Cronfa leol y Garreg Las 'wedi codi mwy o arian nag unrhyw Eisteddfod erioed'

John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Davies fod cronfa'r Garreg Las wedi torri record codi arian yr Eisteddfod

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las wedi dweud fod pobl yr ardal wedi codi mwy o arian nag unrhyw gronfa leol arall yn hanes y Brifwyl.

Yn ôl John Davies, mae £515,000 yn y coffrau ar gyfer yr Eisteddfod hyd yma, sy'n torri'r record a osodwyd gan gronfa Eisteddfod Boduan yn 2023.

£400,000 oedd y targed ariannol a osodwyd ar gyfer y tair sir sy'n rhan o Eisteddfod y Garreg Las.

Daw'r newyddion wrth i drefnwyr baratoi ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yn 1176, gan gynnwys gorymdaith gyda phyped enfawr o'r Arglwydd Rhys.

Pyped enfawr o'r Arglwydd Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pyped enfawr o'r Arglwydd Rhys yn arwain dathliadau 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf

"Mae codi arian ar gyfer yr Eisteddfod yn medru bod yn faich ac yn fwrn," meddai John Davies, cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Garreg Las.

"Dyw hynny ddim wedi bod yng nghyd-destun Eisteddfod y Garreg Las.

"Mae wedi bod yn bleser pur o'r cychwyn cyntaf ac mae wedi dod â phobl at ei gilydd.

"£400,000 oedd y nod ariannol - fe gwrddon ni â hwnnw.

"Ac mae wedi bod fel tap diffygiol - ni methu ei droi i ffwrdd!

"Erbyn hyn 'da ni wedi croesi'r hanner miliwn ac, yn ôl yr hyn dwi ar ddeall... 'da ni bellach wedi torri'r record.

"Roedd honno'n perthyn, yn barchus iawn, i bobl Boduan a'r cylch, ond bellach 'da ni lan i £515,000.

"Mae'n adlewyrchiad o'r awch, y chwant a'r angerdd sydd gan bobl i wneud hon yn Eisteddfod lwyddiannus."

'Mewn undeb mae nerth'

Yn ôl John Davies, mae'r newyddion yn adlewyrchu'r ffaith bod yr arbrawf o weld tair sir - Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion - yn cydweithio wedi llwyddo.

"Mewn undeb mae nerth, ac mae hynny'n berffaith wir yng nghyd-destun trindod y tair sir," meddai.

Nos Wener bydd gorymdaith i nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yn 1176 yn dechrau yng Nghadeirlan Tyddewi, gyda'r gadair a'r goron yn cael eu dadorchuddio yn Oriel y Parc yn ddiweddarach.

Mae'r orymdaith wedi cael ei hariannu gyda chymorth £250,000 o goffrau llywodraeth Lafur Cymru a mwy na £230,000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Plac coffa y tu allan i Gastell Aberteifi yn nodi dechrau traddodiad yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r plac yn nodi safle'r Eisteddfod gyntaf a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn 1176 y tu allan i Gastell Aberteifi

Bydd Carreg Filltir Las: Taith yr Arglwydd Rhys yn dechrau yng Nghadeirlan Tyddewi ar 19 Mehefin, lle mae Rhys ap Gruffudd, Tywysog y Deheubarth, wedi ei gladdu, ac yn teithio i leoliadau sy'n gysylltiedig â beirdd cadeiriog yr Eisteddfod.

Bydd y perfformiwr Eddie Ladd, y Prifardd Ceri Wyn Jones a'r cerddor Mari Mathias ymhlith y rhai fydd yn cyfrannu.

Dyddiadau a lleoliadau'r daith yw:

  • Dydd Gwener 19 Mehefin - Tyddewi ac Oriel y Parc

  • Dydd Sadwrn 20 Mehefin - Cenarth a Chastell Newydd Emlyn

  • Dydd Sul 22 Mehefin - Talgarreg a Llangrannog

  • Dydd Iau 25 Mehefin - Wdig

  • Dydd Gwener 26 Mehefin - Maenclochog

  • Dydd Sadwrn 27 Mehefin - Aberteifi

Penllanw'r prosiect fydd gorymdaith drwy strydoedd Aberteifi ar 27 Mehefin, dan arweiniad pyped enfawr pum metr o daldra o'r Arglwydd Rhys wedi'i greu gan Theatr Byd Bach, a'i gi Teifi, sydd wedi'i greu gan Skeleton Crew.

Bydd artistiaid o Iwerddon hefyd yn rhan o'r perfformiad.

Fe fydd yr orymdaith yn dod i ben ar y cei, lle bydd beirdd cyfoes ynghyd â chadair a choron Eisteddfod eleni yn cyrraedd, cyn i gynulleidfaoedd gael eu harwain i'r castell ar gyfer dathliad celfyddydol i nodi 850 mlynedd o draddodiad eisteddfodol.

Marc Rees
Disgrifiad o’r llun,

Marc Rees yw arweinydd creadigol y prosiect sy'n dathlu 850 mlynedd o draddodiad eisteddfodol

Dywedodd Marc Rees, arweinydd creadigol y prosiect, ei fod "wedi cydweithio gyda phobl ffantastig".

"Mae Theatr Byd Bach a Skeleton Crew wedi creu rhywbeth rili anhygoel.

"Eddie Ladd, y berfformwraig leol, sy'n tywys yr Arglwydd, ac mae gweld hi'n cyfathrebu gydag ef yn hyfryd ac yn hudolus.

"Ni wedi dewis lleoliadau lle mae cyn-enillwyr y gadair yn dod o'r ardaloedd.

"Daeth y syniad o'r gymuned - fe benderfynon nhw eu bod nhw moyn dod â'r Arglwydd 'nôl yn fyw.

"Mae'n bwysig cyfuno'r gorffennol a'r presennol."

Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd gynulliad hanesyddol yn ei gastell newydd yn Aberteifi lle cystadlodd beirdd, cerddorion a pherfformwyr am anrhydedd y gadair farddol.

Mae'r digwyddiad wedi'i gofnodi yn y ddogfen ganoloesol Brut y Tywysogion.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.