'Dim targed clir na chynllun' i ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg - Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn rhybuddio y gallai teuluoedd newydd droi at ofal plant cyfrwng Saesneg os nad oes darpariaeth Gymraeg leol ar gaelFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mudiad Meithrin yn rhybuddio y gallai teuluoedd newydd droi at ofal plant cyfrwng Saesneg os nad oes darpariaeth Gymraeg leol ar gael

GanElliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Does yna "ddim targedau clir, na chynllun yn ei le" er mwyn gwireddu ymrwymiad Plaid Cymru i ehangu'r ddarpariaeth gofal plant am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl prif weithredwr Mudiad Meithrin.

Mae Dr Catrin Edwards yn poeni y bydd nifer o rieni'n dewis gofal plant cyfrwng Saesneg os nad yw'r ddarpariaeth Gymraeg ar gael yn lleol iddyn nhw.

Daw'r sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ddydd Iau y bydd 19 awdurdod lleol yn cynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim ar gyfer pob plentyn dwy oed erbyn diwedd mis Tachwedd.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod "ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o'n cynlluniau i ehangu gofal plant a ariennir".

Dr Catrin EdwardsFfynhonnell y llun, Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Catrin Edwards, mae angen targedau clir i sicrhau twf sylweddol mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg

Mae Dr Edwards yn credu bod Llywodraeth Cymru yn "colli cyfle" os nad ydyn nhw'n sicrhau bod gofal plant cyfrwng Cymraeg yn "cynyddu'n sylweddol" wrth ehangu'r cynnig gofal plant am ddim.

"'Da ni'n gwybod mai cyfleustra yw'r rheswm pennaf dros ddewis gofal plant. Felly mae'n rhaid i'r ddarpariaeth gofal Cymraeg fod yn gyfleus, a rhaid cael mwy o gylchoedd meithrin cyfrwng Cymraeg ym mhob ardal.

"Pan ry'n ni'n brysur yn y bore ac yn gorfod cyrraedd y gwaith erbyn 09:00, os wyt ti'n gorfod mynd y filltir ychwanegol yna, ac mewn rhai achosion sawl milltir ychwanegol.

"Os wyt ti'n gorfod mynd heibio gofal plant wedi'i gyllido sy'n gyfrwng Saesneg, sawl gwaith mae hynny'n mynd i ddylanwadu ar dy benderfyniad di o ran ble wyt ti'n rhoi dy blentyn di?"

'Rhaid i'r ddarpariaeth gofal Cymraeg fod yn gyfleus'

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, rhwng mis Ebrill ac Awst, roedd 19% o blant dwy oed sy'n derbyn gofal wedi'i ariannu yn mynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg.

Ond mae'r ffigwr yn amrywio'n sylweddol o un awdurdod i'r llall, o 100% yn Ynys Môn, 94% yng Ngwynedd a 90% yng Ngheredigion, i 0% yn Sir Fynwy, 3% yn Sir y Fflint a 4% yn Abertawe.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y cynnig o 12.5 awr o ofal plant yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn ar gael i bob plentyn dwy oed cyn diwedd mis Mawrth, rhywbeth yr oedd y llywodraeth Lafur ddiwethaf wedi'i addo'n wreiddiol ond wedi methu â'i gyflawni.

Dywed y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, fod ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i 19 awdurdod lleol yn "garreg filltir bwysig"Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, fod ehangu'r cynnig gofal plant am ddim i 19 awdurdod lleol yn "garreg filltir bwysig"

Y bwriad wedyn yw cynyddu'r cynnig i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn cyn ehangu ymhellach i blant iau.

Y nod yw cynnig gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed erbyn 2030.

Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, mae ehangu'r cynnig llawn i 86% o awdurdodau lleol yn "garreg filltir bwysig".

"Pan ddaethom ni i rym ym mis Mai, dim ond tri awdurdod lleol oedd yn cynnig gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed. Dim ond chwe mis yn ddiweddarach, bydd 19 awdurdod lleol yn darparu'r cynnig erbyn diwedd y mis hwn, gyda'r tri arall ar y trywydd iawn i wneud hynny erbyn diwedd mis Mawrth."

'Colli'r cyfle gyda theuluoedd newydd'

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i "gefnogi ac ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg, gan gryfhau'r llwybr o'r blynyddoedd cynnar i addysg cyfrwng Cymraeg".

Ond mae Dr Catrin Edwards yn galw am gynllun penodol gyda thargedau clir os yw'r llywodraeth am weld yr 19% sy'n derbyn gofal cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd yn "cynyddu'n sylweddol cyn diwedd y tymor seneddol yma".

"Mae 'na risg go iawn, os nad ydym ni'n gweld ehangiad gofal plant cyfrwng Cymraeg ar raddfa fwy cyflym na'r sector Saesneg, yna ry'n ni'n mynd i golli'r cyfle gyda rhieni a theuluoedd newydd, a phlant i gael eu cyflwyno i'r Gymraeg yn gynnar iawn."

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi sefydlu ffrwd waith benodol o fewn y cynlluniau ehangu i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Rydyn ni'n benderfynol o sicrhau bod gofal plant cyfrwng Cymraeg yn tyfu law yn llaw â'r ehangu hwn, gan roi mwy o gyfleoedd i blant glywed a defnyddio'r Gymraeg o'u blynyddoedd cynharaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.