Y côr meibion 'traddodiadol' sydd wedi mynd yn feiral ar TikTok

- Cyhoeddwyd
Mae côr meibion yn ne Cymru oedd yn ei chael hi'n anodd creu argraff ar-lein bellach wedi mynd yn feiral ac yn cyrraedd miliynau o bobl "ar draws y byd i gyd" ar TikTok.
"'Nes i feddwl trio rhywbeth newydd," meddai'r arweinydd Ieuan Jones a rhannu "caneuon mwy modern". Mae'r ymateb erbyn hyn "yn boncyrs".
Mae rhai o fideos Côr Meibion Parc yr Arfau yng Nghaerdydd wedi cyrraedd miliynau o wylwyr – gydag un yn cyrraedd 3.7 miliwn.
"Mae'r gynulleidfa iau yn hoffi rhywbeth am ddynion mewn oed yn canu," meddai Ieuan.
Mae'r fideos wedi cael sylw enwogion hefyd gyda'r gantores Sienna Spiro yn ymateb i'r fersiwn o'i chân hi cyn ei ailrannu ar ei chyfrif personol, a seren y rhaglen realiti Love Island, Molly-Mae Hague yn gwneud sylw hefyd.
Ymhlith y miloedd o sylwadau eraill mae: "Anhygoel", "Wow, just Wow", "Gänsehaut" (sef y gair Almaeneg ar gyfer 'goosebumps'), "Os amo" (sy'n ymadrodd Sbaeneg yn golygu 'dwi'n caru chi gyd') a 'Cudowne' (sef y gair Pwyleg ar gyfer 'hyfryd').

Mae Ieuan Jones wedi bod yn arwain Côr Meibion Parc yr Arfau ers 2016
"Mae'n anhygoel achos maen nhw jest dros y byd i gyd – wirioneddol dros y byd," meddai Ieuan sydd wedi bod yn arwain y côr ers dros 10 mlynedd.
Ymhlith y miloedd o gefnogwyr ar-lein mae cyfrif swyddogol Spotify UK wedi gadael sylw yn dweud eu bod yn hoff o'r fideos, a'r cwmni Specsavers yn dweud 'dyma'r peth gorau y byddwch chi'n ei glywed heddiw'.
Felly beth yw e am y fideos byr yma sy'n apelio gymaint?
Yn ôl Ieuan: "Os ti'n mynd a sbïo ar y sylwadau i gyd, dwi'n meddwl, ia wrth gwrs, mae'r gerddoriaeth yn apelio ond mae'r dynion yn hefyd."
Gyda'r rhan fwyaf o gynulleidfa'r platfform rhwng 18 a 30 oed maen nhw'n uniaethu mewn ffordd wahanol, meddai.
"Mae llawer o'r sylwadau'n dweud: 'Mae o'n atgoffa fi o 'nhaid' ac 'roedd 'y 'nhaid i'n canu mewn côr' - mae o gyd yn hyfryd.
"Ond wedyn dwi hefyd yn meddwl bo' pobl yn joio clywed caneuon y maen nhw 'di arfer clywed, yn enwedig pobl ifanc, ond mewn arddull gwahanol."

Dydy Clive Jones ddim yn siŵr iawn pam bod y fideos wedi cyrraedd cynulleidfaoedd mor eang ond "mae'n wych"
Mae'r côr wedi rhannu fideos yn talu teyrngedau'n ddiweddar ac mae hynny wedi bod yn boblogaidd iawn hefyd.
Rhannon nhw fersiwn o gân Bonnie Tyler 'Total Eclipse of The Heart' er cof am y gantores fyd-enwog o Gymru a fersiwn o gân y ddiweddar Dolly Parton, 'I Will Always Love you' – sydd wedi cael ei wylio gan dros filiwn o bobl ar Instagram.
Dywedodd Clive Jones, sy'n 54 ac wedi bod yn aelod o'r côr ers 18 mlynedd ei fod yn "anrhydedd" bod yn rhan o hyn.
Ond "mae cyrhaeddiad y cyfryngau cymdeithasol wir yn chwalu pen rhywun," meddai.
Wrth fynd trwy'r sylwadau ar y fideos dywedodd ei fod wedi dod â deigryn i'w lygaid ar ôl gweld "sut mae'r fideos yma'n cyffwrdd â phobl".
Roedd yn cyfaddef fod y caneuon modern yma'n wahanol i ganeuon traddodiadol corau meibion – ond bod dim angen gormod o berswâd ar y dynion i gymryd rhan.
"Mae gennym gymaint o barch at Ieuan fel cyfarwyddwr a'r ffordd y mae'n ennyn brwdfrydedd – fi'n credu bod hynny'n rhan fawr o'r peth.
"Ac er clod iddyn nhw mae gan y bechgyn i gyd feddwl agored ac yn hapus i drio pethau newydd.
"Roeddwn i'n poeni yn ystod cyfnod Covid," ychwanegodd "pan oeddech chi'n clywed am gorau yn gorfod dod i ben – ar ôl colli'r cysylltiad yna a nifer yn ei chael hi'n anodd recriwtio; felly fi'n credu bod unrhyw beth sy'n cadw'r genre yn fyw yng Nghymru yn wych."

Dywedodd Alex Jackson eu bod yn "dechrau dod i arfer â" chanu caneuon mwy modern ond eu bod yn mwynhau'r amrywiaeth
Mae Alex Jackson sy'n 68 ac yn aelod o'r côr ers tair blynedd a hanner yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn "rhyfeddol".
"Faswn i'n disgrifio'n côr ni fel côr meibion Cymreig traddodiadol ond mae Ieuan wedi llwyddo i arbrofi ychydig ac mae pobl i weld yn mwynhau hynny gymaint ac mae'r adborth bob amser mor bositif – 'da ni wrth ein bodd, mae'n grêt".
Ychwanegodd fod "yr ymateb 'da ni 'di gweld ar y cyfryngau cymdeithasol wedi agor ein llygaid rili i bob math o gyfleoedd".
Ar ôl gweld eu fideos ar TikTok fe gysylltodd y cwmni colur poblogaidd, Sephora â nhw gan ofyn iddyn nhw berfformio yn ystod agoriad eu siop yng Nghaerdydd.
Ni fyddai'r cyfle hynny wedi codi, meddai Ieuan, os nad oedd Sephora'n gwybod eu bod yn hapus troi at ganeuon modern – a 'Pink Pony Club' gan Chappell Roan oedd y dewis ar gyfer y perfformiad yna.
"Ath pawb jest yn nuts o weld y bois yn canu hwnna," meddai Ieuan.
Yn ôl Alex mae yna fyfyrwyr yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd bellach yn gwneud ymchwil ar y côr yn dilyn eu llwyddiant ar-lein gan edrych ar eu cyrhaeddiad ar wahanol blatfformau ond hefyd yn ystyried effaith corau ar lesiant dynion hŷn.
"Mae'n hynod hynod ddiddorol ac yn gyfnod cyffrous," meddai.
Yn ogystal â defnyddio'r caneuon modern yma ar gyfer fideos TikTok maen nhw'n rhan o'u harlwy wedyn sydd yn ennyn ymatebion gwahanol yn ystod eu hymweliadau ag ysgolion cynradd, meddai Ieuan.
"Yr eiliad 'nath y piano 'na ddechrau chware Pink Pony Club oedd y plant methu credu'r peth, na'r athrawon, oedd pawb yn canu pob un gair".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.