GIG Cymru wedi methu â chyrraedd targedau rhestrau aros cyn etholiad y Senedd

Mae rhestrau aros wedi gostwng naw mis yn olynol, ond mae'n dal yn llawer uwch na'r targed a osodwyd gan y gweinidog iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r ystadegau iechyd diweddaraf yn dangos fod y gwasanaeth iechyd wedi methu â chyrraedd tri tharged allweddol gafodd eu gosod gan yr Ysgrifennydd Iechyd i'w cyflawni cyn etholiad y Senedd.
Ymrwymiad Jeremy Miles oedd, erbyn mis Mawrth eleni, y byddai maint y rhestr aros wedi gostwng o 200,000, a byddai neb yn aros yn hirach na 2 flynedd am driniaeth, na mwy nag 8 wythnos am brawf diagnostig.
Ond mae ffigyrau dros dro ar gyfer mis Mawrth yn dangos bod tua 667,000 o achosion ar restrau aros o gymharu â 791,607 pan osododd Jeremy Miles ei darged yn Ebrill y llynedd.
Mae hynny'n ostyngiad sylweddol, ond yn brin o'r 200,000 gafodd ei addo.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod tua 2,600 o bobl wedi aros dros ddwy flynedd am driniaeth sy'n meddwl fod y targed o gael gwared ar yr holl arhosiadau o'r hyd yma wedi ei fethu.
Does dim ffigyrau dros dro ar gyfer Mawrth ar gael am amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig.
Ond dangosodd ffigyrau swyddogol mis Chwefror fod tua 38,500 o achosion wedi aros wyth wythnos am brawf diagnostig - ffigwr sydd fwy neu lai yr un peth ag yn Ebrill y llynedd - pan osododd yr Ysgrifennydd Iechyd y targed i ostwng y ffigwr hwn i 0.
'Aros chwe blynedd am ben-glin wrth iddi fynd yn anoddach i symud'
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl
Gwasanaeth iechyd yn debygol o fethu targed rhestrau aros cyn yr etholiad
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r ffigurau gan StatsCymru yn dangos rhai gwelliannau.
Mae cyfanswm y bobl sy'n aros am driniaeth ar ei isaf ers Rhagfyr 2021, ond mae'n dal tua 543,400 o bobl – gan fod rhai pobl ar fwy nag un rhestr.
Mae'r nifer sy'n aros mwy na 36 wythnos hefyd ar ei isaf ers Medi 2020.
Ond wrth i'r nifer sy'n aros yr amseroedd hiraf leihau, mae'r niferoedd sy'n aros llai na 26 wythnos wedi codi i'w lefel uchaf ers Mai 2020.
Ni wellodd y perfformiad yn erbyn y targed canser ym mis Chwefror, gyda 57% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ar ôl amheuaeth o ganser.
Mae ffigurau gofal brys yn gymysg hefyd. Ni chyrhaeddwyd y targed amser ymateb ar gyfer ambiwlansys ar gyfer galwadau porffor a choch – y rhai mwyaf brys.
Er bod mwy o bobl yn mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys ym mis Mawrth, gwellodd perfformiad ar gyfer arosiadau 4 awr, ond gwaethygodd ar gyfer arosiadau 12 awr.
Roedd yr amser cyfartalog a dreuliwyd mewn adrannau brys hefyd yn hirach ym mis Mawrth o'i gymharu â Chwefror.
Un o'r prif resymau am oedi yn GIG Cymru yw nifer y cleifion sy'n aros yn yr ysbyty er eu bod yn ddigon iach i fynd adref.
Mae'r niferoedd hyn wedi bod yn gostwng yn raddol, ac ym mis Mawrth roedd ychydig o dan 1,400 o oedi yn y llwybr gofal, sef gostyngiad o gymharu â mis Chwefror."

Ambiwlansys yn ciwio tu allan i uned frys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd
Ymateb y pleidiau
Mewn ymateb i'r ffigyrau dywedodd Plaid Cymru: "Does dim byd yn dangos record Llafur yn y llywodraeth yn well na'r ffaith bod 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ar restr aros y GIG. Mae miloedd yn dal i aros mwy na 2 flynedd am driniaeth.
Os cawn nhw eu hethol, mae'r blaid yn addo sefydlu 10 canolfan fyddai'n caniatáu i bobl gael llawdriniaethau yn gyflymach.
Dywedodd y Ceidwadwyr bod y ffigyrau diweddaraf "yn dangos yn glir record Llafur a Phlaid dros y 27 mlynedd diwethaf: targedau wedi'u methu, addewidion wedi'u torri, a chleifion yn talu'r pris".
Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n datgan "argyfwng iechyd" cenedlaethol er mwyn blaenoriaethu adnoddau er mwyn clirio'r ôl-groniad mewn rhestrau aros erbyn 2030.
Dywedodd y Blaid Werdd bod y ffigyrau yn "dangos system mewn argyfwng."
Maen nhw'n dweud y bydden nhw'n canolbwyntio mwy ar atal ac ar drin yn gynnar, tra'n gweithredu nawr i leihau rhestrau aros a lleihau'r pwysau ar adrannau brys.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, bod "rhestrau aros wedi gostwng am naw mis yn olynol, sy'n record".
Mae'r amser cyfartalog am driniaeth wedi disgyn o 23 wythnos i 16.7 wythnos ers iddi gael ei hethol yn Brif Weinidog, meddai, gan ychwanegu mai dim ond Llafur Cymru sydd â chynllun i barhau'r gostyngiad.
Dywedodd Claire Archibald o'r blaid Reform bod y GIG yng Nghymru "wedi torri ar ôl 27 mlynedd o fethiant o dan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru".
Bydd Reform yn symud adnoddau i ffwrdd o fiwrocratiaeth a'n blaenoriaethu gofal sylfaenol, meddai, gan "ddod a dibyniaeth ar staff asiantaethau costus i ben" a "sicrhau bod rheolwyr sy'n methu yn cael eu dal yn atebol".
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds, "bydd trwsio argyfwng mor ddifrifol yn gofyn am fuddsoddiad go iawn".
"Dyna pam mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn barod, os oes angen, i godi treth incwm 1c yn y bunt am gyfnod i achub gofal cymdeithasol, rhyddhau gwelyau ysbytai a chael y GIG i symud eto."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
