Teulu angen triniaeth ar frys i 'achub ein mab tri mis oed'

Dylan a Catrin Green a'u mab, MacsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dylan a Catrin Green a'u mab, Macs

GanGwyn Loader
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai cynnwys y stori hon beri loes

Mae teulu o Gaerdydd sy'n ofni bod bywyd eu mab tri mis oed yn y fantol wedi gwneud ple emosiynol am driniaeth i achub ei fywyd.

Aeth Dylan a Catrin Green â'u mab, Macs, i'r ysbyty yng Nghaerdydd chwe wythnos yn ôl ar iddo gael trafferth wrth fwydo.

Dioddefodd ddau ataliad ar ei galon a arweiniodd at chwyddo fentrigl yn ei galon.

Mae e nawr yn ddifrifol wael mewn uned gofal dwys ac angen triniaeth "calon Berlin" fyddai'n ei gadw yn sefydlog tra'n aros am drawsblaniad calon.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran cyd-bwyllgor comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru bod cyllid ar gael i ariannu triniaeth, ond bod "capasiti yn cael ei reoli drwy'r Deyrnas Unedig, ac mae mynediad i driniaeth yn cael ei benderfynu drwy asesiad clinigol".

MacsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr Macs wedi dirywio ymhellach ac mae nawr mewn coma gyda pheiriant arbenigol yn gwneud gwaith y galon

Bythefnos yn ôl, symudwyd Macs o Gaeerdydd i Ysbyty Plant Brenhinol Bryste.

Mae ei gyflwr wedi dirywio ymhellach ac mae nawr mewn coma gyda pheiriant arbenigol yn gwneud gwaith y galon.

Yn ôl ei rieni, mae angen iddo gael ei symud i Ysbyty Great Ormond Street neu Newcastle - yr unig ddau ysbyty sydd yn cynnig triniaeth "calon Berlin" - a hynny ar fyrder.

Byddai'r driniaeth honno yn gallu gwneud gwaith y galon am sawl mis tra bod Macs yn aros am drawsblaniad.

Dylan a Catrin Green a'u plantFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Achos bod dim gwely, dyw e ddim yn gallu gael y driniaeth ma' fe angen," meddai Catrin

Mewn cyfweliad emosiynol gyda Newyddion S4C, dywedodd Catrin Green ei bod hi ar ben ei thennyn.

"Mae'r sefyllfa yn ddifrifol iawn. Ma' dyddiau 'da ni tan bod dim byd arall ma' nhw'n gallu ei wneud i Macs," meddai.

"Mae jyst gwatchad e yn y gwely 'na yn rili anodd i ni. Ond ie, ni jyst angen gwely iddo fe [er mwyn cael "calon Berlin"].

"Ma'n rili frustrating bod triniaeth i gael i achub ei fywyd e, bod e'n gallu cael bywyd llawn... achos er y byddai'n rhaid iddo fe fod yn 'sbyty am cyfnod hir, byddai'n gallu dysgu fel i cropian, cerdded.

"Bydde'n rili neis cyrraedd y cam yna. Ond ar y funud, achos bod dim gwely, dyw e ddim yn gallu gael y driniaeth ma' fe angen."

MacsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw e ddim yn bwnc neis i drafod, ond os oes mwy o bobl yn rhoi organau, fe allan nhw helpu plant fel Macs"

Yn ôl ffigyrau gwasanaeth gwaed a thrawsblaniadau'r GIG, mae llai na phump o gleifion yn defnyddio "calon Berlin" ar hyn o bryd yn ysbytai Cymru a Lloegr.

Petai Macs yn cael y driniaeth honno, byddai wedyn angen trawsblaniad.

Gyda dim ond 2% o'r rhoddwyr organau sy'n marw yng Nghymru a Lloegr yn blant dan ddeunaw oed yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae tad Macs, Dylan, hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoi organau.

"Mae mor bwysig i drafod rhoi organau," meddai.

"Dyw e ddim yn bwnc neis i drafod, ond os oes mwy o bobl yn rhoi organau, fe allan nhw helpu plant fel Macs i fyw bywydau llawn a hapus."

Rheoli capasiti ar lefel Brydeinig

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran cyd-bwyllgor comisiynu GIG Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i rieni, teulu a ffrindiau Macs.

"Gall y cyd-bwyllgor gadarnhau bod arian ar gael i gleifion Cymreig sydd angen y gwasanaethau yma.

"O fewn i'r gwasanaethau arbenigol iawn yma, caiff capasiti ei reoli ar lefel Brydeinig, a chaiff mynediad i driniaeth ei benderfynu drwy asesiad clinigol."

"Rydyn ni'n deall bod y timau arbenigol sydd yn ymwneud â gofal Macs yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau ei fod e'n derbyn y gofal sydd angen arno.

"Rydyn ni'n anfon ein dymuniadau gorau at Macs a'i deulu."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig