Ateb y Galw: Carrie Sauce

Carrie Sauce ar Y LlaisFfynhonnell y llun, S4C
  • Cyhoeddwyd

Enillodd Carrie Sauce, neu Oliver Martin, ail gyfres Y Llais a hynny fel rhan o dîm Syr Bryn Terfel.

Yn fuan wedi'i ennill fe atebodd gwestiynau Ateb y Galw i Cymru Fyw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf yw rhywun yn rhoi potel i mi fwydo oen bach mewn petting zoo. Nes i benderfynu fy mod i'n fwy haeddiannol o'r llaeth ac felly ceisio'i ddwyn o.

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru yw Y Fenni. Dwi'n aml yn mynd i bori yn y siopau annibynnol, ymweld â'r farchnad, gweld y castell neu ddringo'r bryniau sy'n amgylchynu'r dref.

Beth oedd y noson orau i ti ei chael?

Pendroni drwy strydoedd cefn Shanghai ar ôl noson allan, yn ceisio chwilio am y llong bleser o'n i'n gweithio arni ar y pryd – a methu'n lân!

Oliver gyda'i famFfynhonnell y llun, Llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Ddim mewn drag – Oliver gyda'i fam

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Dwi'n introverted extrovert.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Tu hwnt i fod ar Y Llais, fyswn i'n dweud eistedd ar ddec y llong bleser 'nes i weithio arni un noson o haf, yn sipian gwin tra'n gwylio Goleuadau'r Gogledd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Siwr o fod pan, yn ystod cynhyrchiad o Les Mis, 'nes i faglu dros gorff anymwybodol Javert a bwrw'r llwyfan yn galed wrth i'r goleuadau ddiffodd.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Gwylio'r darn cefn llwyfan o fy nghlyweliad ar Y Llais. O'n i'n siarad am gwrdd â fy nghariad a faint dwi'n ei garu o. Felly mi oedd o'n crio, ac roedd ei weld o'n crio yn gwneud i fi grio...

Clyweliad cyntaf Carrie Sauce ar Y LlaisFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Clyweliad cyntaf Carrie Sauce ar Y Llais

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n pessimist mawr, oherwydd yn fy meddwl i, mae'n well na bod rili eisiau rhywbeth ac wedyn cael dy siomi. Ond dwi'n gweithio ar fod yn fwy positif.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Dwi'n caru'r ffilm (a'r sioe gerdd) Groundhog Day, mae'n ffilm mor ddoniol a dwi'n gallu ei gwylio drosodd a drosodd. A drosodd. A drosodd...

Poster hyrwyddo'r ffilm Groundhog DayFfynhonnell y llun, Columbia Tristar Films
Disgrifiad o’r llun,

Bill Murray ac Andie McDowell yn y ffilm boblogaidd o 1993, Groundhog Day

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi'n cael diod a pham?

Fy mam-gu a nhad-cu, i ddangos iddyn nhw beth dwi wedi cyflawni er mwyn eu gwneud nhw'n falch.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ges i U yn Lefel A Celf cyn mynd ymlaen i werthu fy ngwaith celf am filoedd o ddoleri.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi'n ei wneud?

Cerdded ar hyd y morglawdd, arogli gwynt y môr a bwyta gormod o gacen.

Pa lun sy'n bwysig i chi a pham?

Unrhyw lun gyda fy nheulu. Dwi ddim yn dueddol o dynnu llawer o luniau heb fod yn gwisgo drag, felly mae'r rhai sydd gen i'n werthfawr.

Petasech chi'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy nghi, oherwydd mae o'n llawn cyffro am unrhyw beth mae o'n cael ei wneud!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb