Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig ar ôl 12:00 ddydd Sadwrn, 27 Mehefin
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthdrawiad angheuol wedi digwydd ym Murwen, ar Ynys Môn.
Digwyddodd ychydig ar ôl 12:00 ddydd Sadwrn, 27 Mehefin, gyda char a beic modur yn rhan ohono.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad ar yr A5025 rhwng Porthllechog a Chemaes.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion a mynegodd yr Arolygydd Matt Halstead ei gydymdeimladau gyda theulu'r dyn mewn "amser anhygoel o anodd".
"Dwi'n apelio ar unrhyw un oedd yn gyrru ar hyd yr A5025 ym Murwen ychydig cyn hanner dydd heddiw ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad - neu a allai fod â deunydd fideo car perthnasol - i ddod ymlaen cyn gynted â phosibl."