Crynodeb

  1. Hwyl am y tro - diolch am eich cwmniwedi ei gyhoeddi 16:53 GMT+1

    A dyna ni o'r maes am heddiw ar ddiwrnod heulog llawn bwrlwm.

    Heno mae cryn edrych ymlaen at Sioe Sefyll ar y Sgwâr a'r Super Furries.

    Bore fory yr oedfa - a fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru am 14:00 ac yna ar BBC Sounds.

    Diolch am eich cwmni heddiw - dechrau da i wythnos Eisteddfod y Garreg Las.

    Bydd y llif byw nesaf o'r Maes ddydd Llun - mae gweddill straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Mae mwy o luniau'r dydd yma.

    Diolch am eich cwmni - hwyl am y tro.

    croeso
  2. Yn syth o'r Sioe i'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 16:45 GMT+1

    Roedd Jordan a Steve o Aberystwyth wedi teithio i'r maes ar ôl ymweld â Sioe Aberteifi - gŵyl fawr arall oedd hefyd yn cael ei chynnal yn yr ardal heddiw.

    Dywedon nhw wrth Cymru Fyw: “Dwi ddim yn meddwl bo' ni cweit yn ffitio’r vibe efo’r dillad, ond ni’n joio!”

    Jordan a Steve
    Lleucu a Nedw
    Disgrifiad o’r llun,

    Lleucu a Nedw o Benisarwaun yn mwynhau hufen ia ar ôl diwrnod hir yn yr haul

  3. Ffans Super Furries yn edrych ymlaen yn eiddgar at henowedi ei gyhoeddi 16:30 GMT+1

    llyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Llŷr o Aberystwyth yn edrych ymlaen yn eiddgar ac yn gwisgo ei grys-T

    Dylan
    Disgrifiad o’r llun,

    Un arall sydd yn gwisgo crys-T yw Dylan o Harlech

  4. Canlyniad rownd derfynol Y Talwrnwedi ei gyhoeddi 16:22 GMT+1

    Timau rownd derfynol Y Talwrn

    Mae rownd derfynol y Talwrn yn un o uchafbwyntiau'r Babell Lên pob blwyddyn, a'r ddau dîm oedd yn cystadlu heddiw oedd Tir Iarll a Dros yr Aber.

    Dros yr Aber ddaeth i'r brig, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae'r tîm bellach wedi cipio tlws Y Talwrn chwe gwaith.

    Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu yfory am 19:00 ar BBC Radio Cymru.

    Dyma enillwyr tlysau eraill y rownd derfynol:

    Tlws coffa Dic Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Ceri Wyn Jones yn cyflwyno tlws coffa Dic Jones (cywydd orau y gyfres) i Rhys Iorwerth o dîm Dros yr Aber

    Enfys Hatcher yn derbyn Tlws Coffa Cledwyn Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Enfys Hatcher yn derbyn Tlws Coffa Cledwyn Roberts

    Iwan Thomas yn derbyn Tlws Coffa Emyr Oernant
    Disgrifiad o’r llun,

    Iwan Thomas yn derbyn Tlws Coffa Emyr Oernant

  5. Llywelyn o Gasnewydd: Mor falch o Gymru ac am ddangos hynnywedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1

    Llywelyn

    Mae Llywelyn o Gasnewydd yn dysgu Cymraeg.

    Dywed ei fod yn hynod o falch o Gymru a'r iaith Gymraeg a'i fod yn awyddus i ddangos hynny ar y Maes.

  6. 👔 Côr CantiLena yn paratoi i gystadlu ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 16:13 GMT+1

    Mae Côr CantiLena ymhlith y nifer o gorau sy'n cystadlu brynhawn Sadwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Côr CantiLena ymhlith y nifer o gorau sy'n cystadlu brynhawn Sadwrn

  7. Llongyfarchiadau Arthur!wedi ei gyhoeddi 16:10 GMT+1

    Llongyfarchiadau mawr i Arthur Siôn Evans, enillydd yr unawd o dan 12.

    Mae uchafbwyntiau fideo a holl ganlyniadau'r dydd o'r Pafiliwn yma.

    Disgrifiad,

    Unawd o dan 12 oed // Solo under 12 (250)

  8. Maes a phafiliwn llawn ddiwedd prynhawnwedi ei gyhoeddi 16:05 GMT+1

    maes

    Ers 14:40 mae cystadleuaeth y corau ar lwyfan y pafiliwn.

    Mae pob côr yn perfformio rhaglen hyd at 10 munud - rhaglen sy'n cynnwys darn gan gyfansoddwr/gyfansoddwraig o Gymru.

    Mae'n gystadleuaeth boblogaidd.

    Ar y Maes mae nifer yn mwynhau diod a chlonc cyn digwyddiadau mawr y nos - mae digwyl prysurdeb mawr tua 18:00.

    maes
    maes
  9. Dylunio hetiau arbennig Super Furry Animals - maen nhw'n boblogaidd!wedi ei gyhoeddi 16:00 GMT+1

    Wrth i'r cyffro gynyddu ar gyfer perfformiad Super Furry Animals ar y maes, mae Aled Hughes wedi bod yn sgwrsio efo Tim Williams o gwmni Spirit of '58. Mae'r cwmni wedi cydweithio â'r band i gynhyrchu hetiau bwced arbennig eleni.

    Meddai Tim, sy'n ffan mawr o'r band: "Fy nghenedlaeth i ydi'r Furries. Dwi'n cofio bod yn yr Eisteddfod yn eu gwylio nhw, mewn pabell heb ddim cwrw o gwbl.

    "Mae heddiw yn foment mawr yn fy mywyd i".

    Mae Cian o'r band wedi cynorthwyo gyda dyluniad yr het, a roedd tipyn o giw ar stondin y siop heddiw i'w prynu.

    Disgrifiad,

    Mae'r hetiau yn gywaith rhwng siop Spirit of 58 ac aelodau'r band

  10. Super Furry Animals ar Faes y Brifwyl am y tro cyntaf ers 1996wedi ei gyhoeddi 15:51 GMT+1

    Aelodau'r band o flaen y tanc ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo yn 1996Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Aelodau'r band o flaen y tanc ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo yn 1996

    Heno ac mae 'na gryn edrych ymlaen fe fydd un o fandiau mwyaf eiconig Cymru yn perfformio ar y Maes a hynny am y tro cyntaf ers 30 o flynyddoedd.

    Y tro diwethaf i'r grŵp poblogaidd berfformio yn y Brifwyl oedd yn ystod Eisteddfod Llandeilo yn 1996, gan ddod â thanc glas i'r Maes fel rhan o ymgyrch hyrwyddo.

    Yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod, y perfformiad yn Llantwd "fydd yr unig gig uniaith Gymraeg fydd y band yn ei berfformio" . Yn ddiweddaar maen nhw wedi bod ar daith.

    sfaFfynhonnell y llun, Ryan Eddleston
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae ymddangosiad y Super Furry Animals heno yn cael ei ddisgrifio fel cyfle prin i'w gweld "yn perfformio yn awyrgylch arbennig Maes yr Eisteddfod"

    Dywedodd Cian Ciarán o'r band: "'Dam ni'n edrych ymlaen at chwarae set unigryw, rywbeth na clywsoch erioed o'r blaen ac ella na 'newch chi byth eto."

    Fe fydd tri grŵp yn cefnogi'r Super Furries ar Lwyfan y Maes, sef Mellt, Pys Melyn ac Ynys.

    Mae mynediad i Lwyfan y Maes wedi'i gynnwys ym mhris tocyn dydd arferol.

  11. Sioe sy'n dathlu gwaddol Ail Symudiad - y tocynnau wedi'u gwerthu yn sythwedi ei gyhoeddi 15:45 GMT+1

    Sefyll ar y SgwarFfynhonnell y llun, Digwyddiadau'r Garreg Las
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma un o'r addurniadau sy'n croesawu eisteddfodwyr

    Heno yn y pafiliwn mae cryn edrych ymlaen i'r sioe 'Sefyll ar y Sgwâr' - mae'r sioe yn dathlu gwaddol Ail Symudiad - y grŵp roc poblogaidd o'r 1980au.

    Yn 2021 bu farw Richard a Wyn Jones - y ddau frawd a sefydlodd Ail Symudiad.

    Bydd y sioe gerdd yn cyfuno cerddoriaeth Ail Symudiad gyda stori sydd wedi cael ei hysgrifennu gan Nico Dafydd a Mari Elen.

    Prif gymeriadau y sioe yw Nansi fydd yn cael ei phortreadu gan Betsan Lees a'i mam (Llinor ap Gwynedd), gyda Mefin Hughes yn cymryd rhan Morys.

    Bydd lleisiau Côr yr Eisteddfod hefyd yn rhan o'r perfformiad.

    Mae'r sioe yn cael ei pherfformio heno a nos Lun - a'c mae'r holl docynnau wedi cael eu gwerthu.

    Betsan a Mefin - dau o'r prif gymeriadau - ar y Maes brynhawn Sadwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Betsan a Mefin - dau o'r prif gymeriadau - ar y Maes brynhawn Sadwrn

  12. Disgwyl ambell strocen ond ddim bod yn wlyb sopen - gobeithio!wedi ei gyhoeddi 15:34 GMT+1

    arwyddFfynhonnell y llun, Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg Las

    Mae tafodiaith Sir Benfro yn gwbl unigryw - a gwell yw dod i'r arfer gyda rhai geirau tafodieithol fel:

    perci - caeau

    tato newi - tatws newydd

    y feidir - ffordd neu lwybr

    macyn - hances

    cintachu - cwyno

    crwt - bachgen

    jycos - hapus

    arwyddFfynhonnell y llun, Digwyddiadau Eisteddfod y Garreg Las
  13. 'Pawb yn y Pafiliwn' oedd ffugenw enillydd y gadair yn Eisteddfod ddiwethaf Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 15:27 GMT+1

    Mae ffugenwau yn aml yn gallu rhoi rhyw syniad pwy yw'r beirdd/awduron neu o ba ardal y maen nhw'n dod.

    Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yn Sir Benfro - sef yn Nhyddewi - Myrddin ap Dafydd enillodd y gadair ar y testun 'Llwybrau' a'i ffugenw oedd 'Pawb yn y Pafiliwn'.

    Yn sicr roedd hynny yn her i'r Archdderwydd Robin Llŷn.

    Aled Jones Williams enillodd y Goron, Angharad Price enillodd y Fedal Ryddiaith am ei chyfrol O! Tyn y Gorchudd a'r diweddar Eirug Wyn a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Bitsh.

    Ymhlith y rhai a urddwyd i'r Orsedd roedd y newyddiadurwr Garry Owen - ac ydi mae'n gohebu o'r maes eto eleni.

    Myrddin ap Dafydd oedd yr Archdderwydd cyn yr un presennol - yr Archdderwydd MereridFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Myrddin ap Dafydd oedd yr Archdderwydd cyn yr un presennol - yr Archdderwydd Mererid

  14. 'Mae pobl y Garreg Las yn bobl sbesial...'wedi ei gyhoeddi 15:23 GMT+1

    Gwyliwch ran o araith Mari Grug, Llywydd yr Eisteddfod yn seremoni agoriadol yr ŵyl, gafodd ei chynnal yn y Pafiliwn yn gynharach heddiw.

    Gallwch wrando ar yr araith yn llawn yma.

    Disgrifiad,

    Mari Grug: "Mae pobl y Garreg Las yn bobl sbeshal"

  15. Telyn arbennig Twm Morys yn dychwelyd i'r ardalwedi ei gyhoeddi 15:15 GMT+1

    Twm Morus
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwyneth Glyn a Twm Morys

    Bydd Bob Delyn a'r Ebillion yn diddanu yn y Tŷ Gwerin am 18:15 heno.

    Cafodd Cymru Fyw air â Twm Morys wrth iddo gludo ei delyn yno a'i chadw'n ddiogel. Mae hon yn delyn arbennig i'r bardd a'r cerddor, gan ei bod wedi ei rhoi iddo gan ei fam sef y diweddar Jan Morris.

    Eglurodd: "Mae'r delyn yma yn dwad o'r ardal. Yn 1979 ddes i lawr yma efo fy Mam cyn fy mhen-blwydd yn 18 a roedd hi'n dweud ei bod hi am brynu gwyddau o fferm.

    "O'n i yn obsesd efo telynau erioed, ac oedd Mam yn gwybod hynny. Ar ein diwrnod olaf yn yr ardal mi aeth Mam â fi i fferm ac yno roedd telyn gan y gwneuthurwr lleol, John Thomas.

    "Dwi heb chwara lot arni, ond eleni dwi'n dod â hi yn ei hôl. Mae'r ardal yma yn un hyfryd."

  16. Y Tebot Hud - gofod lle gall pobl ymlaciowedi ei gyhoeddi 15:09 GMT+1

    Tebot HudFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Am y tro cyntaf eleni mae Y Tebot Hud ar Faes yr Eisteddfod fel hafan i'r rhai sy'n chwilio am seibiant o'r bwrlwm.

    Bydd y lleoliad yn cynnig rhaglen o gerddoriaeth, sgyrsiau a gweithgareddau llesiant mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar.

    Bydd y strwythur unigryw, gyda’i ffenestri mawr crwn a’i simdde uchel, yn cynnig man lle bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau paned, ymlacio a chymryd rhan mewn sesiynau cerddorol anffurfiol drwy gydol yr wythnos.

    Y delynores Catrin Finch a’r gomedïwraig Carys Eleri fydd yn arwain arlwy’r Tebot Hud gan groesawu Eisteddfodwyr a chyflwyno rhaglen arbennig fydd yn hyrwyddo llesiant ac yn cynnig cyfle i ymlacio yng nghanol prysurdeb yr ŵyl.

    Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis, fod dod â'r Tebot Hud i'r Maes yn rhan o'r ymdrech i greu gofod lle gall pobl ymlacio a chysylltu ag eraill.

    TebotFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  17. 'Very chilled vibe' yng Nghaffi Maes B 😊wedi ei gyhoeddi 15:05 GMT+1

    “Croeso i bawb ddod i Caffi Maes B, mae’n dywyll a chysgodol yma - ideal os chi bach yn hungover.

    "Mae 'na hefyd lwyth o fandiau yn chwarae drwy’r wythnos yma, very chilled vibe. Dewch yn llu!,” medd Glain Llwyd.

    Glain Llwyd
  18. Medal Goffa Syr T H Parry-Williams yn 50 eleniwedi ei gyhoeddi 14:58 GMT+1

    Mae'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn dathlu sawl pen-blwydd arbennig.

    Yn 1976 y cyflwynyd Medal T H Parry-Williams am y tro cyntaf - a hynny i Mrs L M Tegryn Davies, Aberteifi am ei gwaith diflino gyda phobl ifanc.

    Mae’r Fedal yn gyfle i nodi a dathlu cyfraniad gwirioneddol mewn ardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.

    Sefydlwyd cronfa Syr TH Parry-Williams yn Awst 1975 yn dilyn ei farwolaeth.

    Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.

    Y cyfarwyddwr corawl a’r athro llais Islwyn Evans yw enillydd y fedal eleni ac mae hi'n rhoddedig gan Menter Iaith Sir Benfro.

    T H Parry Williams
  19. Pwy fydd yn cipio rownd derfynol y Talwrn?wedi ei gyhoeddi 14:54 GMT+1

    Mae rownd derfynol y Talwrn yn cael ei chynnal yn y Babell Lên ar hyn o bryd, a hynny rhwng timau Dros yr Aber a Tir Iarll.

    Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda'r Meuryn, Ceri Wyn Jones yn gynharach. Gwrandewch isod.

    Disgrifiad,

    Dros yr Aber a Tir Iarll yw'r ddau dîm yn rownd derfynol y Talwrn brynhawn Sadwrn

  20. Maes 'mawr ac agored' - argraffiadau'r diwrnod cyntafwedi ei gyhoeddi 14:51 GMT+1

    Mae Carys o Gaerdydd ac Eryl o Ynys Môn wedi mwynhau dod i adnabod Maes Eisteddfod y Garreg Las. Dywedodd Carys ei fod yn "faes hyfryd, mawr iawn".

    Dywedodd Eryl o Ynys Môn ei bod yn 'fendigedig' a'i bod yn "gobeithio bydd y tywydd yn dal, achos mae'n faes agored iawn.

    "Felly gobeithio y gwnaiff y gwynt a'r glaw gadw draw."

    Carys ac Eryl

    Mae Leusa a Nyfain wedi teithio o ardal Caernarfon heddiw. “Da ni wedi cyrraedd ers ryw awr, mae’r maes yn fawr! Da ni’n edrych ymlaen at weld y Super Furries heno."

    Leusa a Nyfain

    Dyma ymweliad cyntaf Liz â'r Eisteddfod, tra bod Sheena heb fod ers blynyddoedd.

    Roedd y maes wedi creu argraff gyntaf dda: "Mae digon o le yma, y layout yn good a ni’n edrych ymlaen i weld bach o bopeth!"

    Liz a Sheena
    Disgrifiad o’r llun,

    Liz a Sheena