Dedfrydu cadeirydd clwb pêl-droed am ddwyn £22,000 i brynu cocên

Karl Morecroft
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Morecroft yn hyfforddwr i'r clwb cyn ei benodi'n gadeirydd

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cadeirydd clwb pêl-droed ieuenctid ddwyn dros £22,000 gan y clwb i brynu cocên, mae llys wedi clywed.

Roedd Karl Morecroft, 45, wedi dweud celwydd wrth wirfoddolwyr eraill wrth drosglwyddo arian o gyfrif y clwb iddo'i hun a ffugio dogfennau i guddio'r twyll.

Roedd clwb RTB Ebbw Vale yn cefnogi 330 o blant ac yn dibynnu ar ymdrechion codi arian rhieni, gwirfoddolwyr a'r gymuned i dalu am weithgareddau.

Dros gyfnod o 15 mis, cymerodd Morecroft £22,491, gan honni bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am offer pêl-droed, costau cyngor a ffioedd eraill.

Dim ond ar ôl i'r heddlu gael gwybod am y mater y cyfaddefodd Morecroft ei fod wedi twyllo'r clwb, gan addo ad-dalu'r arian.

Ond erbyn y gwrandawiad dedfrydu roedd ond wedi talu £1,232 yn ôl.

'Bradychu' aelodau'r clwb

Dywedodd ysgrifennydd y clwb, Rachel Edwards, eu bod bellach dan "bwysau difrifol" o ganlyniad i weithredoedd Morecroft.

Dywedodd fod y clwb wedi gorfod benthyg arian i dalu am dlysau diwedd tymor, ond na allen nhw fforddio gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol na thalu am gyfleusterau hyfforddi gaeaf mewn pryd.

Dywedodd y barnwr Paul Hobson fod clybiau fel RTB Ebbw Vale yn "hanfodol i'r gymuned leol" a'u bod yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr heb unrhyw wobr ariannol.

Wrth ohirio dedfryd o 20 mis dan glo, dywedodd y barnwr wrth Morecroft: "Roedd y bobl hynny'n ymddiried ynoch chi - cymaint nes i chi gael eich penodi'n gadeirydd.

"Fe wnaethoch chi fradychu'r ymddiriedaeth honno."

Bydd hefyd yn gorfod cwblhau 180 awr o waith di-dâl a 50 diwrnod o weithgareddau adsefydlu.

Gorchmynnodd y barnwr iddo dalu £21,259 o iawndal o fewn tair blynedd, gyda gorchymyn y bydd yn cael ei garcharu os na fydd yn gwneud hynny.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.