r afael â chostau byw yw cwtogi ar dreth incwm.
Y Ddadl Fawr: Iechyd, costau byw a mwy o bwerau ymhlith y pynciau
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
'Methu gwario fel o'n i': Etholwyr ar gostau byw
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Pa faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd?
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
Yn ôl Cherrie Bija o Faith in Families, elusen sy'n rhedeg y grŵp chwarae a'r banc bwyd yn y gymuned, mae angen cymorth brys ar deuluoedd er mwyn dod allan o gylch dieflig o dlodi.
"Mae'n anodd iawn dod o hyd i gyfle i dorri allan ohono [argyfwng ariannol] gan eich bod wedi'ch dal yno.
"Mae gofal plant yn ddrud," meddai, heb sôn am "gael y dillad sydd eu hangen arnoch chi, darparu ar gyfer eich plant a chael cyfleoedd gwell - chi'n sownd mewn cylch".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.