Mam yn poeni y bydd gan ei babi greithiau am oes wedi damwain 'erchyll' mewn bwyty

Neli gyda phlaster ar ei llawFfynhonnell y llun, Kennedy News and Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Griffiths am drafod yr hyn ddigwyddodd i'w merch er mwyn ceisio osgoi damweiniau tebyg yn y dyfodol

GanIfan Ywain
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r llun isod beri gofid i rai

Mae mam o Fangor yn poeni y bydd gan ei merch fach greithiau am oes ar ôl tywallt grefi chwilboeth ar hyd ei braich a'i choes tra allan am bryd o fwyd.

Roedd Catrin Griffiths, 29, wedi mynd am ginio dydd Sul gyda'i theulu a'i babi wyth mis oed, Neli ar 16 Awst.

Pan gafodd y bwyd ei weini, mae Ms Griffiths yn honni bod aelod o staff, mewn camgymeriad, wedi rhoi jwg llawn grefi poeth ar y bwrdd o flaen ei merch.

Dywedodd Ms Griffiths fod Neli wedi rhoi ei llaw chwith i mewn i'r jwg ac wedi gweiddi mewn poen, ac yna wrth dynnu ei llaw i ffwrdd aeth gweddill yr hylif ar hyd ei choes.

Ar ôl tynnu ei dillad a rhoi ei llaw dan ddŵr oer am gyfnod yn y bwyty, fe wnaeth Ms Griffiths gludo ei merch i Ysbyty Gwynedd, Bangor - ond oherwydd difrifoldeb y llosgiadau, cafodd ei symud yn ddiweddarach i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

Llosgiadau ar law NeliFfynhonnell y llun, Kennedy News and Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Griffiths yn dweud i'r doctor ddisgrifio'r anaf i law Neli fel llosg trydydd gradd

Mae Ms Griffiths yn dweud ei bod yn gweld y digwyddiad fel "camgymeriad gwirion" ond mae'n rhybuddio pobl i beidio â rhoi hylifau poeth o flaen babis rhag ofn i rywbeth tebyg ddigwydd eto.

"Wrth ddod â'r bwyd allan cafodd jwg grefi poeth ei roi ar y bwrdd reit o flaen Neli... 'sa chi byth yn rhoi peint o gwrw neu baned o de o flaen babi, felly pam gwneud hyn?

"Pan mae 'wbath fel hyn yn digwydd i'ch plentyn chi, ac mae'n digwydd mor sydyn, 'da chi'n dechrau mynd i banig.

"... Ro'n i'n torri 'nghalon achos o'n i'n teimlo mor ddiwerth gan bo' fi methu neud dim ond aros a'i gwylio hi mewn poen, o'dd o'n erchyll."

'Ddim yn gwybod os ydy'r creithiau am wella'

Ers y digwyddiad mae Ms Griffiths wedi bod yn mynd â Neli yn ôl i'r ysbyty ar sawl achlysur i sicrhau bod yr anafiadau'n gwella, ond mae hi'n poeni y gallai hi fod wedi ei chreithio am oes.

"Mae 'na lot o greithiau ar ei llaw ar hyn o bryd, a dydyn nhw ddim yn gwybod os ydy'r rhain am wella neu ddim.

"Pan mae hi'n mynd i'r bath mae ei llaw yn mynd yn goch iawn, ac mae'n rhaid i ni fod yn ofalus gyda hi yn yr haul hefyd.

Nod Ms Griffiths nawr ydy codi ymwybyddiaeth o'r fath yma o ddigwyddiadau er mwyn ceisio osgoi damweiniau tebyg yn y dyfodol.

"Os 'na 'sa hyn wedi digwydd i Neli, fyswn i 'rioed wedi meddwl bod hyn yn rhywbeth i'w boeni amdano fo," meddai.

"Pan maen nhw'n cyrraedd yr oedran yma ma' nhw eisiau dysgu ac maen nhw'n ceisio cyffwrdd bob dim.

"Byddwch yn ofalus a jest meddyliwch cyn i chi roi pethau o flaen plentyn mor ifanc."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig