Cyngor Sir Gâr i ystyried cynlluniau posib i gau rhagor o ysgolion

Mae Ysgol Pontiets yn un o bedair ysgol sydd yn rhan o ddogfennau ymgynghori ar gynlluniau posib i'w cau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cyngor Sir Gâr yn trafod cynllun posib i gau pedair ysgol gynradd arall yn y sir.
Bydd dogfennau ymgynghori ar gau Ysgol Blaenau yn Llandybïe, ac Ysgolion Bancffosfelen, Pontiets a Charwe yng Nghwm Gwendraeth yn cael eu trafod gan Bwyllgor Craffu Addysg y sir ar 13 Hydref.
Mae Newyddion S4C yn deall mai'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan swyddogion yw cau'r pedair ysgol, er na fydd penderfyniad am beth amser eto.
Os ydy'r cynghorwyr yn cefnogi'r argymhellion, fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 10 Tachwedd a 22 Rhagfyr 2026, ac fe allai'r pedair ysgol gau ar 31 Rhagfyr 2027.
Bydd y pwyllgor craffu yn cwrdd ddiwrnod yn unig cyn bod y cyngor llawn yn gwneud penderfyniad terfynol ar gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn.

Mae Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith wedi disgrifio'r cynlluniau posib fel "ymosodiad ar ein cymunedau ni"
Dyma'r "bygythiad mwyaf i'r cymunedau Cymraeg hyn yng Nghwm Gwendraeth ers streic y glowyr" yn y 1980au, yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith.
"Bydden ni yn dweud mai dyma'r effaith gwaethaf ers dyddiau Thatcher ar ein cymunedau ni.
"Mae'n ymosodiad ar ein cymunedau ni. Ar ôl y pedair yma bydd yna 15 o rai eraill lan i gael eu cau hefyd."
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor sir bod yn rhaid sicrhau "bod y ddarpariaeth addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy, yn effeithiol ac yn diwallu anghenion dysgwyr cenedlaethau'r dyfodol".
Ym mis Ionawr 2026, roedd yna 3,500 o lefydd gwag ar draws 94 o ysgolion.
Fe allai'r diffyg ariannol i ysgolion y sir gyrraedd bron i £16m.
'Sefyllfa ariannol anghynaliadwy'
Mae yna ddicter mawr o fewn y cymunedau allai gael eu heffeithio.
Dywedodd Elin Cullen, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Pontiets, ei bod hi'n "siomedig ofnadwy" gyda'r newyddion, er mai dim ond 20 o ddisgyblion sydd ar ôl.
Mae hi'n dweud bod yr ysgol wedi wynebu ansicrwydd "am dros flwyddyn", a bod niferoedd wedi gostwng wrth i rieni symud eu plant.
"Mae Anna Brychan yn dweud ei bod hi am gefnogi a datblygu yr iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn a nawr maen nhw yn cau ysgolion.
"A dyma'r lle gorau i ddatblygu iaith. Fi'n credu bod e'n mynd i gael effaith ofnadwy ar y cwm."
Mae'r cyngor yn dweud bod ysgolion wedi eu clustnodi ar sail nifer isel y disgyblion, llefydd gwag, diffygion yn y gyllideb neu ragolwg o ddiffyg o fewn y flwyddyn ariannol.
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Glynog Davies bod rhaid ystyried "sut mae ein hysgolion wedi'u trefnu" wrth wynebu heriau fel llai o ddisgyblion a "sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy".

Yn ôl Sioned Lewis, sydd yn rhiant ac yn llywodraethwr ar Ffederasiwn Gwynfryn, Carwe a Phonthenri mae nhw'n "grac" ac yn "siomedig"
Bu'n rhaid cau adeilad Ysgol Carwe ym mis Medi 2025 ar fyr rybudd oherwydd problemau gyda'r adeilad, cafodd disgyblion eu symud i Ysgol Gwynfryn ym Mhontiets.
Yn ôl Sioned Lewis, sydd yn rhiant ac yn llywodraethwr ar Ffederasiwn Gwynfryn, Carwe a Phonthenri, mae'r penderfyniad yn "codi teimladau cryf mewn pobl" ac maen nhw yn "grac ac mae'n siom".
"Mae'r posibilrwydd bod Cyngor Sir Gâr yn mynd i gynnig cau Ysgol Carwe wedi dod fel sioc enfawr i ni gyd yr wythnos hon, yn enwedig ar ôl addewid o swm sylweddol o arian i wella'r ysgol oherwydd y diffygion adeiladol.
"Mae'n teimlo bod yr adeilad yn mynd i ddirywio - heb ysgolion cefn gwlad, beth sydd yn digwydd i gymunedau lleol a'r Gymraeg?
"Ni'n cymryd e'n bersonol bron. Pam ysgolion bach ni sydd yn gorfod cau?
"Mae'r cyngor wedi addo'r arian. I ble mae'r arian yna yn mynd i fynd nawr dwedwch os nad yw nhw yn mynd i drwsio Ysgol Carwe?"

Mae yna 48 o ddisgyblion yn Ysgol Bancffosfelen ar hyn o bryd
Yr un yw'r dicter yn ardal Bancffosfelen, ble mae 48 o ddisgyblion yn ysgol y pentref ar hyn o bryd.
Dywedodd Aled Davies sy'n llywodraethwr yn yr ysgol bod y newyddion "wedi ein llorio ni ac ein taro ni fel syndod".
"Dyw'r darlun sydd yn cael ei roi o Ysgol Bancffosfelen yn yr adroddiad sydd yn cael ei gyflwyno ddim yn ddarlun ni'n adnabod," meddai.
"Da ni fel llywodraethwyr yn nabod yr ysgol yn dda iawn.
"Mae hi'n ysgol sydd yn llwyddo i ddarparu addysg o safon ardderchog yng nghalon y gymuned ym Mancffosfelen.
"Mae yna nifer o bethau sydd yn anghyson ac yn wallus yn yr adroddiad a da ni'n galw ar yr awdurdod i ddal yn ôl nes bod ganddyn nhw ddarlun cywir, cyn ystyried ei dyfodol."
Mae Ysgol Blaenau yn Llandybïe hefyd dan fygythiad.
Yn ôl adroddiad y cyngor, mae yna 28 o ddisgyblion, ond mae gan yr ysgol ddiffyg ariannol o £287,857 sydd yn debygol o godi i £362,556 yn 2026/27.
Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Craffu, bydd cynigion y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael eu cyflwyno i gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025

