'Amser San Steffan yn dod i ben' - arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gog Iwerddon

Prif weinidog Gogledd Iwerddon Michelle O'Neill, llywydd Sinn Féin Mary Lou McDonald, prif weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth a phrif weinidog yr Alban John Swinney ym Mae Caerdydd fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dweud bod "amser San Steffan yn dod i ben" ac y dylai Llywodraeth y DU baratoi ar gyfer newid cyfansoddiadol.
Does gan yr un llywodraeth yn San Steffan yr hawl i danseilio'r egwyddor y gallai'r tair gwlad benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, yn ôl cytundeb rhwng Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin.
Dywed "memorandwm cyd-ddealltwriaeth" y pleidiau - sydd mewn grym yn y tair gwlad - eu bod "â'r hawl i hunanddewis".
Mae'n galw "ar Lywodraeth Prydain i baratoi ar gyfer, cynllunio a hwyluso newid cyfansoddiadol ym mhob awdurdodaeth".
Mae hefyd yn datgan "y bydd pob cenedl yn pennu ei dyfodol ei hun yn ei ffordd ei hun ac yn ei hamser ei hun" a'u bod "yn credu bod dyfodol ein cenhedloedd yn perthyn i'r Undeb Ewropeaidd".
Daeth y memorandwm wrth i brif weinidogion y tair gwlad - Rhun ap Iorwerth, arweinydd yr SNP, John Swinney a Michelle O'Neill o blaid Sinn Féin - gyfarfod yng Nghaerdydd i drafod ffyrdd o "weithio'n agosach", gan gynnwys ar faterion cyfansoddiadol.
Dyma'r cyfarfod wyneb-yn-wyneb cyntaf rhwng y tri chenedlaetholwr ers i Mr ap Iorwerth ddod yn brif weinidog Cymru wedi etholiad mis Mai.
Roedd llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, hefyd yn bresennol.
Tra bod Swinney ac O'Neill wedi galw am refferenda yn eu gwledydd nhw, mae Rhun ap Iorwerth wedi gwrthod gosod amserlen ar gyfer hynny yng Nghymru.

Mae'r arweinwyr wedi arwyddo "memorandwm cyd-ddealltwriaeth" ddydd Llun
Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr ap Iorwerth a Mr Swinney lofnodi "Cytundeb Caerdydd" ar gydweithio yn y dyfodol.
Dywedodd y ddau bod y cytundeb yn amlinellu "gweledigaeth a rennir i weithio gyda'i gilydd ar faterion o ddiddordeb cyffredin i'r ddwy wlad".
Ymhlith y materion dan sylw mae tlodi plant, costau a safonau byw a newid hinsawdd.
Burnham yn 'agored i'r sgwrs' am ddatganoli plismona i Gymru
- Cyhoeddwyd27 Awst
'Gosod y seiliau' medd Plaid Cymru wrth nodi 100 niwrnod mewn grym
- Cyhoeddwyd26 Awst
Mae'r memorandwm rhwng y pleidiau'n dweud: "Heddiw, mae Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin yn dod at ei gilydd i ailddatgan ein hymrwymiad i weithio'n adeiladol gyda'n gilydd er budd cyffredin ein pobl.
"Rydym yn rhannu cred bod y cenhedloedd a'r cymunedau rydyn ni'n eu cynrychioli yn haeddu mwy o uchelgais, mwy o gyfleoedd economaidd a llais cryfach wrth benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.
"Am y tro cyntaf erioed, mae gan bobl ar draws yr ynysoedd hyn Brif Weinidogion yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon sydd i gyd wedi ymrwymo i annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig. I bobl sy'n gwylio ar draws yr ynysoedd hyn - i bobl sy'n gwylio ledled y byd - ni allai fod arwydd cliriach bod amser San Steffan yn dod i ben."
Ychwanega: "Nid oes gan unrhyw lywodraeth San Steffan yr hawl i rwystro democratiaeth neu danseilio'r egwyddor y bydd ein pobl yn penderfynu ar eu dyfodol eu hunain.
"Rydym yn cydnabod bod gan ein pleidiau safbwyntiau cyfansoddiadol gwahanol ac y bydd pob cenedl yn pennu ei dyfodol ei hun yn ei ffordd ei hun ac yn ei hamser ei hun."
'Tirlun gwleidyddol sy'n newid'
Am y tro cyntaf ers dechrau datganoli mae gan Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd brif weinidogion ag uchelgais o dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig.
Dywedodd Plaid Cymru bod y cyfarfod "yn gyfle i arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin ddod at ei gilydd i siarad am sut y gallwn ni weithio'n agosach ar y materion sy'n bwysig i bobl ar draws ein cenhedloedd".
Rhun ap Iorwerth yw prif weinidog cyntaf Cymru o blaid heblaw am y blaid Lafur.
Tra ei fod wedi dweud na fydd ei lywodraeth yn yn gwthio am refferendwm annibyniaeth yn ystod tymor y Senedd presennol, mae wedi dweud ei fod eisiau arwain "sgwrs genedlaethol" ar y pwnc.
Mae ei lywodraeth yn bwriadu sefydlu comisiwn cenedlaethol i "osod sylfeini" cynlluniau ar gyfer annibyniaeth i Gymru.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae'r cyfarfod yn "gam arall tuag at bartneriaeth newydd rhwng ein cenhedloedd"
Dywedodd Rhun ap Iorwerth cyn y cyfarfod bod yr achlysur "yn foment bwysig yn ein gwleidyddiaeth".
"Roedd etholiad mis Mai yn drobwynt i Gymru. Mae gennym bellach Lywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru gyda mandad clir i wneud pethau'n wahanol.
"Mae gan ein pleidiau lawer i'w ennill o weithio gyda'i gilydd, fel partneriaid cyfartal, lle rydyn ni'n rhannu buddiannau cyffredin a lle gall cydweithredu wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli.
"Dyna'r ysbryd rydyn ni'n dod at ein gilydd.
"Edrychaf ymlaen at gryfhau'r berthynas rhwng ein pleidiau a chymryd cam arall tuag at bartneriaeth newydd rhwng ein cenhedloedd."

Bydd Andy Burnham yn cyfarfod ag arweinwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon fis nesaf
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld pwerau ychwanegol, gan gynnwys dros blismona a chyfiawnder, yn cael eu datganoli.
Mae Andy Burnham wedi dweud ei fod yn "agored" i'r syniad.
Mae'r cyfarfodydd ddydd Llun yn debygol o gynnwys trafodaethau ar sut mae'r cenhedloedd datganoledig yn cael eu cyllido gan Lywodraeth y DU.
Mae gweinidogion Cymru wedi galw ers tro am ddiwygio'r fformiwla Barnett, gan ddadlau ei bod yn gadael Cymru ar ei cholled. Mae'r Alban yn tueddu i elwa o'r fformiwla.
Mae Mr Burnham wedi awgrymu nad yw'n bwriadu newid y drefn.
Bydd prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyfarfod ag Andy Burnham fis nesaf.
Andy Burnham 'yn credu'n gryf yn nyfodol yr undeb'
Dywedodd Llywodraeth y DU fod y prif weinidog yn benderfynol o sicrhau newid ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, a'i fod yn credu'n gryf yn nyfodol yr undeb.
"Mae'r DU ar ei orau pan mae pobl yn dod ynghyd, yn cyd-weld ac yn datrys problemau gyda'n gilydd - yn hytrach na chreu rhaniadau.
"Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i deuluoedd, gan gynnwys lleihau'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd a sicrhau diogelwch economaidd, yn hytrach na chanolbwyntio ar drafodaethau cyfansoddiadol."
Yn ôl Reform UK Cymru, mae'r cyfarfodydd ddydd Llun yn dangos, "i Blaid Cymru, bydd gwella ein hysgolion, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus bob tro dod yn ail i'r prif amcan o chwalu Prydain".
Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar: "Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr obsesiwn yma gydag annibyniaeth, dylai'r prif weinidog fod yn ffocysu ar ddelio gyda'r argyfwng sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd a'r cwymp mewn safonau yn ein hysgolion."
Yn ôl arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, mae "Plaid wedi rhoi dim byd i bobl ers yr etholiad. Maen nhw'n amlwg eisiau defnyddio grym i chwalu Prydain, gwanhau Cymru a threulio eu hamser ag obsesiwn am fwy o bwerau i'w gwleidyddion."
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol y DU: "Dylai Plaid Cymru fod yn canolbwyntio ar eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru rhai o'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU ac economi sydd wedi tanberfformio ers yn llawer rhy hir."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Emma Little-Pengelly, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, nad oes gan Michelle O'Neill unrhyw hawl i bortreadu ei hun fel cynrychiolydd y prif weinidog yn y cyfarfod yma.
"Rydyn ni wedi rhybuddio dro ar ôl tro y byddai gweriniaethwyr yn ceisio arfogi swydd y prif weinidog.
"Mae'r ffaith bod gweinidog Sinn Féin yn barod i ddefnyddio ei rôl i geisio cael gwared a Gogledd Iwerddon a dod a'n undeb i ben - mae'n rhaid i hyn fod yn ddeffroad i unoliaethwyr ar draws Gogledd Iwerddon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst

- Cyhoeddwyd26 Awst

