👔 Côr CantiLena yn paratoi i gystadlu ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 16:13 GMT+1

Mae Côr CantiLena ymhlith y nifer o gorau sy'n cystadlu brynhawn Sadwrn
Croeso i ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las - y torfeydd yn llifo, medd y Prif Weithredwr Betsan Moses
Angen gwneud 'penderfyniadau amhoblogaidd' oherwydd costau cynyddol, medd Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod
Artist o Dyddewi yn ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
Mae'r Eisteddfod eleni yn dathlu Yr Arglwydd Rhys ac Eisteddfod gyntaf 1176 ac fe ddaeth e i'r Maes
Llywydd yr Ŵyl yw Mari Grug a bydd yn annerch y gynulleidfa yn y seremoni agoriadol
Perfformiad cyntaf sioe gerdd newydd sbon 'Sefyll ar y Sgwâr' - sioe sy'n dathlu gwaddol Ail Symudiad
Gwyliwch gystadlaethau y Pafiliwn ar iPlayer
Heno Super Furry Animals yn perfformio ar y Maes

Mae Côr CantiLena ymhlith y nifer o gorau sy'n cystadlu brynhawn Sadwrn
Llongyfarchiadau mawr i Arthur Siôn Evans, enillydd yr unawd o dan 12.
Mae uchafbwyntiau fideo a holl ganlyniadau'r dydd o'r Pafiliwn yma.
Unawd o dan 12 oed // Solo under 12 (250)

Ers 14:40 mae cystadleuaeth y corau ar lwyfan y pafiliwn.
Mae pob côr yn perfformio rhaglen hyd at 10 munud - rhaglen sy'n cynnwys darn gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru.
Mae'n gystadleuaeth boblogaidd.
Ar y Maes mae nifer yn mwynhau diod a chlonc cyn digwyddiadau mawr y nos - mae digwyl prysurdeb mawr tua 18:00.


Wrth i'r cyffro gynyddu ar gyfer perfformiad Super Furry Animals ar y maes, mae Aled Hughes wedi bod yn sgwrsio efo Tim Williams o gwmni Spirit of '58. Mae'r cwmni wedi cydweithio â'r band i gynhyrchu hetiau bwced arbennig eleni.
Meddai Tim, sy'n ffan mawr o'r band: "Fy nghenedlaeth i ydi'r Furries. Dwi'n cofio bod yn yr Eisteddfod yn eu gwylio nhw, mewn pabell heb ddim cwrw o gwbl.
"Mae heddiw yn foment mawr yn fy mywyd i".
Mae Cian o'r band wedi cynorthwyo gyda dyluniad yr het, a roedd tipyn o giw ar stondin y siop heddiw i'w prynu.
Mae'r hetiau yn gywaith rhwng siop Spirit of 58 ac aelodau'r band
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesAelodau'r band o flaen y tanc ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo yn 1996
Heno ac mae 'na gryn edrych ymlaen fe fydd un o fandiau mwyaf eiconig Cymru yn perfformio ar y Maes a hynny am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd.
Y tro diwethaf i'r grŵp poblogaidd berfformio yn y Brifwyl oedd yn ystod Eisteddfod Llandeilo yn 1996, gan ddod â thanc glas i'r Maes fel rhan o ymgyrch hyrwyddo.
Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod, y perfformiad yn Llantwd "fydd yr unig gig uniaith Gymraeg fydd y band yn ei berfformio" . Yn ddiweddaar maen nhw wedi bod ar daith.
Ffynhonnell y llun, Ryan EddlestonMae ymddangosiad y Super Furry Animals heno yn cael ei ddisgrifio fel cyfle prin i'w gweld "yn perfformio yn awyrgylch arbennig Maes yr Eisteddfod"
Dywedodd Cian Ciarán o'r band: "'Dam ni'n edrych ymlaen at chwarae set unigryw, rywbeth na clywsoch erioed o'r blaen ac ella na 'newch chi byth eto."
Fe fydd tri grŵp yn cefnogi'r Super Furries ar Lwyfan y Maes, sef Mellt, Pys Melyn ac Ynys.
Mae mynediad i Lwyfan y Maes wedi'i gynnwys ym mhris tocyn dydd arferol.
Ffynhonnell y llun, Digwyddiadau'r Garreg LasDyma un o'r addurniadau sy'n croesawu eisteddfodwyr
Heno yn y pafiliwn mae cryn edrych ymlaen i'r sioe 'Sefyll ar y Sgwâr' - mae'r sioe yn dathlu gwaddol Ail Symudiad - y grŵp roc poblogaidd o'r 1980au.
Yn 2021 bu farw Richard a Wyn Jones - y ddau frawd a sefydlodd Ail Symudiad.
Bydd y sioe gerdd yn cyfuno cerddoriaeth Ail Symudiad gyda stori sydd wedi cael ei hysgrifennu gan Nico Dafydd a Mari Elen.
Prif gymeriadau y sioe yw Nansi fydd yn cael ei phortreadu gan Betsan Lees a'i mam (Llinor ap Gwynedd), gyda Mefin Hughes yn cymryd rhan Morys.
Bydd lleisiau Côr yr Eisteddfod hefyd yn rhan o'r perfformiad.
Mae'r sioe yn cael ei pherfformio heno a nos Lun - a'c mae'r holl docynnau wedi cael eu gwerthu.

Betsan a Mefin - dau o'r prif gymeriadau - ar y Maes brynhawn Sadwrn
Ffynhonnell y llun, Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg LasMae tafodiaith Sir Benfro yn gwbl unigryw - a gwell yw dod i'r arfer gyda rhai geirau tafodieithol fel:
perci - caeau
tato newi - tatws newydd
y feidir - ffordd neu lwybr
macyn - hances
cintachu - cwyno
crwt - bachgen
jycos - hapus
Ffynhonnell y llun, Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg LasMae ffugenwau yn aml yn gallu rhoi rhyw syniad pwy yw'r beirdd/awduron neu o ba ardal y maen nhw'n dod.
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn Sir Benfro - sef yn Nhyddewi - Myrddin ap Dafydd enillodd y gadair ar y testun 'Llwybrau' a'i ffugenw oedd 'Pawb yn y Pafiliwn'.
Yn sicr roedd hynny yn her i'r Archdderwydd Robin Llŷn.
Aled Jones Williams enillodd y Goron, Angharad Price enillodd y Fedal Ryddiaith am ei chyfrol O! Tyn y Gorchudd a'r diweddar Eirug Wyn a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Bitsh.
Ymhlith y rhai a urddwyd i'r Orsedd roedd y newyddiadurwr Garry Owen - ac ydi mae'n gohebu o'r maes eto eleni.
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod GenedlaetholMyrddin ap Dafydd oedd yr Archdderwydd cyn yr un presennol - yr Archdderwydd Mererid
Gwyliwch ran o araith Mari Grug, Llywydd yr Eisteddfod yn seremoni agoriadol yr ŵyl, gafodd ei chynnal yn y Pafiliwn yn gynharach heddiw.
Gallwch wrando ar yr araith yn llawn yma.
Mari Grug: "Mae pobl y Garreg Las yn bobl sbeshal"

Gwyneth Glyn a Twm Morys
Bydd Bob Delyn a'r Ebillion yn diddanu yn y Tŷ Gwerin am 18:15 heno.
Cafodd Cymru Fyw air â Twm Morys wrth iddo gludo ei delyn yno a'i chadw'n ddiogel. Mae hon yn delyn arbennig i'r bardd a'r cerddor, gan ei bod wedi ei rhoi iddo gan ei fam sef y diweddar Jan Morris.
Eglurodd: "Mae'r delyn yma yn dwad o'r ardal. Yn 1979 ddes i lawr yma efo fy Mam cyn fy mhen-blwydd yn 18 a roedd hi'n dweud ei bod hi am brynu gwyddau o fferm.
"O'n i yn obsesd efo telynau erioed, ac oedd Mam yn gwybod hynny. Ar ein diwrnod olaf yn yr ardal mi aeth Mam â fi i fferm ac yno roedd telyn gan y gwneuthurwr lleol, John Thomas.
"Dwi heb chwara lot arni, ond eleni dwi'n dod â hi yn ei hôl. Mae'r ardal yma yn un hyfryd."
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod GenedlaetholAm y tro cyntaf eleni mae Y Tebot Hud ar Faes yr Eisteddfod fel hafan i'r rhai sy'n chwilio am seibiant o'r bwrlwm.
Bydd y lleoliad yn cynnig rhaglen o gerddoriaeth, sgyrsiau a gweithgareddau llesiant mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar.
Bydd y strwythur unigryw, gyda’i ffenestri mawr crwn a’i simdde uchel, yn cynnig man lle bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau paned, ymlacio a chymryd rhan mewn sesiynau cerddorol anffurfiol drwy gydol yr wythnos.
Y delynores Catrin Finch a’r gomedïwraig Carys Eleri fydd yn arwain arlwy’r Tebot Hud gan groesawu Eisteddfodwyr a chyflwyno rhaglen arbennig fydd yn hyrwyddo llesiant ac yn cynnig cyfle i ymlacio yng nghanol prysurdeb yr ŵyl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis, fod dod â'r Tebot Hud i'r Maes yn rhan o'r ymdrech i greu gofod lle gall pobl ymlacio a chysylltu ag eraill.
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol“Croeso i bawb ddod i Caffi Maes B, mae’n dywyll a chysgodol yma - ideal os chi bach yn hungover.
"Mae 'na hefyd lwyth o fandiau yn chwarae drwy’r wythnos yma, very chilled vibe. Dewch yn llu!,” medd Glain Llwyd.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn dathlu sawl pen-blwydd arbennig.
Yn 1976 y cyflwynyd Medal T H Parry-Williams am y tro cyntaf - a hynny i Mrs L M Tegryn Davies, Aberteifi am ei gwaith diflino gyda phobl ifanc.
Mae’r Fedal yn gyfle i nodi a dathlu cyfraniad gwirioneddol mewn ardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Sefydlwyd cronfa Syr TH Parry-Williams yn Awst 1975 yn dilyn ei farwolaeth.
Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.
Y cyfarwyddwr corawl a’r athro llais Islwyn Evans yw enillydd y fedal eleni ac mae hi'n rhoddedig gan Menter Iaith Sir Benfro.

Mae rownd derfynol y Talwrn yn cael ei chynnal yn y Babell Lên ar hyn o bryd, a hynny rhwng timau Dros yr Aber a Tir Iarll.
Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda'r Meuryn, Ceri Wyn Jones yn gynharach. Gwrandewch isod.
Dros yr Aber a Tir Iarll yw'r ddau dîm yn rownd derfynol y Talwrn brynhawn Sadwrn
Mae Carys o Gaerdydd ac Eryl o Ynys Môn wedi mwynhau dod i adnabod Maes Eisteddfod y Garreg Las. Dywedodd Carys ei fod yn "faes hyfryd, mawr iawn".
Dywedodd Eryl o Ynys Môn ei bod yn 'fendigedig' a'i bod yn "gobeithio bydd y tywydd yn dal, achos mae'n faes agored iawn.
"Felly gobeithio y gwnaiff y gwynt a'r glaw gadw draw."

Mae Leusa a Nyfain wedi teithio o ardal Caernarfon heddiw. “Da ni wedi cyrraedd ers ryw awr, mae’r maes yn fawr! Da ni’n edrych ymlaen at weld y Super Furries heno."

Dyma ymweliad cyntaf Liz â'r Eisteddfod, tra bod Sheena heb fod ers blynyddoedd.
Roedd y maes wedi creu argraff gyntaf dda: "Mae digon o le yma, y layout yn good a ni’n edrych ymlaen i weld bach o bopeth!"

Liz a Sheena

(isod) Mae Gerallt Rhys Jones a Sara Meredydd o Gemaes a Phenegoes, Machynlleth - cartref eisteddfod 2027 yn ciwio i fynd i weld cystadleuaeth y corau yn y pafiliwn ac yn gobeithio am lwc dda i Aelwyd Penllys.

Gerallt Rhys Jones a Sara Meredydd o Gemaes a Phenegoes, Machynlleth
Yn sgil gwahardd Dic Jones o gystadleuaeth y gadair, Alan Llwyd a enillodd y goron a'r gadair - dyma'r eildro iddo gyflawni y dwbwl. 'Troeon Bywyd' oedd testun ei gerddi ar gyfer y Goron.
'Nid Mudan mo'r Môr enillodd y Fedal Ryddiaith o waith Marged Prtichard o Finffordd ger Porthmadog.
Ni chyflwynwyd yr un ddrama hir i'w hystyried ar gyfer Tlws y Ddrama.

Mae aelodau'r corau cerdd dant yn hen gyfarwydd bellach â rhannau o awdl 'Y Gwanwyn' Dic Jones gan mai perfformio detholiad o'r awdl yw'r gystadleuaeth i gôr cerdd dant dros 20 mewn nifer.
Awdl Dic Jones oedd ffefryn beirniaid y gadair yn Eisteddfod Aberteifi yn 1976 ond gan fod Dic yr Hendre yn aelod o Bwyllgor Llenyddol yr Eisteddfod cafodd ei wahardd o'r gystadleuaeth a chadeiriwyd Alan Llwyd a oedd hefyd yn deilwng.
Yn sicr bydd cryn ganu ar y geiriau 'Bydd gwanwyn a bydd geni'n dragywydd' nos Wener.
Mae chwech o gorau yn cystadlu - sef Côr Tôn-teg, Côr Cymunedol Llanuwchllyn a'r Cylch, Côr Merched Ystum Taf, Côr Merched Llangwm, Lleisiau Gwyddno a Lleisiau Tywi.
Yn y Babell Lên fore Gwener cyfle i glywed teulu a ffrindiau Dic Jones yn hel atgofion amdano ar y maes ddydd Mercher bydd perfformiad o'r awdl gyfan.
Ffynhonnell y llun, bbc
Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannyddArwyddfardd Gorsedd y Beirdd yn edrych ymlaen
Cafodd y Parchedig Beti Wyn James ei phenodi yn Arwyddfardd Gorsedd y Beirdd yn 2022 a hi yw'r fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â’r rôl.
Yr Arwyddfardd sy'n gofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd.
Mae'n gyfrifol am orymdeithiau'r Orsedd a chynorthwyo'r Cofiadur gyda chyfarwyddo'r seremonïau.
Mae'n edrych ymlaen yn fawr - ac mae'r gwisgoedd yn barod ar gyfer gorseddogion profiadol a newydd.
Ffynhonnell y llun, LLun cyfrannyddJohn Davies, Cwmbetws yw cadeirydd y pwyllgor gwaith eleni ac mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn iddo fe a'i dîm.
Mae e newydd gyhoeddi o'r llwyfan bod y gronfa leol eleni wedi cyrraedd £540,000 - y swm mwyaf y mae pwyllgor lleol wedi'i godi. Y nod a osodwyd oedd £400,000.
Dyw'r byd eisteddfodol ddim yn ddieithr i John Cwmbetws gan fod ei fam a'i chwaer yn cystadlu.
Yn Eisteddfod Aberteifi roedd e'n 13 oed ac yn gweithio fel 'runner' i'r prif stiward.
Yn 1986 adeg Eisteddfod Abergwaun roedd e'n trefnu digwyddiadau gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn ystod Eisteddfod Tyddewi 2002 roedd e'n arweinydd Cyngor Sir Penfro.
Mae wedi bod yn brofiad arbennig bod yn gadeirydd, meddai, ond beth fydd pawb yn ei wneud ar yr 8fed o Awst?!!!!
