Cymru a'r Tuduriaid cynnar tua 1485 – tua 1547

Part ofHanesUned 1: Hanes Cymru

Esgyniad Harri VII

Cafodd Harri Tudur ei eni yn 1457 yng Nghastell Penfro yng ngorllewin Cymru. Daeth yn Iarll Richmond ar ôl i’w dad, Edmwnd Tudur, farw. Roedd ei fam, y Fonesig Margaret Beaufort, yn un o Edward III, a oedd yn golygu bod gan Harri hawl i’r goron.

Cafodd Harri ei fagu gan ei ewythr, Jasper Tudur, ac fe gafodd ei addysgu fel . Helpodd Jasper Tudur i amddiffyn Harri yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod, sef brwydr hir am goron Lloegr rhwng dau deulu brenhinol, y Lancastriaid a’r Iorciaid. Parhaodd y rhyfeloedd o 1455 tan 1485.

Yn y 1470au, Harri oedd prif y goron o blith y Lancastriaid. Yn 1485, lansiodd Harri ymgais i gipio’r goron oddi ar Richard III, y Brenin Iorcaidd. Roedd ei fagwraeth yng Nghymru wedi ei helpu i ennill cefnogaeth y Cymry. Roedd llawer yn credu mai ef oedd y Mab Darogan, yr arwr chwedlonol a fyddai’n rhyddhau Cymru o reolaeth Lloegr.

Brwydrau olaf Rhyfeloedd y Rhosynnod

Brwydr BosworthBrwydr Stoke
Dyddiad22 Awst 148516 Mehefin 1487
Pwy fu'n brwydro?Harri Tudur (y Lancastriaid) yn erbyn Brenin Richard III (yr Iorciaid).Brenin Harri VII yn erbyn y gwrthryfelwyr Iorcaidd o dan arweiniad John de la Pole a Lambert Simnel.
Beth ddigwyddodd?Cafodd Richard III ei ladd yn y frwydr. Harri Tudur enillodd, a daeth yn Frenin Harri VII.Trechodd Harri VII y gwrthryfelwyr Iorcaidd a daeth eu hymgais i’w ddiorseddu i ben.
Pam oedd hyn yn bwysig?Daeth Rhyfeloedd y Rhosynnod i ben a dechreuodd y Tuduriaid.Cadarnhaodd fuddugoliaeth Harri a daeth â mwy o sefydlogrwydd, gan ganiatáu i’r Tuduriaid gryfhau eu rheolaeth dros Gymru.

Pobl allweddol yn ystod Brwydr Bosworth

Richard III

Pwy oedd e?

  • Brenin Lloegr ac arweinydd Teulu Iorc.
  • Prif gystadleuydd Harri Tudur.

Pam oedd e’n bwysig?

  • Brwydrodd yn erbyn Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth (1485).
  • Cafodd ei ladd yn ystod y frwydr, gan ddod â theyrnasiad yr Iorciaid i ben a daeth Harri VII yn frenin.

Jasper Tudur

Pwy oedd e?

  • Ewythr a Harri Tudur, ac Iarll Penfro.

Pam oedd e’n bwysig?

  • Amddiffynodd Harri yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod.
  • Helpodd Harri i ddychwelyd i Loegr yn 1485.
  • Brwydrodd gyda Harri yn Bosworth a’i helpu i ennill cefnogaeth.

Y Brodyr Stanley

Pwy oedden nhw?

  • Thomas a Syr William Stanley, uchelwyr pwerus o Loegr.
  • Thomas Stanley oedd llystad Harri Tudur.

Pam oedden nhw’n bwysig?

  • Fe wnaethant aros yn niwtral tan y frwydr.
  • Fe wnaethant ymuno â Harri ar foment bwysig.
  • Helpodd eu cefnogaeth i drechu Richard III yn Bosworth.

Harri’n cipio’r goron

Ar ôl ennill Brwydr Bosworth, datganodd Harri VII mai ef oedd y brenin cyn i’r Senedd gyfarfod. Yna, aeth ati i ôl-ddyddio dyddiad dechrau ei deyrnasiad er mwyn iddo allu cosbi ei elynion fel . Hefyd, priododd Elisabeth o Efrog i uno’r ddau deulu a oedd wedi bod yn cystadlu am y goron ac i helpu i ddiogelu ei orsedd rhag gweddill yr Iorciaid.

Back to top

Llywodraethiant Cymru o dan Harri VII, 1485 - 1509

Harri VII a Chymru

Arglwyddi’r Mers oedd y pendefigion pwerus a oedd yn rheoli ardaloedd ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, sef y Gororau. Ers canrifoedd, roeddent wedi gweithredu bron fel llywodraethwyr annibynnol.

Ar ôl ei fuddugoliaeth yn Bosworth yn 1485, cymerodd Harri VII reolaeth dros arglwyddiaethau’r Mers. Roedd hyn yn lleihau eu grym nhw ac yn cryfhau awdurdod Harri yng Nghymru.

Siarteri Braint

Roedd Harri VII eisiau i arglwyddi’r Mers ei gefnogi ar ôl iddo ddod yn frenin. Rhoddodd Siarteri Braint i rai ohonynt i’w cadw’n ffyddlon iddo.

  • Roedd y siarteri hyn yn golygu bod rhai o arglwyddi’r Mers yn gallu cadw eu tiroedd a’u hawliau.
  • Felly roedd disgwyl i’r arglwyddi hyn i aros yn ffyddlon i Harri VII.
  • Roedd hyn yn helpu i leihau’r siawns o wrthryfela a chryfhau rheolaeth frenhinol yng Nghymru.

Cyngor y Gororau (1493)

Yn 1493, aeth Harri VII ati i ailsefydlu yng Nghastell Llwydlo. Roedd hyn ei helpu i reoli Cymru’n fwy effeithiol.

Pam wnaeth Harri VII ailsefydlu’r Cyngor?

  • Rheoli Cymru – Helpodd hyn Harri VII i lywodraethu Cymru ac ardaloedd y Gororau.
  • Cadw cyfraith a threfn – Roedd y Cyngor yn delio â throseddau ac yn datrys .
  • Lleihau grym arglwyddi’r Mers – Roedd y Cyngor yn gwneud yn siŵr mai swyddogion brenhinol, yn hytrach nag arglwyddi lleol, oedd yn cyflawni dymuniadau’r brenin.

Perthynas Harri â bonedd Cymru

Rhoddodd Harri VII dir a swyddi pwysig i teyrngar Cymru. Fe wnaeth hyn ei helpu i reoli Cymru ac ennill fwy o gefnogaeth gan Gymru.

Roedd gan fonedd Cymru swyddi pwysig yn y llys, ac roeddent yn helpu Harri VII i lywodraethu Cymru a chadw rheolaeth. Dau o fonheddwyr pwysicaf Cymru ar y pryd oedd Syr Rhys ap Thomas a William ap Gruffudd.

Syr Rhys ap Thomas

  • Cefnogodd Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth.
  • Cafodd ei wobrwyo gyda thir, cestyll a theitlau pwysig.
  • Cafodd ei wneud yn Gwnstabl Aberhonddu.
  • Bu’n cynnal cyfraith a threfn yn ne Cymru ar ran Harri VII.

William ap Gruffudd

  • Helpodd Harri VII i gasglu milwyr at ei gilydd cyn Brwydr Bosworth.
  • Cafodd ei wobrwyo gyda thir a swyddi pwysig yn y llywodraeth.
  • Cafodd ei wneud yn Gwnstabl Castell Caernarfon ac yn Siryf Sir Gaernarfon.
  • Helpodd Harri VII i reoli gogledd Cymru a gorfodi awdurdod brenhinol.

Tywysogion Tuduraidd Cymru

Dechreuodd Edward I y traddodiad o roi’r teitl Tywysog Cymru i’w etifedd yn 1301. Parhaodd Harri VII â’r traddodiad hwn drwy ei fab hynaf, Arthur, yn 1489. Roedd hyn yn cryfhau cysylltiadau Harri VII â Chymru ac yn sicrhau llinach y Tuduriaid. Yn 1493, anfonwyd Arthur i Gastell Llwydlo i ddysgu sut i lywodraethu Cymru a’r Gororau.

Ar ôl marwolaeth Arthur yn 1502, daeth ei frawd iau, Harri, yn Dywysog Cymru. Roedd ei arwisgiad wedi sicrhau olyniaeth y Tuduriaid ac wedi rhoi sicrwydd i bobl drwy ddangos yn glir pwy fyddai'n frenin ar Gymru a Lloegr yn y dyfodol.

Back to top

Ymdrechion cynnar Harri VIII i reoli Cymru, 1509 - 1536

Harri VIII a Chymru

Daeth Harri VIII yn frenin yn 1509 ar ôl marwolaeth ei dad, Harri VII.

Fel brenin, daeth ymddygiad yn destun pryder iddo. Roedd yn credu eu bod yn amddiffyn troseddwyr ac yn peidio â gorfodi’r gyfraith ar hyd ffin Cymru.

Sut aeth ati i ddelio ag arglwyddi’r Mers?

Rôl John Veysey

  • Cafodd ei benodi gan Harri VIII yn Arglwydd Lywydd y Cyngor yng Nghymru a’r Gororau.
  • Roedd yn gorfodi cyfreithiau’r brenin trwy Gymru a’r Gororau.
  • Roedd yn datrys anghydfodau ac yn lleihau ymladd rhwng teuluoedd lleol pwerus.
  • Fe wnaeth gryfhau grym y brenin a lleihau grym arglwyddi’r Mers.
  • Helpodd i baratoi Cymru ar gyfer rhagor o reolaeth gan Loegr.

Mari fel Tywysoges Cymru 1525-1531

Yn 1525, gwnaeth Harri VIII ei ferch hynaf, Mari, yn Dywysoges Cymru ac yn i’r goron. Roedd Mari wedi ei lleoli yng Nghastell Llwydlo, ac roedd ei rôl yn symbolaidd ar y cyfan.

Roedd llys Mari yng Nghastell Llwydlo yn dangos grym y Tuduriaid yng Nghymru. Fe wnaeth hyn gryfhau grym y Goron a pharatoi Mari ar gyfer ei rôl yn y dyfodol. Er mai hi oedd Tywysoges Cymru, Cyngor y Gororau oedd yn gyfrifol am lywodraethu Cymru o ddydd i ddydd. Yn 1531, collodd ei statws ar ôl i Harri geisio Catrin o Aragon.

Arglwyddi trafferthus y Mers

Teulu Herbert oedd un o deuluoedd mwyaf pwerus arglwyddi’r Mers yn ne Cymru.

Roeddent yn:

  • rheoli ardaloedd mawr o Sir Fynwy a Morgannwg
  • rhedeg eu llysoedd eu hunain ac yn rheoli ar eu tiroedd
  • gwrthod ymdrechion Harri VIII i gynyddu rheolaeth frenhinol
  • dadlau gyda theuluoedd pwerus eraill y Mers, gan achosi anhrefn

Fe wnaeth eu grym hefyd helpu Harri VIII i benderfynu bod angen iddo wneud mwy i reoli Cymru.

Arglwyddiaeth Magwyr

Roedd Magwyr yn arglwyddiaeth y Mers yn Sir Fynwy. Roedd gan arglwyddi lleol lawer o rym ac roeddent yn aml yn anwybyddu swyddogion y brenin. Roedd Harri VIII eisiau casglu trethi, gorfodi’r gyfraith a lleihau grym y rheolwyr lleol hyn. Ond, roedd llawer o bobl ym Magwyr yn gwrthwynebu ei newidiadau. Dangosodd hyn i Harri fod angen llywodraeth gryfach ac un system gyfreithiol ar Gymru.

Pam oedd Magwyr yn bwysig?

  • Roedd un o arglwyddiaethau pwysig y Mers yn Sir Fynwy.
  • Roedd Harri VIII eisiau mwy o reolaeth frenhinol.
  • Roedd trethi’n cael eu casglu ar gyfer y Goron.
  • Roedd arglwyddi lleol yn gwrthwynebu awdurdod brenhinol.

Protest Syr Rhys ap Gruffudd

Ar ôl i’w dad-cu farw yn 1525, roedd Rhys ap Gruffudd yn disgwyl etifeddu ei dir a’i deitlau. Rhoddodd Harri VIII lawer ohonynt i Walter Devereux yn lle hynny. Gwrthryfelodd Rhys yn erbyn Harri VIII. Cafodd Rhys ei drechu a’i am yn 1531. Roedd hyn yn rhybudd i bobl eraill beidio â herio awdurdod y Tuduriaid.

Erbyn dechrau’r 1530au, roedd Harri VIII yn hyderus bod angen iddo wneud mwy i reoli ac uno Cymru, ac i ddelio gydag arglwyddi trafferthus y Mers.

Back to top

Effaith y Diwygiad cynnar ar Gymru

Diwygiad Harri VIII

Roedd Harri VIII yn Gatholig ffyddlon. Amddiffynnodd y ar ôl i Martin Luther feirniadu’r Eglwys Gatholig yn 1517. Fodd bynnag, yn 1534 gwnaeth Harri ef ei hun yn Bennaeth yr Eglwys yn Lloegr, yn lle’r Pab. Diwygiad Lloegr neu Ddiwygiad Harri VIII yw'r enw ar hyn.

Back to top

Ffaith bwysig

Martin Luther wnaeth ddechrau Protestaniaeth yn yr Almaen, ar ôl beirniadu'r Eglwys Gatholig.

Back to top

Pam wnaeth Harri VIII ddechrau’r Diwygiad?

RheswmEsboniad
CrefyddolRoedd llawer o bobl yn beirniadu’r eglwys Gatholig am fod yn . Roedd syniadau Protestannaidd yn dod yn fwy poblogaidd mewn rhai rhannau o Loegr. Roedd y syniadau hyn wedi annog rhai o gynghorwyr Harri i gefnogi .
EconomaiddGallai Harri weld bod cyfoeth ym mynachlogydd Cymru a Lloegr. Roedd eisiau i dir a chyfoeth y mynachlogydd hyn gynyddu incwm y Goron a datrys problemau ariannol.
PersonolRoedd Harri eisiau bachgen yn , ond gwrthododd y Pab ei gais i ddod â’i briodas â Catrin o Aragon i ben.
GwleidyddolRoedd Harri eisiau cael gwared ar rym y Pab yn Lloegr a gwneud ei hun yn Bennaeth yr Eglwys, gan roi mwy o reolaeth dros y wlad iddo ef ei hun.

Diwygiadau’r Eglwys o dan Harri VIII

Deddf Anodau (1532)

Fe wnaeth Harri atal Lloegr rhag talu i’r Pab. Aeth yr arian i’r Goron, gan gynyddu rheolaeth a chyfoeth Harri.

Deddf Atal Apeliadau (1533)

Roedd y gyfraith hon yn atal pobl rhag gofyn i’r Pab yn Rhufain setlo dadleuon cyfreithiol a chrefyddol Lloegr. Caniataodd i Harri VIII ei briodas â Catrin o Aragon a chryfhau ei reolaeth dros yr Eglwys.

Deddf Goruchafiaeth (1534)

O ganlyniad i’r ddeddf hon, Harri VIII oedd goruchaf bennaeth Eglwys Loegr. Roedd hyn yn cael gwared ar awdurdod y Pab dros grefydd yng Nghymru a Lloegr.

Thomas Cromwell a’r rhesymau dros gael gwared ar y mynachlogydd

Thomas Cromwell oedd yn arwain Diddymiad y Mynachlogydd (1536–1541), gan gau tai crefydd a rhoi eu tir a’u cyfoeth i Harri VIII.

RheswmEsboniad
CrefyddolRoedd Cromwell yn credu bod mynachlogydd yn gwastraffu cyfoeth ac yn cefnogi arferion Catholig yr oedd Protestaniaid yn eu gwrthwynebu.
EconomaiddCafodd tirordd mynachaidd eu gwerthu i dalu am ryfeloedd ac i leihau dyledion y Goron.
PersonolRoedd rhai yn credu bod mynachlogydd yn fwy ffyddlon i’r Pab na’r Brenin.
GwleidyddolYn 1535 fe wnaeth y Valor Ecclesiasticus, arolwg o faterion ariannol yr Eglwys yn Lloegr, Cymru, a rhannau o Iwerddon, honni bod llawer o'r mynachlogydd yn cael eu rhedeg yn wael a’u bod yn annheyrngar.

Diddymu mynachlogydd Cymru

Cafodd mynachlogydd Cymru eu cau yn ystod Diddymiad y Mynachlogydd.

Abaty Nedd

Cafodd ei dir ei roi i Syr Richard Williams, gan ddod â chanrifoedd o fywyd mynachaidd i ben.

Abaty Margam

Cafodd ei dir ei roi i Deulu Mansel, ond roedd ei heglwys yn dal i gael ei defnyddio.

Abaty Tyndyrn

Cafodd y pethau gwerthfawr eu cymryd o’i adeiladau cyn iddo ddod yn un o hanesyddol enwocaf Cymru.

Abaty Ystrad Fflur

Cafodd ei gerrig eu hailddefnyddio’n lleol, gan adael adfeilion sy’n parhau i fod yn safle treftadaeth pwysig heddiw.

Gwrthwynebiad i’r Diwygiad

Roedd llawer o'r Cymry’n dal yn ffyddlon i’r Eglwys Gatholig ac roeddent yn gwrthwynebu rhai o newidiadau crefyddol Harri VIII. Roedd Diddymiad y Mynachlogydd yn aml yn amhoblogaidd yng Nghymru, yn enwedig gan fod mynachlogydd yn gymdeithasol a chrefyddol bwysig.

Yn y Llyfr Hwn (1546)

Nid oedd syniadau Protestannaidd o Ewrop a Lloegr wedi ymledu’n rhwydd yng Nghymru. Roedd y rhan fwyaf o ddysgeidiaeth Brotestannaidd yn Saesneg, ac felly roedd llawer o bobl yng Nghymru ddim yn ei deall.

Yn y Llyfr Hwn, a gafodd ei ysgrifennu gan Syr John Price, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yn Gymraeg. Roedd yn sicrhau bod dysgeidiaeth Brotestannaidd ar gael yn Gymraeg, gan alluogi mwy o bobl i ddeall y Diwygiad. Helpodd hefyd i leihau gwrthwynebiad i newidiadau Harri oherwydd Cymraeg, nid Saesneg, oedd y rhan fwyaf o Gymry yn ei siarad.

Back to top

Deddfau Uno 1536 a 1543

Y Deddfau Uno

Deddfau a gafodd eu cyflwyno gan Harri VIII a’i gynghorydd Thomas Cromwell yn 1536 a 1543, oedd y Deddfau Uno.

Cafodd y Deddfau Uno eu cyflwyno er mwyn:

  • cryfhau rheolaeth y Tuduriaid dros Gymru
  • dod â Chymru o dan gyfraith a llywodraeth Lloegr
  • lleihau trosedd a thorcyfraith, yn enwedig yn y Gororau
  • cyfyngu ar rym arglwyddi’r Mers
  • creu un deyrnas unedig o dan Harri VIII
  • amddiffyn llinach y Tuduriaid rhag gwrthryfel a gwrthwynebiad Catholig

Cafodd yr esgob Rowland Lee ei benodi gan Harri VIII i’w helpu i baratoi Cymru ar gyfer y Deddfau Uno. Yn 1534, daeth Rowland Lee yn Llywydd Cyngor Cymru, ac roedd yn defnyddio cosbau llym i gryfhau awdurdod y Tuduriaid ac i orfodi cyfraith a threfn.

Helpodd Thomas Cromwell i lunio’r Deddfau Uno er mwyn gwneud Cymru’n haws ei llywodraethu. Cafodd Cymru ei rhannu yn siroedd fel Lloegr, gyda siryfion ac Ynadon Heddwch.

Siryfion: roedd y rhain yn cael eu penodi gan Harri VIII i orfodi’r gyfraith, casglu trethi a chynrychioli’r Goron yn lleol.

Ynadon Heddwch: swyddogion lleol a oedd yn gorfodi cyfreithiau, yn cadw trefn ac yn delio â mân droseddau oedd Ynadon Heddwch.

Cafodd llysoedd newydd eu cyflwyno gan gynnwys y canlynol.

Llysoedd Chwarter

  • Llysoedd lleol a oedd yn cael eu cynnal bedair gwaith y flwyddyn i ddelio â throseddau difrifol oedd y rhain.
  • Roeddent yn gorfodi cyfraith Lloegr ledled Cymru.
  • Yr Ynadon Heddwch oedd yn rhedeg y rhain.

Llys y Sesiwn Fawr

  • Llys y Sesiwn Fawr oedd y llys uchaf yng Nghymru.
  • Roedd yn delio â’r achosion troseddol a sifil mwyaf difrifol.
  • Roedd yn gweithredu cyfreithiau Lloegr ledled Cymru.

Effaith y Deddfau Uno

  • Dim ond pobl oedd yn gallu siarad Saesneg oedd yn gallu cael eu cyflogi yn sector y llywodraeth 'r gyfraith.
  • Aelodau Seneddol o Gymru yn Senedd Lloegr .
  • Daeth Cymru’n rhan o system gyfreithiol a gwleidyddol Lloegr.
  • Mae llawer o haneswyr yn credu bod y cyfreithiau hyn wedi gwneud Cymru’n rhan o Loegr, yn hytrach na bod yn unedig fel gwlad gyfartal.
Back to top

More on Uned 1: Hanes Cymru

Find out more by working through a topic