Sam Vokes, un o arwyr Cymru yn Euro 2016, i ymddeol o bêl-droed

Roedd Vokes, 36, yn chwaraewr pwysig yn nhîm Cymru wnaeth gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016
- Cyhoeddwyd
Mae Sam Vokes, un o sêr ymgyrch Cymru yn Euro 2016, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o bêl-droed ar ddiwedd y tymor.
Bydd yr ymosodwr, sy'n chwarae i Gillingham yn Adran Dau, yn dod â'i yrfa i ben wedi'r gêm yn erbyn Amwythig ar 2 Mai.
"Mae 20 mlynedd wedi mynd heibio ers fy ngêm gyntaf ac ar ôl 750 o gemau, gan gynnwys 64 cap dros Gymru, byddai'n chwarae am y tro olaf yn Gillingham ddydd Sadwrn," meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Dwi'n teimlo mai nawr yw'r amser iawn i ymddeol o yrfa rydw i wedi caru."

Vokes yn sgorio'r drydedd gôl i Gymru yn erbyn Gwlad Belg yn Euro 2016
Roedd Vokes, 36, yn chwaraewr pwysig yn nhîm Cymru wnaeth gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 am y tro cyntaf.
Sgoriodd y drydedd gôl i Gymru yn y fuddugoliaeth enwog dros Wlad Belg i sicrhau lle yn y pedwar olaf.
Ychwanegodd Vokes, a sgoriodd 11 gwaith dros ei wlad: "Roedd cynrychioli Cymru 64 gwaith dros 12 mlynedd a phrofi popeth sy'n dod gyda phêl-droed rhyngwladol yn freuddwyd.
"Roedd rhannu ystafell newid Cymru gyda'r holl chwaraewyr, rheolwyr, hyfforddwyr ac aelodau staff anhygoel yn fraint.
"Mae cael y cyfle i fynd ar y daith anhygoel yna gyda Chymru, o'r cyfnodau anodd i uchafbwyntiau 2016 a chynrychioli'r wlad ledled y byd yn rhywbeth na fydda i byth yn ei anghofio."
Chwaraeodd Vokes dros 200 o gemau i Bournemouth yn Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth.
Chwaraeodd i nifer o dimau eraill hefyd, gan gynnwys Stoke City, Wolverhampton Wanderers a Wycombe Wanderers, cyn symud i Gillingham y llynedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.