Teyrngedau i gyn-reolwr Gwasg Gomer, John Lewis - 'un o gewri byd cyhoeddi Cymru'

 John Lewis
GanGwen Aeron
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae John Lewis, cyn-reolwr Gwasg Gomer yn Llandysul, wedi marw yn 94 oed.

Roedd yn ŵyr i J D Lewis, a sefydlodd y wasg yn 1892, ac yn un o'r bobl allweddol a fu'n llywio'r cwmni am ddegawdau.

Dychwelodd John Lewis o Lundain i ymuno â busnes y teulu yn 1959, gan ddilyn ôl troed ei dad, Edward Lewis. Ymunodd â'i gefnder, Huw Lewis, mab Rhys Lewis, i gymryd yr awenau yn y cwmni ar ôl marwolaeth eu tadau.

O dan eu harweiniad, tyfodd Gwasg Gomer i fod yn un o gwmnïau cyhoeddi ac argraffu mwyaf Cymru, gan gyhoeddi llyfrau o bob math yn y Gymraeg a'r Saesneg.

'Un o gewri'r byd cyhoeddi yn ail hanner yr 20fed ganrif'

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd cyn-gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, Gwerfyl Pierce Jones, ei fod yn "un o gewri'r byd cyhoeddi yn ail hanner yr 20fed ganrif".

Dywedodd fod Gwasg Gomer, dan ei arweiniad ef a'i gefnder Huw Lewis, wedi tyfu i fod yn gyhoeddwyr ac argraffwyr mwyaf Cymru, gan gyhoeddi llyfrau o'r safon uchaf yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Roedd yn "ddyn deallus, gwâr a chanddo ben busnes heb ei ail", meddai, gan ychwanegu ei fod hefyd yn "ŵr bonheddig yr oedd bob amser yn bleser bod yn ei gwmni".

Yn 2012, cyhoeddodd John Lewis gyfrol ar y cyd â Rheinallt Llwyd, Creu Argraff, i nodi 120 mlynedd ers sefydlu Gwasg Gomer.

Pan ymddeolodd Huw Lewis yn 1995, parhaodd y cwmni dan arweiniad John Lewis hyd nes i'w fab yntau, Jonathan Lewis, ddod yn rheolwr gyfarwyddwr tua diwedd y 1990au.

O'r chwith: Jonathan Lewis, mab John Lewis a pherchennog presennol Gwasg Gomer; Elgan Davies; Gwerfyl Pierce Jones; a John LewisFfynhonnell y llun, Gwerfyl Pierce Jones
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Jonathan Lewis, mab John Lewis a pherchennog presennol Gwasg Gomer; Elgan Davies; Gwerfyl Pierce Jones; a John Lewis

Yn ystod cyfweliad ar Beti a'i Phobol yn 2012, bu John Lewis yn sôn am ei gyfnod yng Ngwasg Gomer a'i falchder yn yr hyn roedd y teulu wedi'i adeiladu.

"Mi ymunes yn 1959 ac roedd y sail wedi ei gosod gan y cyn-deidiau, fy nhad-cu a'r genhedlaeth gynt. Ac roedd y sail yn ddiogel," meddai.

Wrth sôn am ei gydweithio â Huw Lewis, ychwanegodd: "Fe wnaeth Huw a fi, fy nghefnder, gydweithio'n hapus am dros 40 mlynedd a dwi ddim yn cofio unrhyw amser lle o'n i'n gofidio am y dyfodol".

"Fy ngobaith mawr yw y bydd y wasg yn para'n wasg Gymraeg, Gymreig. Hwnna sy'n bwysig i fi, yn fwy pwysig na pwy fydd yn ei rhedeg hi," meddai.

Ychwanegodd mai un o'r pethau roedd yn fwyaf balch ohono oedd bod y cwmni wedi parhau i gyhoeddi a datblygu'r gwaith a ddechreuwyd gan y cenedlaethau o'i flaen.

"Ni'n cyflogi dros 50, a'r rhan fwyaf yn lleol ac yn Gymry Cymraeg, a dwi'n meddwl bo fi'n fwy balch o hynny na dim byd arall," meddai.

Erbyn hynny, roedd ei ddau fab wedi cymryd cyfrifoldeb am redeg y busnes, ond roedd John Lewis yn dal i fwynhau ymweld â'r wasg a gweld y peiriannau'n gweithio.

"Dwi'n mwynhau. Mae'r cyfrifoldeb wedi lleihau i mi yn bersonol felly dwi'n mynd mewn a dwi'n hoffi gweld y peiriannau yma yn troi. Dwi wrth fy modd i weud y gwir," meddai.

'Y capten tawel' a wnaeth gyfraniad aruthrol

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, disgrifiodd yr artist a'r ffotograffydd Marian Delyth ef fel "gŵr bonheddig a wnaeth gyfraniad aruthrol drwy gyflwyno llenyddiaeth ein cenedl mewn argraffiadau cain a phoblogaidd".

Cyfeiriodd ato hefyd fel "y capten tawel a fu'n llywio argraffdy Gwasg Gomer am flynyddoedd maith".

Yn ôl y golygydd llyfrau Bethan Mair, roedd John Lewis yn "un o'r cewri", a dywedodd iddi dreulio "10 mlynedd ffurfiannol yn gweithio dan ei law gadarn, ffraeth a doeth" yng Ngwasg Gomer.

Dywedodd ei gefnder, yr arwerthwr Dai Lewis, fod gan John Lewis dal ddiddordeb mawr yn y "pethe" a chynnyrch Gwasg Gomer, hyd yn oed yn 94 oed.

Roedd Mr Lewis hefyd yn Fedyddiwr selog, ac yn gyn-organydd a thrysorydd Capel Pen-y-bont am dros 50 mlynedd. Bu hefyd yn drysorydd Cymdeithas y Cymrodorion am gyfnod tebyg.

Roedd ganddo "lais canu bas cyfoethog", ac roedd yn un o aelodau Côr Rygbi Castellnewydd Emlyn tan yn weddol ddiweddar.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.