Pam fod gan glwb pêl-droed Bangor gleddyf?

Logo a chleddyfFfynhonnell y llun, CPD Dinas Bangor 1876
  • Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa newydd sy'n rhoi cipolwg ar hanes pêl-droed cystadleuol yn ninas Bangor, sy'n mynd yn ôl 150 o flynyddoedd.

Un sydd wedi bod yn cefnogi clwb Bangor ers blynyddoedd, ac a helpodd i guradu'r arddangosfa yn Storiel, yw Dafydd Hughes.

A fo fu'n egluro pam fod cleddyf yng nghanol y posteri a'r crysau...

ArddangosfaFfynhonnell y llun, Dafydd Hughes/CPD Dinas Bangor 1876
Disgrifiad o’r llun,

Mae hen grysau, baneri, lluniau ac erthyglau papur newydd o hanes pêl-droed cystadleuol ym Mangor, mewn arddangosfa yn y ddinas

Napoli ym Mangor

Mae Bangor wedi chwarae yn erbyn rhai o dimau mwyaf Ewrop dros y blynyddoedd, ac mae Dafydd yn cofio'n iawn y diwrnod y daeth Napoli i chwarae i gae Ffordd Farrar ar gyfer Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, a hynny ar ôl curo Wrecsam i ennill Cwpan Cymru.

"5 Medi 1962, dwi'n cofio bod yn y dorf y diwrnod hwnnw," meddai.

"Doedd rhywun ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Roedd Bangor wedi mynd i mewn i Ewrop cyn llawer o'r timau Saesnig, fel Lerpwl a Man City.

"Ennill 2-0 yn erbyn Napoli; dwi'n meddwl heblaw am y stwff mae Caerdydd a Wrecsam efallai wedi ei gyflawni ers hynny, yn un o'r canlyniad mwyaf syfrdanol i dîm o Gymru mewn un o gystadlaethau Ewrop."

Ar ôl chwarae draw yn Napoli, wedyn mewn gêm ail-gyfle yn Llundain, yn anffodus colli oedd hanes Bangor yn erbyn y tîm o'r Eidal.

Dafydd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Hughes yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Bangor

Cleddyf y Sbaenwyr

Ni chwaraeodd y tîm yn Ewrop eto tan tymor 1985-6.

Yn dilyn gemau yn erbyn y tîm gymharol fach o Norwy, Fredrikstad FK yn y rownd gyntaf, wynebodd Fangor dîm mawr ar 23 Hydref 1985 yn yr ail rownd.

"Roedden nhw ddigon lwcus i gael Atlético Madrid yn dod i Ffordd Farrar," eglurodd Dafydd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

Ond roedd angen ychydig o addasu ar y cae, meddai, am fod y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar rwydwaith ITV.

"Roedden nhw'n gorfod rhoi goleuadau ychwanegol ar y llifoleuadau. O'dd 'na ddipyn o ffys am y peth."

PosteriFfynhonnell y llun, Dafydd Hughes/CPD Dinas Bangor 1876
Disgrifiad o’r llun,

Posteri yn hysbysebu gemau Bangor yn erbyn Fredrikstad ac Atlético Madrid, a'r gleddyf a dderbyniodd y clwb gan lywydd tîm y Sbaenwyr

Colli oedd hanes y Cymry yn y gêm yna, ac roedd yr ail gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Vincente Calderon. Mae sôn fod aelod o dîm Bangor, Viv Williams, wedi cael cryn argraff ar y Sbaenwyr, a bod ganddyn nhw ddiddordeb yn ei arwyddo.

Ond beth yw arwyddocâd y cleddyf, felly?

"Mae'r cleddyf 'ma yn arbennig iawn; wedi ei roi gan lywydd Atlético Madrid i gadeirydd Bangor, fel memento o'r gêm. Mae o 'di bod ar goll am dipyn, ond 'da ni'n falch o weld erbyn hyn ei fod o wedi cael ei roi mewn câs pwrpasol.

"Bydd o yma yn yr arddangosfa, wedyn i gae Nantporth, sef cae newydd dinas Bangor."

“Un o’r problemau oedd ganddon ni oedd beth i’w rhoi ar y waliau, a beth i’w adael allan.”

Dafydd Hughes yn sgwrsio ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru

Chwarae yn Ewrop eto?

Mae llwyddiant mwy diweddar Bangor yn Ewrop yn cael ei ddathlu yn yr arddangosfa hefyd, a hynny gan y tîm merched.

"Os ewch chi nôl i ddechrau'r 2000au," meddai Dafydd, "roedd gan Bangor dîm oedd yn chwarae yn erbyn Lerpwl, Arsenal, Wolves.

"Nid yn unig hynny, 'naethon nhw gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cynta'. Mae 'na faner AZS Wrocław yng Ngwlad Pwyl [yma] a 'naethon nhw chwarae yn erbyn HJK Helsinki.

"Mae 'na dipyn o'r chwaraewyr dal o gwmpas deud y gwir, ac atgofion melys ganddyn nhw. Mae'n hollbwysig bod ni'n adlewyrchu eu camp nhw."

RhaglenniFfynhonnell y llun, Dafydd Hughes/CPD Dinas Bangor 1876
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o raglenni gemau tîm merched Bangor yn erbyn timoedd mawr fel Lerpwl ac Arsenal

Yn dilyn pryderon am ddyfodol ariannol CPD Dinas Bangor, cafodd tîm newydd ei sefydlu gan y cefnogwyr yn 2019. Bellach yn defnyddio'r enw, CPD Dinas Bangor 1876, un tîm sydd yn y ddinas, ar ôl i'r tîm gwreiddiol ddod i ben yn 2022.

Does yr un tîm ym Mangor wedi chwarae'n gystadleuol yn Ewrop ers tymor 2017-18, ond mae Dafydd yn obeithiol y bydd 'na gemau ar y cyfandir yn fuan unwaith eto.

"Mae 'na drafferthion 'di bod ond 'da ni ar y ffordd yn ôl, a'r peth mawr 'da ni'n gobeithio amdano fo ydy dyrchafiad y flwyddyn yma yn ôl i'r brif haen yng Nghymru, fel bod ni eto yn medru mynd am Ewrop."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.