Gwynedd: 'Hyderus fod plant yn fwy diogel', flwyddyn wedi adroddiad Foden

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi cyflwyno sawl newid dros y 12 mis diwethaf er mwyn cryfhau trefniadau diogelwch plant
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi cyflawni wyth o'r naw argymhelliad yr oedd disgwyl i gynghorau Cymru weithredu arnynt yn sgil achos y cyn-brifathro a phedoffeil, Neil Foden.
Cafodd cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.
Daeth adolygiad ymarfer plant i'r casgliad fod awdurdodau wedi colli dros 50 o gyfleoedd i atal Foden rhag ymosod yn rhywiol ar ferched dros nifer o flynyddoedd.
Flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi "cyflawni nifer o welliannau i drefniadau diogelu" ac "na fyddant yn gorffwys ar eu rhwyfau".
Mae cadeirydd y bwrdd sy'n craffu ar ymateb y cyngor yn cydnabod bod camau gweladwy wedi'u cymryd ond y bydd hi'n "cymryd mwy o amser i adennill hyder pobl Gwynedd".
Lle i bob ysgol yn y DU ddysgu o achos Foden - awdur adroddiad
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
'Dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli' i atal y pedoffeil Neil Foden
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
Rhaid dysgu gwersi o adroddiad brawychus Foden - Comisiynydd
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
Roedd adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn ddogfen 108 tudalen hynod feirniadol a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Roedd yn nodi 52 o gyfleoedd gafodd eu methu i atal Foden, a bod "gwendidau mawr" o fewn y trefniadau diogelu "o fewn yr ysgol, ymhlith y llywodraethwyr ac o fewn yr awdurdod lleol".
Mae'n nodi fod Foden yn "ffigwr pwerus" o fewn y gymuned addysg yng Nghymru a oedd wedi creu enw iddo'i hun fel "bwli", ac yn ogystal â cham-drin merched yn rhywiol, roedd hefyd yn defnyddio grym gormodol ar fechgyn.
Mae hefyd yn cymharu'r methiannau diogelu a ddaeth i'r amlwg ag ymchwiliad Clywch a wnaeth amlygu troseddau pedoffeil arall - yr athro ac awdur John Owen yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ym Mhontypridd dros 20 mlynedd yn ôl.
'Derbyn a deall bod mwy i'w wneud'
Yn siarad ar raglen y Post Prynhawn fe ddywedodd Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd, ei fod yn "hyderus" bod "systemau'r cyngor yn gadarn" erbyn hyn.
Ychwanegodd bod y cyngor wedi gwneud "mwy na'r argymhellion" er mwyn sicrhau hynny.

Dylan Owen: "Sicr ein bod yn gwneud pob un dim o fewn ein gallu i atal y math yma o ddigwyddiad eto"
"Mae'n amhosib i mi nag unrhyw un arall i ddweud 'gwneith hyn fyth ddigwydd eto', mi fyddai hynny'n ffwlbri i mi ddweud yr fath beth," meddai.
"Ond a ydw i'n sicr bod ein systemau ni'n gadarn erbyn hyn ac yn sicrhau ein bod yn gwneud pob un dim o fewn ein gallu i atal y math yma o ddigwyddiad eto? Ydw."
Aeth ymlaen i ddweud bod mwy o swyddogion yn eu lle erbyn hyn i gefnogi ysgolion a llywodraethwyr, a "llawer iawn mwy o hyfforddiant i'n gweithlu ar draws y cyngor".
"'Da ni wedi gwneud gwaith aruthrol dros y flwyddyn ddiwetha', wedi buddsoddi bron i £1m os nad mwy i fewn i'n gwasanaethau ni, ac wedi cynyddu ein adnoddau dynol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn gadarnach ac yn fwy diogel.
"'Da ni'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs yn derbyn a deall bod mwy i'w wneud."
Cyngor Gwynedd ddim am 'orffwys ar eu rhwyfau'
Roedd yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi fis Tachwedd y llynedd, yn cynnwys 27 o argymhellion, gyda'r gofyn i gynghorau gyflawni naw o'r rheiny.
Mewn datganiad fore Llun, dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod "wedi cyflawni wyth o'r naw argymhelliad yn llawn a bydd yr argymhelliad olaf wedi ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn".
Mae'r argymhellion eraill yn faterion rhanbarthol a chenedlaethol, ond mae'r cyngor yn dweud iddyn nhw gyflawni 12 o'r rheiny eu hunain.
"Mae Cyngor Gwynedd yn hyderus fod plant a phobl ifanc y sir yn fwy diogel heddiw ar ôl cyflawni nifer o welliannau i drefniadau diogelu," meddai'r datganiad.
"Mae'r gwelliannau hyn yn cynnwys gweithio gyda'r NSPCC i ddatblygu hyfforddiant arbenigol nad oedd yn bodoli yng Nghymru yn flaenorol a buddsoddi i greu tîm arbenigol o swyddogion sydd yn cefnogi ysgolion gyda materion diogelu plant.
"Ond mae'r cyngor yn pwysleisio na fyddant yn gorffwys ar eu rhwyfau ac y bydd diogelu plant yn parhau yn brif flaenoriaeth iddynt."

Mae Cyngor Gwynedd wedi "edrych yn onest ar ein methiannau," yn ôl yr arweinydd Nia Jeffreys
Dywedodd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd, fod cymunedau'r sir yn "parhau i fyw gydag effaith ddofn yr hyn ddigwyddodd".
"Wrth nodi blwyddyn ers cyhoeddi Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder... dwi am ail-bwysleisio mai'r hyn sy'n ein gyrru i wella ydi dewrder y goroeswyr. Eu lleisiau nhw arweiniodd at gyfiawnder trwy'r llysoedd barn ac sydd rŵan wedi sbarduno newid.
"Y deyrnged orau oedd yn bosib ni ei dalu i ddewrder y bobl ifanc oedd cyflawni y newidiadau mor gyflym â phosib.
"Rydym wedi edrych yn onest ar ein methiannau, rhoi ein holl egni i ddysgu'r gwersi a gwneud popeth o fewn ein gallu i atal sefyllfa debyg rhag digwydd eto.
"Ond, mae'n bwysig hefyd fod y newid yn parhau i'r hirdymor a'n bod yn gwneud yn siŵr fod hyn yn cael effaith go iawn i ddiogelu ein plant."
Pa newidiadau sydd wedi eu cyflwyno?
Mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi cyflwyno sawl newid dros y 12 mis diwethaf, sy'n cynnwys:
Gweithio gyda'r NSPCC i ddatblygu hyfforddiant arbenigol ar feithrin perthynas amhriodol
Sicrhau fod llais y plentyn yn cael ei glywed yn glir pan fo pryderon yn cael eu codi am eu diogelwch
Sefydlu Fforwm Ieuenctid Gwynedd i roi llais i bobl ifanc gyfrannu at benderfyniadau ar draws y cyngor
Buddsoddi mewn tîm arbenigol sy'n ymweld â phob ysgol yn rheolaidd i wirio bod trefniadau diogelu yn gweithio'n effeithiol a bod y safonau diogelu uchaf yn cael eu cynnal
Cynyddu nifer y swyddogion sy'n cefnogi Llywodraethwyr a Chlercod Ysgolion o ddau i bedwar
Cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer derbyn, ymchwilio a phenderfynu ar bryderon am gam-drin plant
Cyflwyno mesurau i gryfhau ymwybyddiaeth a hyfforddiant diogelu ar gyfer y 6,000 a mwy o weithlu'r cyngor

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol
Mae ymateb y cyngor i'r adroddiad yn cael ei graffu gan Fwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: Mae "Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder" yn adlewyrchu dewrder y rhai a gyfrannodd at yr Adolygiad.
"Rydym yn cydnabod arwyddocâd pen-blwydd cyntaf yr adroddiad, a phwysigrwydd parhau i weithredu ar ei ganfyddiadau.
"Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni argymhellion yr Adolygiad, ac mae cynnydd yn cael ei wneud i sicrhau bod y canfyddiadau'n cryfhau trefniadau diogelu mewn addysg ledled Cymru.
"Mae gan awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac ysgolion ddyletswyddau a chyfrifoldebau clir o ran diogelu eisoes, a dylent barhau i weithredu ar ganfyddiadau'r Adolygiad, gan roi gwelliannau ar waith tra bod gwaith cenedlaethol hirdymor yn mynd rhagddo."
Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw.
Yn ôl cadeirydd y bwrdd, yr Athro Sally Holland, mae camau gweladwy wedi eu cymryd gan y cyngor.
Serch hynny, wnaeth hi bwysleisio bod gwaith eto i'w wneud hefyd.
"Mae wedi bod yn galonogol gweld y cyngor yn gweithio nid yn unig i sicrhau bod eu gwaith diogelu yn gadarn – a oedd yn ofyn sylfaenol – ond hefyd i osod y sylfeini ar gyfer newid diwylliannol," meddai.
"Mae hyn yn cynnwys llwybrau mwy eglur i sicrhau bod safbwyntiau plant yn cael eu clywed yn ysgolion a gwasanaethau eraill Gwynedd, yn ogystal â hyfforddiant mwy ystyrlon i staff.
"Er bod gweithdrefnau a pholisïau wedi newid, bydd yn cymryd mwy o amser i adennill hyder pobl Gwynedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.