Ystyried y newid mwyaf i wasanaethau iechyd y canolbarth ers degawdau

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ymgynghori ar dri maes: ysbytai cymunedol, unedau mân anafiadau a gwasanaethau iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwasanaethau iechyd Powys wynebu eu newid mwyaf ers cenhedlaeth, gyda chynlluniau i leihau nifer gwelyau mewn ysbytai cymunedol a chanoli gwasanaethau.
Mae'n bosibl y bydd nifer y gwelyau i gleifion mewnol yn gostwng o tua 150 i naill ai 90 mewn tri ysbyty, neu 60 mewn dau safle.
O dan y cynigion, byddai wardiau cleifion mewnol yn parhau yn Aberhonddu a'r Drenewydd, gyda'r posibilrwydd o gadw gwelyau yn Llandrindod hefyd o dan opsiwn arall.
Mae'n golygu y gallai gwelyau gael eu colli yn Y Trallwng, Machynlleth, Ystradgynlais a Llanidloes, yn ogystal â Llandrindod o dan yr opsiwn sy'n cynnwys dau safle.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys newidiadau i leoliad canolfannau gofal brys ac unedau mân anafiadau a salwch, tra bod opsiwn arall yn ystyried dod â phob gwely iechyd meddwl at ei gilydd ar un safle.
Ddydd Mercher, cytunodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau, gan ddweud bod angen gweithredu er mwyn "gwneud gwasanaethau'n ddiogel ac yn gynaliadwy" wrth i'r galw am ofal gynyddu.

Roedd protest yn erbyn y cynlluniau ger Ysbyty Bronllys ddydd Mercher
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod angen newid er mwyn ymateb i'r "heriau mawr sy'n wynebu gwasanaethau iechyd" wrth i bobl fyw yn hirach gyda chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae gan Bowys un o'r poblogaethau hynaf yng Nghymru, gyda dros chwarter y boblogaeth dros 65 oed.
Mae hefyd yn anodd recriwtio a chadw staff gyda'r sgiliau sydd eu hangen, tra bod darparu gwasanaethau ar draws sir wledig mor eang â Phowys yn her.
Yn ôl dadansoddiad y bwrdd, byddai'r cynigion yn golygu taith hirach i rai cleifion, gyda'r amser teithio cyfartalog yn codi o tua 12 munud i 24 munud.
I'r rhai sy'n byw bellaf, gallai'r daith i ysbyty sydd â gwelyau cleifion mewnol gymryd dros 45 munud bob ffordd.
Teithiau hirach i gleifion
Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Dr Carl Cooper, y byddai'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i bobl "gymryd rhan yn y broses" ac i "weithio ochr yn ochr" â'r bwrdd.
"Y peth cyntaf i bwysleisio ydy bo' ni ddim wedi gwneud penderfyniad heddiw ar unrhyw opsiwn terfynol i'r dyfodol," meddai.
"Be dwi'n sicrhau i bawb ydy byddwn ni'n parhau i ffocysu ar sicrhau'r gwasanaethau gorau posibl, y gwasanaethau mwya' diogel i, a gyda, pobl Powys."
Dywedodd ei fod yn "bwysig iawn ein bod ni yn ystyried risg" ond bod "newid yn angenrheidiol".
"Os de ni jest yn aros lle ydyn ni, ac os de ni ddim yn gwneud dim byd, mi fydd o yn y dyfodol yn anoddach fyth darparu gwasanaethau diogel."
Ychwanegodd: "Be de ni wedi clywed gen ambell i gyfeiriad ydy'r camddealltwriaeth mewn gwirionedd, mai'r rheswm de ni'n gwneud hynny ydy arian. Dydi hynny ddim yn wir.
"Be de ni'n pwysleisio, be de ni'n ffocysu arno ydy ansawdd a diogelwch. Dyna sy'n hollbwysig yn y broses yma."

Bydd y bwrdd iechyd yn ymgynghori ar newidiadau i ysbytai cymunedol fel yma ym Machynlleth
Mae'r bwrdd iechyd yn cynnig newidiadau i nifer o wasanaethau gan gynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnostig.
Un o'r newidiadau mwyaf dadleuol ydy'r newid i leoliad gwelyau cleifion mewnol, sydd yn llawn 85% i 90% o'r amser ar hyn o bryd.
Yn ôl adroddiad i'r bwrdd iechyd, mae'r model presennol "yn darparu gwasanaethau lleol sy'n cael eu gwerthfawrogi, ond mae'r ffordd y maent wedi'u gwasgaru yn ei gwneud hi'n fwyfwy anodd diwallu anghenion yn gyson".
Newidiadau i ysbytai cymunedol
Mae dau opsiwn yn cael eu cynnig:
Byddai'r opsiwn cyntaf yn cadw gwelyau mewn tri ysbyty cymunedol – Aberhonddu, y Drenewydd a Llandrindod. Byddai'n golygu gostwng nifer y gwelyau cleifion mewnol o 146 i tua 90.
Byddai'r ail opsiwn yn cadw gwelyau yn Aberhonddu a'r Drenewydd yn unig, a gostwng y nifer i tua 60.
Pwyslais y bwrdd iechyd yw y byddai unrhyw newidiadau yn digwydd dros nifer o flynyddoedd, gan ddweud mai'r nod yw sicrhau bod pobl yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau byrrach, lleihau derbyniadau diangen a darparu mwy o driniaeth i gleifion yn eu cartrefi.

Gallai rhwng 56 ac 86 o welyau ysbyty cymunedol gael eu torri, yn ddibynnol ar ba gynnig fydd yn cael ei dderbyn
Mae adroddiad gan y bwrdd iechyd yn nodi bod tua 40% o'i chyllideb yn cael ei wario ar wasanaethau sy'n cael eu comisiynu y tu allan i Bowys.
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cyfanswm cost y triniaethau yma oedd tua £198m.
Mae'r bwrdd yn dweud bod angen newid "er mwyn gwella diogelwch clinigol, profiad cleifion, cynaliadwyedd clinigol ac ariannol, prinder gweithlu a materion sy'n ymwneud â chapasiti gwasanaethau".
Ond mae'r bwrdd hefyd yn cydnabod y bydd lleihau nifer y gwelyau a'u crynhoi mewn llai o safleoedd yn golygu teithiau hirach i gleifion, teuluoedd a ffrindiau.
Mân anafiadau a gofal brys
Mae newidiadau hefyd yn cael eu cynnig i unedau mân anafiadau a gofal brys yn y sir.
Ar hyn o bryd mae gofal brys yn cael ei ddarparu gan feddygon teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau, fferyllfeydd ac unedau mân anafiadau.
Ond mae'r bwrdd yn dweud nad yw'r gwasanaeth presennol yn cynnig "mynediad cyson a theg ar draws y sir", tra bod y galw am ofal brys yn cynyddu.
Eto mae dau opsiwn yn cael eu cynnig:
Byddai'r opsiwn cyntaf yn golygu darparu gofal brys mewn tri safle. Byddai canolfannau gofal brys yn cael eu sefydlu yn y Drenewydd ac Aberhonddu, gydag uned mân anafiadau yn Llandrindod.
Byddent ar agor rhwng 08:00 ac 20:00, saith diwrnod yr wythnos. Byddai'r uned fân anafiadau yn y Trallwng yn parhau i weithredu nes byddai'r ganolfan yn agor yn y Drenewydd, ac yna'n cau.
Byddai'r ail opsiwn yn golygu canolfannau gofal brys yn y Drenewydd ac Aberhonddu yn unig.
Yn ôl y bwrdd iechyd, byddai cleifion yn elwa o "well mynediad at ystod ehangach o ofal brys ym Mhowys, gan gynnwys trin mân anafiadau a salwch, yn ogystal â gofal brys i gleifion allanol, gan leihau'r angen i deithio allan o'r sir i adran achosion brys".

Daeth dros 400 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Llanidloes fis Awst i drafod pryderon
Gwasanaethau iechyd meddwl
O ran gwasanaethau iechyd meddwl, y cynnig yw dod â'r holl wasanaethau cleifion mewnol i un safle naill ai yn Ysbyty Bronllys neu ar safle newydd yn ardal Bronllys–Aberhonddu.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys ehangu gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol yn cael eu darparu
Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth iechyd meddwl mewn 10 gwely yn Llandrindod, 18 gwely yn Bronllys a 10 gwely yn Ystradgynlais - cyfanswm o 38 yng nghanolbarth a de Powys.
Nid oes gwasanaeth cleifion mewnol yn y gogledd, er bod timau iechyd meddwl yn darparu gwasanaethau yn y gymuned ar draws y sir.
Nod y model newydd yw "creu system fodern, integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn" yn ôl adroddiad. Byddai hynny, meddai'r adroddiad, yn helpu i symud oddi wrth gofal adweithiol mewn ysbytai tuag at gymorth rhagweithiol, integredig ac ataliol.
'Bradychu ymddiriedaeth y cyhoedd'
Mae'r cynlluniau wedi denu gwrthwynebiad gwleidyddol cryf gyda'r pleidiau yn dadlau nad yw'r ymgynghoriad yn cynnig dewis gwirioneddol oni bai am ganoli gwasanaethau, gan fod y ddau opsiwn yn golygu colli gwelyau cleifion mewnol mewn nifer o gymunedau.
Mae Plaid Cymru wedi galw am ohirio'r ymgynghoriad oherwydd nad yw cymunedau'n cael "dewis digon ystyrlon".

Mae AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd
Mae ffigyrau gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dangos bod gwelyau ysbytai wedi bod yn llawn 91% o'r amser ar gyfartaledd yn ystod 2025.
Mae'r blaid yn disgrifio'r cynigion fel dewis rhwng "dwy fersiwn wahanol o doriadau eang".
Cafodd deiseb gyda dros 10,000 llofnod yn gwrthwynebu'r newidiadau ei chyflwyno gan y blaid yn Ysbyty Bronllys ddydd Mercher.
Dywedodd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, fod y cynlluniau yn "bradychu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ffordd ysgytwol", ac mae hi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.
Mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus bara am 14 wythnos o 5 Hydref tan 10 Ionawr 2027.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf

