Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celfyddydol Eisteddfod y Garreg Las

Sarah WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Williams o Dyddewi sy'n derbyn y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enillwyr prif wobrau celfyddydol Prifwyl y Garreg Las.

Bydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn cael ei chyflwyno i'r artist amlgyfrwng Sarah Williams o ardal Tyddewi, tra mai'r seramegydd Justine Allison o Gastellnewydd Emlyn sy'n derbyn y Fedal Aur am Grefft a Dylunio.

Cwmni penseiri Pentan o Gaerdydd sy'n ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth, a Theatr Clwyd fydd yn derbyn Plac Teilyngdod y Brifwyl.

Beca Ellis o Lantrisant sy'n ennill Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod, tra mai Cushla Rose Luxton o Ddeiniolen fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth Artist Newydd.

Fe fydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau mewn seremoni yn y pafiliwn yn Llantwd am 17:20 ddydd Sadwrn.

Gwaith Sarah WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith Sarah yn adrodd straeon a'i chynefin

Ganwyd Sarah Williams yn Sir Benfro ac aeth i Ysgol Gynradd Croesgoch, Hwlffordd ac yna Ysgol Uwchradd Tyddewi.

Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Caerfyrddin aeth ymlaen i astudio BA yn y celfyddydau cain ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Erbyn hyn mae'n gweithio o'i stiwdio ger Niwgwl ger Tyddewi.

Mae'n artist ers dros 30 mlynedd ac wedi arddangos ei gwaith mewn nifer o orielau ar draws Cymru, ond eleni yw'r flwyddyn gyntaf iddi arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Roedd cael gwybod... mai fi oedd i dderbyn y wobr yn syrpreis a sioc enfawr," meddai Sarah.

"Roedd petai fod tân gwyllt yn fy mhen ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r detholwyr."

Wedi'i wreiddio mewn mytholeg, diwylliant ac amgylchedd Cymru, mae gwaith Sarah yn adrodd straeon a'i chynefin drwy baentio gyda thoriadau cymhleth wedi'u peintio â llaw.

Yn ogystal â'i chelf weledol, mae Sarah wedi darlunio gwaith nifer o feirdd Cymreig ac wedi arbrofi gyda ffurfiau creadigol eraill gan gynnwys cerddoriaeth ac animeiddio.

Justine AllisonFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Justine Allison ei bod wedi crio ar ôl cael gwybod y bydd yn derbyn y Fedal Aur am Grefft a Dylunio

Yn wreiddiol o dde Llundain, mae Justine Allison wedi byw yng Nghymru ers dros 20 mlynedd ac wedi arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf sawl gwaith o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddi dderbyn gwobr fawr.

"Fe wnes i grio pan gefais wybod fy mod i'n cael y fedal aur," meddai.

Gwaith Justine AllisonFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa Justine yn cynnwys tua 30 darn taprog o borslen o wahanol feintiau

Mae arddangosfa Justine yn Y Lle Celf eleni yn cynnwys tua 30 darn taprog o borslen o wahanol feintiau - porslen tenau iawn, sy'n mynd yn dryloyw os yw'n cael ei ddal at olau.

Fe wnaeth hi ddarganfod porslen gyntaf yng Ngholeg Camberwell, ac ers gadael yn 1988 mae wedi bod yn gweithio'n bennaf gyda'r deunydd yma.

Yn ogystal â'r medalau, bydd Sarah a Justine hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £5,000.

Cushla Rose LuxtonFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cushla Rose Luxton o Ddeiniolen fydd yn derbyn yr Ysgoloriaeth Artist Newydd

Artist aml-ddisgyblaethol o Wynedd sy'n derbyn ysgoloriaeth gelf Eisteddod Genedlaethol y Garreg Las.

Bydd yr Ysgoloriaeth Artist Newydd yn cael ei dyfarnu i Cushla Rose Luxton o Ddeiniolen ger Caernarfon.

Mae Cushla, sy'n gweithio ar draws cerfluniaeth, ffilm a ffotograffiaeth, yn gobeithio defnyddio'r wobr o £1,500 i fynychu cwrs mewn ysgol gelf neu goleg, neu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr i ddatblygu ei gyrfa ymhellach.

Ar hyn o bryd mae Cushla, 21, yn fyfyriwr yng Ngholeg Goldsmith ym Mhrifysgol Llundain, ac fe gyflwynodd gyfres o ffilmiau i'w hystyried gan y detholwyr.

"Rwy'n tynnu llawer o ysbrydoliaeth o Elidir Fawr, y mynydd sy'n cefnu ar fy nghartref, a'r hen chwareli llechi sy'n datgelu cyfriniaeth bywyd bob dydd wrth archwilio fy hanes personol fy hun hefyd," meddai.

Parc Golygfa HafrenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Parc Golygfa Hafren gan Gwmni Pentan sy'n derbyn y Fedal Aur am Bensaernïaeth

Penseiri y tu ôl i brosiect arloesol i greu cartref gofal dementia sydd wedi'u dewis i dderbyn y Fedal Aur am Bensaernïaeth.

Wedi'i ddylunio gan Gwmni Pentan o Gaerdydd ac wedi'i arwain gan y pensaer Dafydd Tanner, disgrifiodd y detholwyr Martin Davies a Jamie Yeoman brosiect Parc Golygfa Hafren yng Nghil-y-coed yn Sir Fynwy fel "cartref oddi cartref" i'w drigolion.

Wedi'i leoli yng nghanol ystâd dai y tu allan i Gil-y-coed, mae Parc Golygfa Hafren yn cynnwys pedwar tŷ isel sy'n amgáu cwrt eang gyda neuadd fawr yn ei chanol.

Mae pob adeilad unllawr yn gweithredu fel aelwyd annibynnol i bobl sy'n byw gyda dementia, gyda'i ardd fach ei hun o'i flaen.

Theatr ClwydFfynhonnell y llun, Mark Carline
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ailddatblygiad Theatr Clwyd ei gwblhau y llynedd

Bydd Plac Teilyngdod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei gyflwyno i Theatr Clwyd Yr Wyddgrug am ei hailddatblygiad a gafodd ei gwblhau yn ddiweddar.

Mae'r plac yn cael ei ddyfarnu i ddathlu dylunio eithriadol mewn prosiectau newydd neu brosiectau wedi'u hadnewyddu.

Wedi'i agor yn wreiddiol ym 1976 fel Theatr Clwyd a Chanolfan Dechnoleg Addysgol, cafodd yr adeilad ei greu fel lleoliad celfyddydau rhanbarthol amlbwrpas, gan gyfuno mannau perfformio â stiwdios, orielau a chyfleusterau cymunedol.

Disgrifiodd y detholwyr, Martin Davies a Jamie Yeoman, y datblygiad diweddar fel "cynllun deinamig gyda newidiadau mewnol helaeth a thrawiadol".

Beca EllisFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Beca Ellis o Lantrisant, sy'n gweithio yn Seland Newydd, sy'n ennill Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod

Enillwyd Ysgoloriaeth Bensaernïaeth y Brifwyl gan ddarpar bensaer sy'n wreiddiol o ardal Caerdydd.

Bydd Beca Ellis o Lantrisant yn derbyn y wobr o £1,500 am ei gwaith mewn tri phrosiect y cyflawnodd tra'n astudio am radd bensaernïaeth uwch ym Mhrifysgol Westminster yn Llundain.

Bydd Beca, cyn-ddisgybl yn Ysgol Llanhari, yn mynd yn ôl i'r coleg i ddilyn cwrs fydd yn ei chymhwyso fel pensaer, ond yn y cyfamser mae'n cymryd blwyddyn allan i deithio ac wedi cyrraedd Queenstown yn Seland Newydd.

"Dwi wedi bod yn Seland Newydd a Japan i weithio, teithio a phrofi pensaernïaeth ers mis Tachwedd y llynedd, ac wedi dychwelyd i dderbyn fy ngwobr yn Eisteddfod y Garreg Las, ac i ddathlu pen-blwydd Mam-gu yn 90!" meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.