Ateb y Galw: Ffraid Gwenllian

- Cyhoeddwyd
Mae Ffraid Gwenllian yn wyneb cyfarwydd ar raglenni Ar Led ar Hansh S4C, sy'n archwilio pob agwedd o iechyd a lles gyda phobl ifanc.
Roedd y gyfres gyntaf yn canolbwyntio ar iechyd rhyw a pherthnasau gyda'r meddyg iau yn cyfrannu fel arbenigwr, ond hi sy'n cyflwyno'r gyfres newydd.
Yn dod o ardal Caernarfon, fe ddaeth Ffraid yn fam am y tro cyntaf ychydig cyn dechrau ffilmio a'r wythnos yma mae hi'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Fysa fo siŵr o fod ddim yn synnu neb i glywed hyn ond o'n i'n actio fel teenager pan o'n i tua saith. Pan oedden ni'n cael gwisgo dillad ein hunain i'r ysgol gynradd you best believe bo' fi am droi fyny mewn mini, high heels a cowboy hat.
O'n i'n benderfynol a deud y lleia' a ma' gen i gymaint o barch at Mam a Dad am lwyddo i navigatio honna!
Ond o'n i hefyd yn hileriys, yr un mor hileriys ag ydw i rŵan, ac yn joio chwara tricia! Dydi o ddim yn atgof cynta', ond mae o'n un cynnar.
Rhyw ddiwrnod, dyma Mrs Jones fy athrawes yn deud bod ganddi ofn llygod, a phan es i adre, digwydd bod mi oedd 'na lygoden wedi marw yn yr ardd. Ac mi nes i feddwl y bysa fo'n hileriys mynd â hi i'r ysgol y diwrnod wedyn i ddychryn Mrs Jones druan, a dyna nes i.
Ei chodi hi efo rhaw binc a'i rhoi hi mewn bocs. Safe to say mi sgrechiodd Mrs Jones wrth agor ei 'phresant' a gollwng y bocs ar lawr.
Siŵr bo' hi'n meddwl bo' fi wedi dod allan o ryw horror film! Os 'da chi'n darllen hwn Mrs Jones, sori eto - mi nes i droi allan yn iawn yn y diwadd!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Mae 'na lot o lefydd yn agos at fy nghalon ac yn cynrychioli cyfnodau gwahanol o fy mywyd.
Rhostryfan, lle ces i fy magu, Aberystwyth, lle fues i'n astudio Cymraeg yn y Brifysgol, Caerdydd, lle nes i gyfarfod â Siôn ac adra yng Nghaernarfon, lle 'da ni bellach yn byw fel teulu o dri.
Ond mae 'na un lle arall sy'n arbennig iawn i fi - Llanddwyn. Mi aeth Siôn a fi yno cyn Dolig pan wnaethon ni ddechra mynd allan efo'n gilydd, a 'da ni wedi mynd bob blwyddyn ers hynny, 'motsh be' sy'n mynd 'mlaen efo ni, felly mae o'n draddodiad bach bellach.
Mae o'n amser braf i fynd achos mae hi'n weddol dawel yno. 'Da ni'n lapio amdanon ni'n gynnes ac yn mynd i hel atgofion am y flwyddyn 'da ni wedi'i chael. Aethon ni â Brychan bach am y tro cynta' Dolig diwetha', oedd yn hollol lyfli.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Ffraid a'i 17 Ffraidsmaid...
O'dd noson (a diwrnod) ein priodas ni yn utterly, butterly PERFFAITH. Mi gafodd Siôn a fi ddiwrnod hollol hudolus efo'r teulu a'r ffrindia i gyd - yn cynnwys fy 17 Ffraidsmaid!
Ar ôl priodi mewn coedwig llawn clychau'r gog, mi gafon ni wledd Eidalaidd, lot o fybls a dawnsio a mwydro tan i'r haul godi yn y bore. Ar ben hynny, mi oedd y tywydd yn gorjys ac mi oedd yr aurora borealis wedi bod allan in full force hefyd - dw i'n licio meddwl bo Mam Natur yn rŵtio droston ni!
Alla i ddim ateb y cwestiwn 'ma heb sôn am y noson (dwy noson acshyli!) pan o'n i in labour efo fy mab, Brychan.
Mi oedd bob eiliad o'r profiad yn llawn hud, brwdfrydedd, llonyddwch, chaos a chariad pur. O'dd y ddau ohonon ni methu aros i gwrdd ag o, a phan ddaeth o, mi oedd o'n fendith yng ngwir ystyr y gair.
Dw i wastad wedi bod isho cael plant, ond mi o'n i isho dilyn cyngor doeth Mam a gneud bob dim arall o'n i isho'i neud gynta'. Save the best 'til last go iawn - a dw i'n teimlo beyond lwcus bod o wedi digwydd i ni o'r diwedd. Mae o a Siôn yn bopeth i fi.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Angerddol, ffyddlon a sasi!
(Nes i ofyn i Dad am ei gyngor ar hwn a'i gynnig o oedd 'uchel ei chloch'. Diolch Pod!)
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Ooo mae 'na ormod o'r rhain!
O ddigwyddiadau mawr fel dyweddïo yn Sicily, priodi a mynd ar ein mis mêl i Jamaica, graddio fel doctor, ac wrth gwrs, genedigaeth Brychan, i ddigwyddiadau bob dydd fel gneud croesair yn y gwely ar fore dydd Sul neu gigyls hungover ar ôl un o'n house parties ni. Maen nhw i gyd yn neud i mi wenu ac yn atgoffa fi o ba mor ridicilys o lwcus dw i.
O ran yr atgofion sy'n gneud i fi chwerthin allan yn uchel, ma' lot fawr ohonyn nhw'n bethe sy' wedi digwydd efo'n ffrindia'. Dw i'm yn poeni be' ma' neb yn ddeud, ma' gen i'r ffrindia gora' yn y byd. Ma' nhw'n absoliwt CHICAS, bob un wan jaci ohonyn nhw, a dw i wir methu coelio'n lwc bo' gen i grŵp o genod mor driw, gorjys a downright HILERIYS yn fy mywyd i greu atgofion fydd yn fy nghynnal i nes fy anadl ola'.

"Wêls Awê" - Ffraid a'i Ffrindiau
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Jesus, bore 'ma! Ar facetime efo fy chwaer annwyl - achos mod i'n sleep deffraid. Dydi regressions cwsg ddim yn jôc!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Methu â dal fy nhafod!
Dw i'n ei gyfri o fel peth drwg achos mod i'n gallu tynnu pobl i 'mhen, a dydw i ddim yn licio confrontation achos mae o'n gneud fi'n anxious. Ond dw i'n meddwl ei fod o'n beth da hefyd achos dw i wedi cael fy magu i sefyll i fyny dros yr hyn dw i'n feddwl sy'n iawn a dw i'n meddwl bod angen galw pobl allan weithia'.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
O dw i'n ffindio hi mor anodd ateb cwestiynau fel 'ma!
Amhosib dewis un ffilm neu albym!
Ond mi alla i roi ateb pendant i'r llyfr - Saith Oes Efa gan Lleucu Roberts, a dydw i ddim jyst yn deud hynna am ei bod hi'n fam i fi! Er mae'n bosib bod cael y persbectif yna o fod yn ferch iddi yn ychwanegu rhyw elfen arall eto at y straeon.
Dw i wrth fy modd efo'r ffaith bod y straeon yn ymdrin â lleisiau merched o wahanol oedrannau, o rannau gwahanol o Gymru, ac yn meddwl bo' hi'n gyfrol ffeministaidd empowering a phwysig iawn. Dw i'n prowd iawn o fod yn ferch i ddynes mor dalentog ac egwyddorol â hi.

Ffraid Gwenllian efo'i mam, y llenor Lleucu Roberts
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
'Swn i wrth fy modd cael chat efo Dad-cu. Mi fuodd o farw pan o'n i'n hogan fach a 'swn i wedi licio'i nabod o fel oedolyn achos dw i'n meddwl y bydde ganddon ni lot yn gyffredin o ran egwyddorion.
Mi oedd o'n heddychwr mawr a'i ddaliadau gwleidyddol yn rhyddfrydig fel fi. 'Swn i'n licio gallu deud wrtho fo bod y Blaid wedi dod i rym yn y Senedd yn ddiweddar, a bod mwy a mwy o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru - mi fysa fo wrth ei fodd ar ôl yr holl flynyddoedd a'r holl ymdrechion.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
'Nes i drio am le ar Big Brother yn ôl yn 2018 a mynd drwodd i rownd ola'r clyweliad yng Nghaerdydd! O'n i wastad wedi bod isho mynd ar y rhaglen ac yn ffan mawr ers pan o'n i'n iau.
Er 'mod i 'chydig bach yn gytud ar y pryd, o'dd o siŵr o fod yn blessing in disguise achos mi ges i wybod yn fuan wedyn mod i wedi cael lle i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Ma'n swnio'n naff ond hefyd yn amlwg - treulio'r diwrnod efo pawb dw i'n garu. Gwylio'r haul yn codi ym mreichia' Sionyn, dathlu efo pawb yn ystod y dydd ac wedyn treulio'r noson efo hogia' fi adra - fy hoff amser i o'r dydd.
Does 'na ddim byd yn bwysicach i fi na 'nheulu a'n ffrindia' i a phan mae pobl yn sôn am y meaning of life, dw i'n grediniol mai dyna'n union ydi o.
Dw i'n gwbod yn union pa mor ffodus ydw i a dw i byth isho cymryd neb yn ganiataol.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Ma' bob llun sy gen i o Brychan - ac mae 'na gannoedd ohonyn nhw'n barod - yn meddwl y byd i fi, yn enwedig y llun cynta' dynnwyd ohono fo pan ddaeth o i mewn i'r byd.
'Da ni ddim yn rhannu llunia' ohono fo'n gyhoeddus felly dyma rannu un ohona i'n bronfwydo ar set Ar Led yn lle!
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Siôn! 'Da ni wastad wedi deud 'sa ni'n licio cal swop fel Freaky Friday i weld sut hwyl 'sa ni'n gael arni.
'Da ni'n nabod ein gilydd through and through felly dw i'n meddwl y bysa ni'n neud job dda yn argyhoeddi pobl - tan bo' ni'n mynd i'r gwaith, hynny yw!
'Swn i'n disgyn i gysgu yn darllen jargon cyfreithiol ac mi fysa Siôn yn chwydu yn tynnu gwaed rhywun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd4 Mai
