Cymru a Môn yn 'gadarnle pwysig' i blanhigyn eithriadol o brin

Yn ddiweddar cafodd tua 500 o blanhigion tafolen y traeth eu hailgyflwyno i'r gwyllt yn Niwbwrch
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r planhigion arfordirol mwyaf prin yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu hailblannu yn eu cannoedd ar Ynys Môn.
Dim ond tua 5,000 planhigyn tafolen y traeth (shore dock) sydd ar ôl yn y gwyllt ar draws y byd, ac mae Niwbwrch yn un o'r ardaloedd pwysicaf.
Yno mae cadwraethwyr yn ceisio adfer yr amodau sydd eu hangen ar y rhywogaeth i oroesi ac ailgyflwyno cannoedd ohonyn nhw.
Yr wythnos diwethaf cafodd tua 500 eu hailgyflwyno - y cyntaf mewn cyfres o gylchoedd ailblannu sydd wedi'u cynllunio.
Mae'r planhigyn yn tyfu mewn amgylchedd arfordirol arbenigol iawn, yn dibynnu ar gydbwysedd o ddŵr croyw a chynefinoedd tywodlyd agored.
Dros amser, mae'r amodau yma wedi cael eu colli neu ddirywio, gan roi'r rhywogaeth mewn perygl.
'Cartref i dirweddau anhygoel'
Mae'r gwaith yn Niwbwrch wedi bod yn canolbwyntio ar adfer y cynefinoedd trwy ddulliau fel gwella amodau dŵr croyw i geisio rhoi'r cyfle gorau i'r planhigyn oroesi.
Dywedodd Clare Sampson, rheolwr prosiect Natur am Byth i RSPB Cymru fod "gogledd Cymru yn gartref i dirweddau anhygoel a rhywogaethau prin sy'n haeddu cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Yn ôl Phil Esseen, pennaeth planhigion yn Sŵ Caer, lle cafodd y planhigion eu tyfu, mae Cymru yn gadarnle pwysig i'r rhywogaeth.
Dywedodd Graham Williams ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd ailblannu'r planhigion yn un o nifer o bethau a fydd yn "gwella ffawd y rhywogaeth brin hon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.