Aelod newydd Senedd Cymru ddim yn diystyru gadael, pedwar mis ers ei ethol

Cafodd Cai Parry-Jones ei ethol i'r Senedd ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Nid yw aelod blaenllaw o blaid Reform yn y Senedd wedi diystyru sefyll fel ymgeisydd pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw'n gynnar.
Daw sylwadau Cai Parry-Jones, sy'n AS dros Reform UK, llai na chwe mis wedi iddo gael ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf.
Pan ofynwyd iddo ar bodlediad Gwleidydda a fyddai'n ystyried sefyll mewn etholiad cyffredinol pe bai un yn cael ei alw, atebodd, "dwi'm yn gwybod eto".
Mae'n rhaid i'r etholiad cyffredinol nesaf gael ei alw cyn Awst 2029, ond gall y prif weinidog ddewis galw un unrhyw bryd cyn hynny.
Nid oedd Reform UK eisiau gwneud sylw.
Mewn cyfweliad ar bodlediad gwleidyddol BBC Radio Cymru Gwleidydda, ni wnaeth Cai Parry-Jones wrthod y syniad o sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
"Dwi'm yn gwybod eto" dywedodd. "Dwi'm yn siwr… dwi heb di' really meddwl amdano fo i dd'eud y gwir, dwi just di' bod yn locked in gyda be' sy'n digwydd yn y Senedd."
Cafodd Parry-Jones ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf ym mis Mai, i gynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Tâf.
Yn hwyrach yn y rhaglen gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones, methodd Parry-Jones, sy'n llefarydd y blaid ar gyllid ac effeithlonrwydd y llywodraeth, enwi unrhyw bolisi addysg byddai Reform yn ei gefnogi.
Mewn ymateb i gwestiwn yn gofyn beth fyddai Reform yn ei wneud i "godi Cymru" o ran addysg, dywedodd: "Rhein di'r fath o gwestiynau sy' orau i Helen Jenner na fi, sy'n edrych fewn i addysg, dwi'n edrych fewn i cyllid... dwi'n trio cofio be' o'dd y polisïau... um, dwi'n meddwl... ie, na".
Daw ei sylwadau ddiwrnod yn unig wedi cyhoeddiad canlyniadau profion PISA, a ddangosodd bod Cymru wedi cwympo ymhellach tu ôl gweddill y Deyrnas Unedig o ran safonau addysg.

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i fideo ddod i'r amlwg o gyfarfod rhwng Nigel Farage ac aelodau blaenllaw Reform, ac unigolion oedd yn honni bod yn roddwyr arian o dramor
Yn ystod y cyfweliad ddydd Mercher, daeth y newyddion bod Heddlu'r Met wedi agor ymchwiliad troseddol i honiadau bod Reform UK wedi torri'r gyfraith mewn perthynas â chyllid tramor.
Yn ymateb i'r datblygiad yma, dywedodd Cai Parry-Jones: "Ma' nhw'n ymchwilio mewn iddo fo… ok… tydy' nhw ddim 'di d'eud dim byd amdano fo."
Bu'n rhaid i ddau aelod blaenllaw o Reform UK – Dan Jukes a James Orr - ymddiswyddo ar ôl i fideos gael eu cyhoeddi oedd i weld yn dangos y ddau yn ceisio sicrhau nawdd gan rywun roedden nhw'n credu oedd yn roddwr o dramor.
Mae cyfraith etholiadol yn gwahardd pleidiau gwleidyddol yn y DU rhag derbyn cyfraniadau ariannol gan bobl sydd ddim yn gymwys i bleidleisio yn y wlad.
"Pan da' chi'n edrych ar y fideo, mae 'di cael ei editio yn galed, galed iawn", meddai Parry-Jones.
Pan holwyd a oedd wedi gwylio'r fideo yn ei chyfanrwydd, atebodd: "Dwi ddim 'di gwylio bob dim, naddo... o be' dwi 'di clywed."
'Jog on' Plaid Cymru
Roedd hefyd yn awyddus i dynnu sylw i'r ffaith bod pleidiau eraill wedi wynebu problemau ariannol tebyg i Reform.
"Dim ond rhai blynyddoedd yn ôl, 'oedd Plaid Cymru wedi gorfod talu degau o filoedd o bunnoedd yn ôl am dorri'r gyfraith, am gymryd prês heb declario fo, felly dydy hyn ddim yn rywbeth sy'n unigryw i Reform", meddai.
"Dwi ddim yn meddwl bod y scrwtini [mae Reform yn derbyn]... yn agos i'r lefel o scrwtini... y pleidiau eraill pan mae'n dod i bethau fel hyn."
Yn 2020, derbyniodd Plaid Cymru ddirwy o £29,000 gan y Comisiwn Etholiadol am beidio datgan rhoddion ariannol gwerth bron i £500,000.
Ceidwadwyr a Reform yn galw am ddiswyddo prif weithredwr Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cyhuddo Reform o geisio dechrau ffrae am hil dros godi baner Pacistan
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
AS Reform yn dweud iddi gael ei beirniadu am fynd i'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd27 Awst
Yn adlewyrchu ar beth fyddai strategaeth Reform am weddill y flwyddyn yn y Senedd, dywedodd Parry-Jones mai'r flaenoriaeth fyddai gwneud "y gorau i bobl Cymru".
"Da' ni'n hapus iawn i weithio gyda Plaid Cymru a da' ni'n hapus iawn i deutha' Plaid Cymru i 'jog on' os ma' nhw'n dechrau malu awyr am pethau sy' ddim yn helpu pobl yng Nghymru", dywedodd.
Ategodd y byddai Reform "yn sicr" yn hapus i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i basio'r gyllideb, pe bai'r llywodraeth yn cwrdd â'i "llinellau coch" ar faterion fel torri gwariant tramor.
"Da' ni efo sgwrs gyda Elin Jones [y Gweinidog Cabinet dros Gyllid], fi a Dan Thomas, wythnos nesaf… a da ni'n gobeithio fydd o'n rwbath constructive. A ti'n gwbod beth, ella, fydd Reform a Plaid Cymru yn gweithio efo'i gilydd i gael hwn trwadd."
Yn ôl Plaid Cymru: "Er gwaethaf eu hymgais i honni eu bod yn cynrychioli'r bobl gyffredin, mae pawb yn gwybod mai unig ddiddordeb Reform UK yw amddiffyn y miliwnyddion sy'n eu cefnogi a'u ffrindiau sy'n dwyllwyr.
"Mae unrhyw honiad i'r gwrthwyneb yn ymgais wael i dynnu'r gwlân dros lygaid cyhoedd Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.