Yr ysgolhaig a'r casglwr caneuon gwerin Roy Saer wedi marw yn 90 oed

Y diweddar Roy Saer sydd wedi marw yn 90 oedFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Roy Saer sydd wedi marw yn 90 oed

  • Cyhoeddwyd

Yn 90 oed bu farw'r arbenigwr ar ganu gwerin Cymru, D Roy Saer.

Roedd yn cael ei gydnabod yn awdurdod ar hanes y gân werin, ac roedd yn awdur ar nifer o lyfrau ac erthyglau ar y traddodiad gwerin - yn offerynnol a lleisiol.

Yn enedigol o Hebron yn Sir Gaerfyrddin cafodd ei benodi yn gynorthwy-ydd ymchwil yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn 1963, ac yno y dechreuodd y gwaith o gasglu caneuon gwerin.

Fel y dywedodd ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru yn 2019, cafodd ei "swyno" yn syth wrth ddechrau gwrando ar ganeuon.

"Dwi'n cofio tua'r ail ddiwrnod, gofynnodd Vincent Phillips y pennaeth adran i fi - oedd e wedi sylwi bod na ryw gyfeiriadau at gerddoriaeth yn y cais, a gofyn 'swn i'n licio gwrando ar rai o'r hen gantorion odd e wedi'u recordio ei hunan - Bertie Stephens y mwya nodedig, oedd wedi canu tua 70 neu 80 o ganeuon iddo... yn Llangeitho erbyn hynny - dod o Abergorlech yn Sir Gâr... wel erbyn i fi ddechrau gwrando ar rhain ces i'n swyno yn syth o fewn dyddiau - dyma o'n i eisiau wneud."

Roy Saer ar y llwyfan gyda'r cyflwynydd Lisa Gwilym yn derbyn Gwobr Cyflawniad OesFfynhonnell y llun, Elissa Morris
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2019 cafodd Roy Saer ei anrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Gwerin Cymru

Am flynyddoedd bu'n casglu ac yn cofnodi caneuon gwerin Cymraeg, gan deithio drwy Gymru gyda charafan yn recordio unigolion yn canu a chasglu eu hatgofion am ganeuon traddodiadol.

Roedd hynny yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon - yn eu plith y traddodiad canu plygain.

Bwriad y prosiect gyda'r amgueddfa oedd sicrhau nad oedd caneuon gwerin yn diflannu am byth, a chan gydweithio gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, byddai Roy Saer yn astudio'r caneuon a gasglwyd ers ffurfio'r Gymdeithas ym 1906, gan gofnodi unrhyw newidiadau a datblygiadau yn y caneuon.

Dros y blynyddoedd cofnododd gannoedd o ganeuon gan gyfrannu at y casgliad sydd yn archif yr Amgueddfa Werin.

Roedd yn mynychu cynadleddau Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ers 1963, a daeth yn Llywydd Anrhydeddus ar y gymdeithas.

Yn 2019 cafodd Roy Saer ei anrhydeddu yn noson Gwobrau Gwerin Cymru, gyda Gwobr Cyflawniad Oes am ei ddegawdau o waith ym maes caneuon traddodiadol Cymru.

Yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las cynhaliwyd rhaglen deyrnged i ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.

Mae Roy Saer yn gadael tri o feibion - Dafydd, Ifan ac Owen. Bu farw ei wraig Ann yn 2018.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.