'Dim achos i'w ateb' yn erbyn cyn-athrawes rygbi

Roedd Lowri Mair Williams yn athrawes ymarfer corff ac arweinydd rygbi merched yng Ngholeg Llanymddyfri rhwng 2023 a 2024
- Cyhoeddwyd
Mae panel o Gyngor y Gweithlu Addysg wedi dyfarnu nad oes achos i'w ateb yn erbyn cyn-athrawes rygbi yng Ngholeg Llanymddyfri, oedd yn wynebu honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Roedd Lowri Mair Williams yn gweithio fel athrawes ymarfer corff ac arweinydd rygbi merched yng Ngholeg Llanymddyfri rhwng Medi 2023 ac Ebrill 2024.
Roedd yn wynebu honiadau oedd yn cynnwys caniatáu i ddisgyblion chwarae ar ôl taro'r pen, yn groes i brotocol cyfergyd Undeb Rygbi Cymru, ac ymddygiad amhriodol ar daith breswyl.
Penderfynodd y panel nad oedd tystiolaeth i gefnogi'r honiadau.

Mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd a barodd bedwar diwrnod, roedd y panel wedi clywed tystiolaeth gan ddisgyblion ac athrawon, gyda chynrychiolydd Ms Williams yn cyflwyno cais nad oedd achos i'w ateb.
Roedd Sara Lewis, oedd yn cyflwyno'r achos ar ran y Cyngor Gweithlu Addysg wedi dweud bod tri digwyddiad yn sail i'r honiadau, oedd yn amlygu ymddygiad sy'n "diystyru diogelwch", meddai.
Cyfeiriodd at ddigwyddiadau yn ystod taith i Lundain ar gyfer twrnamaint rygbi ar 17 ac 18 Mawrth 2024, pan honnwyd na roddodd Ms Williams wybod bod sawl disgybl wedi cael ergyd i'r pen.
Penderfynwyd bod angen ymchwiliad ffurfiol yn y coleg, wedi i rai o'r merched a fu'n rhan o'r twrnamaint fynd i ganolfan feddygol y coleg wedi'r daith.
Cafodd Ms Williams ei hatal o'i gwaith, ac fe ymddiswyddodd ym mis Ebrill 2024.
Clywyd honiad hefyd iddi, yn ystod y daith, fethu a chadw ffiniau proffesiynol pan aeth disgyblion i'w hystafell i drafod y twrnamaint, gan gynnwys caniatáu i ddisgyblion weld y dillad isaf roedd hi'n bwriadu eu gwisgo y diwrnod canlynol.
'Dim tystiolaeth foddhaol i gefnogi'r honiadau'
Roedd y gwrandawiad wedi bod yn ystyried a oedd ymddygiad Lowri Mair Williams yn cyfateb i 'ymddygiad proffesiynol annerbyniol'.
Dyfarnodd y panel bod y dystiolaeth a gyflwynwyd iddyn nhw yn awgrymu bod Ms Williams yn arweinydd rygbi ddiwyd, oedd yn ymddwyn yn briodol pan oedd disgybl wedi cael anaf.
Yng nghyswllt yr honiad iddi fethu a chadw ffiniau proffesiynol rhyngddi a'r disgyblion, penderfynodd y panel nad oedd tystiolaeth i gefnogi hynny, gyda thyst wedi egluro bod y dillad yn rhan o bentwr bychan ar wely Ms Williams yn ei hystafell yn y gwesty.
Roedd Mr Andrew Faux ar ran Ms Williams, wedi gwneud cais nad oedd achos i'w ateb ar yr holl honiadau.
Cytunodd y panel gyda hynny, gan ddweud nad oedd "tystiolaeth foddhaol" i gefnogi unrhyw un o'r honiadau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
