Prifysgol Aberystwyth yn ein cadw'n ddiogel rhag tywydd y gofod

Mae'r Athro Huw Morgan yn arwain tîm o Aberystwyth sy'n cydweithio gyda phrifysgolion Northumbria, Durham, a Reading
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi erioed wedi meddwl am dywydd y gofod, mae'n debyg mai'r Aurora Borealis neu Llewyrch yr Arth fydd yn dod i'ch meddwl ond mae ganddo'r gallu i effeithio ar ein bywydau mewn ffyrdd llawer mwy sylfaenol.
Mae System Leoli Fyd-eang (GPS), gridiau pŵer a lloerennau yn rhai o'r technolegau hanfodol sy'n agored i niwed os oes newidiadau ym maes magnetig y ddaear.
Yn ôl un dadansoddiad y llynedd mae modd i storm solar ddifrifol gostio 2.4 triliwn o ddoleri i economi'r byd dros gyfnod o bum mlynedd.
O ganlyniad mae'r llywodraeth wedi sefydlu tîm o arbenigwyr yn y Swyddfa Dywydd i ganolbwyntio ar dywydd y gofod - un o nifer fach ledled y byd ac mae'n weithredol 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ond gyda'r maes yn un gymharol newydd ac yn gynyddol bwysig wrth i dechnoleg fel AI ddod yn fwy canolog i'n bywydau, mae'r Swyddfa Dywydd wedi troi at arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'n edrych fel llun artist ond ffotograff o ffrwydrad ar yr haul ydy hwn
Mae'r Athro Huw Morgan sy'n bennaeth Adran Ffiseg y Gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gweithio ym maes tywydd gofod am fwy nag 20 mlynedd.
"'Da ni'n meddwl am y gofod fel rhywle gwag, ond mewn gwirionedd mae'r gofod o amgylch y ddaear yn llawn o blasma sy'n cael ei daflu allan gan yr haul yn gyson. Gwynt yr Haul 'di enw hynny.
"Weithiau bydd stormydd mawr yn atmosffer yr haul yn achosi cwmwl mawr o blasma i cael ei daflu allan i'r gofod.
"Pan mae un o rheina yn dod at y ddaear 'da ni'n galw hwnna'n dywydd y gofod achos mae'n gallu achosi newidiadau o amgylch y ddaear ac hefyd achosi problemau i ni fel cymdeithas."
Yn 2014 fe gafodd y Swyddfa Dywydd ei chomisiynu i greu tîm i ragweld tywydd gofod.
Mae'r tîm yn gweithio gyda llywodraethau, cwmnïau seiliwaith a thechnoleg fel y grid trydan, ynni niwclear a lloerennau.

Richard yn ystafell reoli y Swyddfa Dywydd
Yn ystafell reoli y Swyddfa Dywydd ar gyrion Caerwysg mae Richard Stone a'i gydweithwyr yn defnyddio offer ar y ddaear a lloerennau yn y gofod i fonitro gweithgaredd ar wyneb yr haul er mwyn cynhyrchu rhagolygon tywydd y gofod.
Mae'n caniatáu iddynt "ddiagnosio unrhyw beth sy'n digwydd ar wyneb yr haul, creu rhagolygon a rhybuddio'n cleientiaid fel eu bod yn gallu cymryd camau priodol".
Ond mae'r dechnoleg yn yn dal i fod mewn cyfnod cymharol gynnar, meddai Stone.
"Rydym wedi gwneud camau mawr ers 2014, ond mae be ni'n gallu ei weld yn dal yn gyfyngedig."
"Mewn gwirionedd mae hyn yn golygu, er gwaethaf gweld digwyddiad ar wyneb yr haul gydag oddeutu tri diwrnod o rybudd cyn iddo gyrraedd y ddaear, fod unrhyw beth sy'n teithio o'r haul tuag at y ddaear yn diflannu o'r golwg nes iddo gyrraedd lloerennau tua miliwn o filltiroedd o'r ddaear.
"Mae hynny'n rhoi dim ond awr i wyddonwyr gyfrifo yr effaith wirioneddol ar y ddaear ac mae'r rhybudd i bartneriaid, os oes angen gweithredu, yn fyr iawn.
"Mae fel gweld storm ar arfordir ddwyreiniol America ac yna gweld dim nes iddi gyrraedd Iwerddon.
"Wrth i'n dibyniaeth cynyddol ar ganolfannau data a deallusrwydd artiffisial roi straen ar y grid pŵer, gallai unrhyw fethiant neu gamgymeriad fod yn drychinebus."

Gwylio'r haul yn stafell reoli y Swyddfa Dywydd
Dyna pam mae'r asiantaeth wedi troi at grŵp o ymchwilwyr o sawl prifysgol dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth i wella'r rhagolygon mae nhw'n eu cynhyrchu.
Yn ôl yr Athro Huw Morgan, mae "angen rhagolygon - yn union fel basen ni'n gweld storm arferol ar y ddaear, 'da ni angen rhagweld stormydd yr haul".
"O ran yr effaith ar dechnoleg a systemau cyfathrebu - pethau fel 'ne, mae hynny'n rhywbeth wrth gwrs fyddech chi'n sylwi os fydde rhywbeth yn mynd o'i le efo'ch GPS yn y car, neu trio ffonio, ond yn lwcus i ni yma yng Nghymru, mae 'na systemau i ddiogelu ni ac mae rhagolygon tywydd y gofod yn rhan bwysig o hynny.
"Mae'n rhoi cyfle i'r llywodraeth neu sefydliadau eraill i baratoi.
"Be 'da ni'n wneud ydy datblygu modelau a systemau gwell iddyn nhw allu rhoi rhagolygon mwy cywir."
Bydd y prosiect yma yn adeiladu ar yr ymchwil helaeth y mae'r Athro Morgan a'i dîm wedi ei gynhyrchu ar dywydd gofod yn y gorffennol.
Y tro hwn maen nhw'n creu system rybuddio sy'n fwy cadarn ac yn haws i'r Swyddfa Dywydd a'u cleintiaid i'w defnyddio.

Llewyrch yr Arth o'r gofod
Ym maes tywydd y gofod digwyddiad Carrington yn 1859 sy'n aml yn cael ei gyflwyno fel enghraifft o'r senario gwaethaf posib.
Wedi'i henwi ar ôl y seryddwr Richard Carrington, roedd effeithiau'r storm geomagnetig fawr hon yn eang ac roedd yr awrora i'w weld yn yr awyr ar draws llawer o'r byd.
Roedd pobl yn ofnus, ond effaith arall oedd beth ddigwyddodd i'r rhwydwaith telegraff - a oedd newydd ddechrau gweithredu'n fasnachol yn y 1840au.
Dywed Richard Stone bod "y gwifrau telegraff yn hwmian ac yn cracio yn ystod y storm a bod y polion telegraff yn gweithio heb unrhyw drydan oherwydd bod yr ynni mor uchel".
Y pryder nawr yw y byddai digwyddiad Carrington modern yn cael canlyniadau llawer mwy oherwydd ein dibyniaeth cynyddol ar dechnoleg - digwyddiad y mae gwyddonwyr yn gobeithio ei osgoi.