Cyrff yn ceisio atal 'tipio gwastraff' ger dau bentref

Gwastraff Ffordd TalwrnFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cwmni sy'n berchen ar y safle eu bod yn defnyddio deunydd adeiladu wedi'i ailgylchu o "ansawdd uchel"

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Wrecsam a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau cyfreithiol yn dilyn adroddiadau bod gwastraff yn cael ei ollwng ar gyrion dau bentref.

Mae pobl leol yn dweud fod lorïau wedi bod yn gyrru yn ôl ac ymlaen i gae ger Ffordd Talwrn yng Nghoed-poeth ers rhai wythnosau erbyn hyn, yn gadael rwbel sy'n cynnwys "darnau o hen doiledau".

Hanner milltir i ffwrdd ym mhentref Mwynglawdd, mae dwsinau o lorïau wedi bod yn gwneud yr un peth ar gae ger cartrefi, gyda charafanau a pheiriannau symud tir wedi ymddangos ar y safle hefyd.

Mae'r cwmni sy'n berchen ar y safle yng Nghoed-poeth yn gwadu gollwng gwastraff, gan ddweud eu bod yn defnyddio deunydd adeiladu wedi'i ailgylchu o "ansawdd uchel" i greu ardal hyfforddi ceffylau a stabl.

Dywedodd Reg Davies, sy'n byw yn y pentref, ei fod yn "dinistrio ein pentref ac yn llygru'r amgylchedd yn ddifrifol drwy ollwng gwastraff unregulated – allai gynnwys sylweddau peryglus fel asbestos, PCBs ac ati.

"Dydyn ni ddim yn gwybod be' sy' ynddo fo."

Safleoedd gwastraffFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun pobl leol o'r awyr o'r ddau safle gyda'r cae ger Ffordd Talwrn yn y cefndir

Dywedodd person arall sy'n byw gerllaw, nad oedd eisiau cael ei enwi, bod y sefyllfa yn "dorcalonnus".

"Mae ar raddfa ddiwydiannol. Mae'n drychinebus ei weld," meddai, gan ychwanegu ei fod yn ofni y bydd y gwastraff byth yn cael ei symud.

Reg Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reg Davies yn poeni bod "sylweddau peryglus" yn y gwastraff

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi ymweld â'r safle i gasglu tystiolaeth a'u bod yn cymryd y mater o ddifrif.

Ychwanegon nhw eu bod wedi cyflwyno camau gorfodi er mwyn cael gwared â'r gwastraff o'r safle.

Dywedodd Cyngor Wrecsam eu bod wedi cyflwyno hysbysiad stop (stop notice) dros dro wedi i "swm sylweddol o ddeunydd gael ei adael ar y tir heb ganiatâd cynllunio", ond bod hynny wedi'i anwybyddu a bod lorïau yn dal i adael deunydd yno.

Maen nhw'n dweud eu bod yn cyflwyno hysbysiad gorfodi ynghyd â hysbysiad stop "i unioni'r sefyllfa a sicrhau bod y tir yn cael ei adfer".

Gwastraff Ffordd TalwrnFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol yn dweud bod "pibellau plastig a metal" a "darnau o hen doiledau" yn y gwastraff

Mae cwmni SOS Aggregates, sydd wedi'u lleoli yn Rhosymedre gerllaw, yn dweud mai nhw sy'n berchen ar y tir ger Ffordd Talwrn, a'u bod yn rhoi "deunydd llenwi gradd 1A" ar y tir er mwyn creu arwyneb gwastad ar gyfer sefydlu arena ar gyfer ceffylau.

Gwadodd y cwmni eu bod wedi parhau i ollwng deunydd ar y safle tra bod gorchymyn stop dros dro mewn grym, ond dywedon nhw eu bod wedi parhau â'r gwaith unwaith i'r gorchymyn ddod i ben.

Dywedon nhw eu bod wedi dweud wrth y cyngor y byddan nhw'n cyflwyno cais cynllunio yr wythnos hon, a'u bod hefyd yn ceisio cyngor cyfreithiol.

Ychwanegon nhw byddan nhw'n darparu tystiolaeth i CNC ynghylch y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio ar y safle.

GwastraffFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Daw'r ymchwiliadau yng Nghoed-poeth wrth i safle arall – tua hanner milltir i ffwrdd ar gyrion pentref Mwynglawdd – weld dwsinau o lorïau yn gollwng gwastraff, gyda charafanau yn cael eu gosod gyferbyn â thai preswyl dros benwythnos gŵyl y banc.

Dywedodd un preswylydd fod "llawer iawn o ddifrod" wedi'i achosi o fewn ychydig oriau, wrth i ddeunydd "o natur anhysbys" gael ei ollwng ar gae gyferbyn â thai yn Nantlais.

Cafodd y tir ei werthu tua deufis yn ôl, ond does dim cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer datblygu ar y safle.

Dywedodd SOS Aggregates eu bod wedi cludo deunydd adeiladu wedi'i ailgylchu i'r safle, ond nad ydyn nhw'n rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud yno ac nad nhw sy'n berchen ar y tir.

Mae Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno hysbysiad stop dros dro ar y safle, gan ddweud bod y gwaith yn groes i reolau cynllunio a'u bod "wedi newid defnydd y tir i safle sipsiwn a theithwyr".

Dywedodd CNC eu bod yn ymchwilio i natur y deunydd ar y safle ac y byddan nhw'n gweithredu os oes angen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig