Dyn 'ddim yn rasio ar unrhyw adeg' cyn gwrthdrawiad laddodd tad i ddau

Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad fis Tachwedd 2024, ac fe gafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae brawd gyrrwr oedd mewn gwrthdrawiad ger y Trallwng a laddodd dyn ac anafu bachgen 9 oed yn ddifrifol, wedi dweud wrth lys nad oedd wedi ei annog i yrru'n beryglus ac nad oeddent wedi bod yn rasio.
Mae Umar Ben Yusaf, 35, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus, ynghyd â'i frawd Abubakr Ben Yusaf, a oedd yn gyrru'r BMW a oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad.
Bu farw Rhys Jenkins, tad i ddau o blant o Ddeuddwr ym Mhowys, yn lleoliad y gwrthdrawiad ym mis Tachwedd 2024, ac fe gafodd ei fab, Ioan ei anafu'n wael.
Mae'r brodyr yn gwadu'r holl gyhuddiadau.
'Doeddwn i ddim yn rasio ar unrhyw adeg'
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd Umar Ben Yusaf ei fod ef a'i frawd yn teithio'n ôl i'w cartref teuluol ym Manceinion mewn ceir gwahanol ar noson y digwyddiad ar 16 Tachwedd 2024.
Dywedodd Ben Yusaf wrth y rheithgor mai ef oedd y cyntaf i adael y fflat ac nad oedd yn gwybod pryd wnaeth ei frawd adael.
Dywedodd nad oedden mewn cyswllt yn ystod y siwrne, nac yn dilyn lleoliad ei gilydd.
Pan gafodd ei holi a oedd yn fwriad ganddo i rasio ei frawd yn ôl i Fanceinion, dywedodd "nac oedd".
Cafodd Mr Ben Yusaf ei atgoffa am dystiolaeth ANPR wrth ffordd osgoi Y Drenewydd, a ddangosodd ei fod chwe eiliad y tu ôl i BMW ei frawd yn ei Audi, ond dywedodd nad oedd wedi gweld cerbyd ei frawd.
"Oeddech chi'n rasio ar y pwynt hwnnw?" gofynnodd ei fargyfreithiwr Sean Minihan.
"Doeddwn i ddim yn rasio ar unrhyw adeg," atebodd.
Cytunodd ei fod wedi goddiweddyd (overtake) rhai cerbydau ar y daith, ond dywedodd ei fod wedi gwneud hynny "mewn modd diogel" bob tro.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng
Fe wnaeth gyfaddef, wedi iddo weld lluniau dashcam, ei fod wedi goddiweddyd cerbyd a oedd yn eiddo i Emma Crabtree, un o'r tystion, 20 eiliad ar ôl ei frawd.
Ond dywedodd nad oedd wedi gweld ei frawd o'i flaen. Nid oedd yn gwybod pa mor gyflym yr oedd yn teithio ei hun, oherwydd ei fod yn "canolbwyntio ar y ffordd ac yn cwblhau'r symudiad", meddai.
Aeth ymlaen i ddisgrifio gweld car o'i flaen, yn syth ar ôl iddo oddiweddyd fan, yn "symud o ochr i ochr".
Dywedodd ei fod wedi gweld y goleuadau brêc, ond nad oedd y car "dan reolaeth... fe darodd yr ymyl a chafodd ei daro i'r dde, gan deithio i'r ochr".
"Clywais sŵn mawr iawn... Dwi ddim yn cofio gweld y car yn taro car arall... Digwyddodd mewn ychydig eiliadau."

Mae Abubakr Ben Yusaf a'i frawd Umar Ben Yusaf yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn
Dywedodd Mr Ben Yusaf ei fod "wedi ofni" pan welodd y car yn symud, ac fe arafodd.
Er iddo allu gweld y cerbyd, oherwydd ei bellter dywedodd "nad oedd yn gallu gweld beth oedd e".
Fe aeth ymlaen i ddisgrifio ceisio osgoi darnau car ar y lon, a dywedodd iddo sylwi mai BMW coch oedd y car pan aeth y car i'r ochr, ac fe wnaeth hynny "fy ngwneud hyd yn oed yn fwy ofnus".
Dywedodd Mr Ben Yusaf wrth y rheithgor iddo stopio ei gar a cherdded tuag at y gwrthdrawiad, gweld ei frawd yn eistedd yn y BMW a gwnaethon nhw edrych ar ei gilydd.
"Dywedais i wrtho i aros lle yr oedd, ac i beidio â symud," meddai.
Yna aeth draw at gerbyd Mr Jenkins a gweld bod ochr y gyrrwr wedi'i ddifrodi'n fawr, aeth i ochr y teithiwr a galw am ymateb, ond ni chafwyd unrhyw ymateb.
'Mewn panig a sioc'
Roedd Mr Ben Yusaf dan deimlad yn sôn sut wnaeth alw ar rywun gerllaw i ddod i helpu, ac fe gariodd blentyn anymwybodol o'r car a'i roi i lawr wrth ochr y ffordd.
Daeth mwy o bobl, meddai, ac aeth i weld sut roedd ei frawd, gan ddarganfod ei fod wedi gadael y BMW ac yn eistedd yn ei Audi.
"Doedd e ddim yn edrych yn dda... doedd e ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd na lle'r oedd e…
"Meddyliais i, mae angen i mi gael rhywun i'w weld, dydw i ddim yn gwybod maint yr anafiadau.
"Roeddwn i mewn sioc a phanig."
Dywedodd Mr Ben Yusaf na ffoniodd 999, ond gyrrodd tuag at y Trallwng, gan ffonio ei frawd hŷn ar ei ffôn symudol drwy'r car ar y ffordd i ddweud ei fod yn mynd i'r ysbyty.
"Fe wnes i ddweud beth ddigwyddodd. Fe sylwodd fy mod i mewn panig ac fe wnaeth e geisio fy nhawelu."
Parciodd mewn siop Tesco a mynd tu mewn i ddefnyddio'r toiled.
Dywedodd y brawd hynaf y dylen nhw ddychwelyd i safle'r gwrthdrawiad lle byddai ambiwlans.
Gyrrwr yn gwadu rasio ei frawd cyn gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dau frawd yn 'rasio yn erbyn ei gilydd' cyn gwrthdrawiad angheuol - llys
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Gofynnwyd iddo sut y cafodd ei gar ei atal gan Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wrth iddynt geisio mynd yn ôl, a dywedodd ei fod wedi dweud wrthyn nhw fod y ddamwain wedi'i hachosi gan falurion a mwd ar y ffordd.
Yn fuan wedyn anfonodd neges destun at ei frawd hŷn i ddweud ei fod yn credu y byddai'n cael ei arestio.
Gofynnwyd iddo pam na wnaeth ateb cwestiynau'r heddlu mewn cyfweliad, a dywedodd bod hynny ar gyngor y cyfreithiwr ar ddyletswydd, gan ychwanegu ei fod yn credu ei bod yn "gywir" i "ymddiried mewn gweithiwr proffesiynol yn eu harbenigedd".
Mae Abubakr Ben Yusaf hefyd yn gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.