Sefyll ar y Sgwâr: 'Byse Richard a Wyn wrth eu boddau'

y castFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cast yn perfformio'r Sioe nos Sadwrn a nos Lun

GanAnnell DyfriaGwen AeronBBC CymruYn gohebu oEisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr Sioe yr Eisteddfod eleni yn dweud y byddai'r ddau frawd sydd wedi'i hysbrydoli "wrth eu boddau".

Nod Siwan Llynor, Mari Elen a Nico Dafydd - y criw tu ôl i'r sioe - oedd parhau â gwaddol Richard a Wyn Jones o'r band Ail Symudiad.

Mae Sefyll ar y Sgwâr yn sioe gerdd jiwcbocs newydd sy'n dathlu etifeddiaeth y band.

Bydd y cast yn perfformio'r sioe nos Sadwrn a nos Lun, ac mae pob tocyn eisoes wedi'i werthu.

Dywedodd yr Eisteddfod y bydd y sioe yn "un o uchafbwyntiau artistig ac emosiynol" y Brifwyl eleni, "trwy gyfuno pŵer corawl, stori newydd a thiwns bachog Ail Symudiad".

Ychwanegodd fod y sioe gerdd yn "gyfle unigryw i'r gymuned leol a Chymru gyfan ddathlu etifeddiaeth eiconig Richard ac Wyn Jones (Fflach) ac Ail Symudiad".

Wyn a Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wyn (chwith) a Richard (dde) o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd yn 2021

Un sydd wedi bod yn brysur iawn yn ceisio rhoi'r cyfan at ei gilydd yw Siwan Llynor, cyfarwyddwr y sioe.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd ei bod yn "awyddus iawn i gastio o'r byd cerddorol Cymraeg oherwydd gwaddol a gweledigaeth Richard a Wyn Ail Symudiad".

"Oedden nhw'n cefnogi artistiaid ifanc ar hyd eu gyrfa, felly oedd o'n bwysig i ni fod cerddorion ifanc - nid jest actorion - yn rhan o'r perfformiad yna, a dwi mor falch hefyd bod 'na gerddorion ifanc yn y band hefyd.

"Ma' gyno' ni aelodau o fand Dewin a Lafant ar y llwyfan, a dwi'n siŵr byse Richard a Wyn wrth eu boddau bo' ni'n creu hwn, ac yn creu cyfleoedd i gerddorion ar gychwyn eu gyrfa gerddorol yng Nghymru."

Wrth sôn am y sioe ei hun, dywedodd: "O'n i wir eisiau llwyfannu rhywbeth lle oedd y gynulleidfa yn cael dianc am awr a hanner, yn brofiad theatrig, cerddoriaeth byw a stori dda, a dwi'n gobeithio bod ganddo' ni hynny."

y cast Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyfarwyddwr yn awyddus i ddefnyddio cerddorion yn ogystal ag actorion fel rhan o'r cast

I Gareth Potter, sy'n chwarae rhan Mr Do, mae'r sioe yn golygu llawer iddo.

Bu'n rhannu llwyfan gyda Richard a Wyn dros y blynyddoedd, ac roedd y ddau yn gefnogwyr brwd iddo pan oedd yntau ar ddechrau ei yrfa gerddorol.

"Dwi wedi treulio lot fawr o amser yn yr ardal yma, a hefyd o'n i'n 'nabod Richard a Wyn o Ail Symudiad, ac mae'n fraint i fod yn rhan o'r peth," meddai.

"Mae'n bwysig iawn i ddathlu Ail Symudiad - maen nhw'n un o'r grwpiau yna oedd yn arbennig.

"Maen nhw 'di sgwennu gymaint o ganeuon classic pop Cymraeg, ac weithiau dy'n nhw ddim yn cael eu rhoi mewn 'da'r bandiau mawr, mawr, mawr, ond i fi maen nhw.

"A ma' beth maen nhw wedi gwneud i'r ardal yma, gyda [label recordiau] Fflach yn ogystal ag Ail Symudiad a gyda hybu grwpiau er'ill a phobl greadigol yr ardal, wy'n meddwl bod e'n bwysig iawn dathlu hwnna.

"A ma' pawb yn adnabod y caneuon, ac mae'n grêt cael gwneud hwnna."

y cast yn ymarferFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob tocyn wedi'i werthu ar gyfer y sioe

Un arall sydd â rôl flaenllaw yn y sioe yw Betsan Lees, sy'n chwarae cymeriad Nansi.

Er ei bod wedi ei magu yng Nghaerdydd, mae ganddi gysylltiad teuluol gref ag ardal yr Eisteddfod.

Dywedodd fod y "sioe yma wedi bod yn ffordd o ailgysylltu â rhan bwysig o bwy ydw i".

"Er 'mod i wedi tyfu lan yng Nghaerdydd, mae gwreiddiau fy nheulu yn ddwfn yn yr ardal yma, ac mae wedi bod yn emosiynol cael dod 'nôl a gweithio yma bob dydd.

"Mae'n gwneud i'r stori deimlo'n bersonol iawn."

Dywedodd ei bod wedi "mwynhau pob eiliad o fod yn rhan o'r cynhyrchiad yma", a'i bod wedi "dysgu cymaint o eiriau ac ymadroddion newydd, ac mae hynny wedi ychwanegu at y profiad".

'Profiad wedi rhoi hyder mawr i fi'

Dyma sioe broffesiynol gyntaf Mefin Hughes, a dywedodd ei fod yn "teimlo'n ffodus iawn o gael y cyfle".

"Fel rhywun sydd wedi tyfu lan yn yr ardal, mae cael bod ar lwyfan yn adrodd stori sy'n perthyn i'r fro yma'n golygu lot.

"Dwi wedi bod yn ffan o waith Ail Symudiad ers blynyddoedd, felly ma' cael canu eu caneuon wedi bod yn fraint, ac mae'r profiad cyfan wedi rhoi hyder mawr i fi."

Ag yntau'n aelod o fand Lafant, dywedodd ei fod yn "gweld pa mor bell mae dylanwad Richard a Wyn yn ymestyn".

"Maen nhw wedi agor drysau i gymaint o fandiau Cymraeg dros y blynyddoedd, a dwi'n teimlo'n ffodus iawn o gael chwarae rhan fach yn parhau â'r etifeddiaeth honno.

"Mae 'na deimlad go arbennig pan ti'n perfformio'r caneuon yma yn y fro lle gawson nhw eu hysgrifennu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.