Owain Glyndŵr tua 1354 – tua 1416

Part ofHanesUned 1: Hanes Cymru

Cefndir teuluol Owain Glyndŵr

Cefndir teuluol

Cafodd Owain Glyndŵr ei eni i deulu cyfoethog a phwerus o Gymru. Nid ydyn ni’n gwybod pryd y cafodd ei eni yn union, ond mae rhai haneswyr yn credu mai tua 1354 oedd hyn.

  • Roedd teulu ei dad yn perthyn i Dywysogion Powys.
  • Roedd teulu ei fam yn perthyn i Dywysogion Gwynedd a’r Deheubarth.
  • Roedd hyn yn golygu bod Owain yn perthyn i hen arweinwyr Cymru.

Natur a phwysigrwydd ei fywyd cynnar

Roedd tad Owain, Gruffudd Fychan, yn arglwydd pwerus o Gymru a oedd yn berchen ar dir yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ar ôl i’w dad farw yn 1370, cafodd Owain ei fagu gan Syr David Hanmer, cyfreithiwr a Barnwr pwysig o Loegr. Roedd gan aelwyd Hanmer gysylltiadau cryf gyda chymdeithas Cymru a Lloegr, a oedd yn golygu bod Owain yn rhugl yn y ddwy iaith.

Fel gŵr ifanc, astudiodd Owain y gyfraith yn Ysbytai’r Brawdlys yn Llundain, a fu’n help iddo yn ei rolau fel ac arglwydd.

Priododd Owain Margaret Hanmer, merch Syr David, yn 1383. Cafodd y ddau chwe mab, a thair merch gyda’i gilydd. Priododd eu merch, Catrin, ag Edmund Mortimer, o Loegr a ddaeth yn pwysig i Owain Glyndŵr yn ddiweddarach.

Sycharth

Ffeithiau allweddol am Sycharth, cartref teuluol Owain Glyndŵr:

LleoliadSycharth oedd cartref teuluol Owain Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy yn y gogledd-ddwyrain.
Cartref mawreddogRoedd yn faenordy mawr a thrawiadol, gyda thir ffermio o’i amgylch. Roedd yn symbol o gyfoeth Owain a’i statws uchel fel pendefig Cymreig.
Croesawu ymwelwyrCroesawodd Owain lawer o ymwelwyr i Sycharth, gan gynnwys y bardd, Iolo Goch.
Pam oedd Sycharth yn bwysig?Roedd Sycharth yn dangos bod Owain yn arglwydd ac yn dirfeddiannwr pwerus a chyfoethog.
Back to top

Gwasanaeth milwrol Owain Glyndŵr i Rhisiart II, Brenin Lloegr

Yn ystod y 1380au gwasanaethodd Owain Glyndŵr yn y fyddin yn ymladd yn yr Alban ac yn y Sianel. Enillodd sgiliau a phrofiad milwrol llwyddiannus, cyn iddo ymddeol a dychwelyd i’w gartref, Sycharth.

Gwasanaeth milwrol yn yr Alban

Cafodd Owain brofiad milwrol am y tro cyntaf yn ymladd dros Frenin Rhisiart II ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban. Ar y pryd, roedd Lloegr a’r Alban wedi bod yn rhyfela ers sawl blwyddyn, ac roedd amddiffyn y ffin yn waith pwysig.

Yn 1384, gwasanaethodd Owain fel yn Berwick-upon-Tweed, tref bwysig ar y ffin yn Lloegr. Gwasanaethodd fel rhan o y marchog profiadol o Gymru, Syr Gregory Sais. Roedd Castell Berwick yn gadarnle allweddol a oedd yn amddiffyn Lloegr rhag ymosodiadau’r Alban. Roedd Owain mewn o tua 300 o filwyr a oedd yn amddiffyn y ffin. Roedd ei ddyletswyddau’n cynnwys gwarchod y castell a pharatoi ar gyfer ymosodiadau.

Yn 1385, gwasanaethodd Owain Glyndŵr dan John Gaunt, Dug Caerhirfryn a mab Brenin Edward III, yn ystod arall yn yr Alban. Gwnaeth hyn roi profiad milwrol iddio, ac roedd yn gyfle iddo gwrdd â phendefigion pwysig a’r llys brenhinol.

Profiad milwrol arall

Erbyn 1387, roedd Owain yn gwasanaethu Richard Fitzalan, Iarll Arundel. Fel yswain, bu’n cynorthwyo gyda dyletswyddau milwrol, gan gynnwys paratoi arfau ac arfwisgoedd. Tra oedd Owain yn rhan o wasanaeth Arundel, bu’n rhyfela ar y môr yn erbyn y Ffrancod ac roedd ym Mrwydr Margate yn 1387.

Yn ddiweddarach yn 1387, ymunodd Owain â gwasanaeth Henry Bolingbroke, cefnder y brenin. Roedd hyn ar adeg lle roedd brwydro rhwng y brenin a’r Arglwyddi Apelyddol, sef grŵp o bendefigion a oedd eisiau mwy o reolaeth dros y llywodraeth. Roedd Owain yn cefnogi Bolingbroke a’r Arglwyddi Apelyddol yn y cyfnod hwn. Mae gyrfa filwrol Owain yn dangos sut y datblygodd o fod yn filwr i fod yn yswain, ac yna’n aelod dibynadwy o aelwyd Henry Bolingbroke.

Yn 1394, arweiniodd Brenin Rhisiart II fyddin i Iwerddon. Mae’n bosibl bod Owain Glyndŵr wedi ymuno â’r cyrch ac wedi ymladd dros y brenin. Os felly, byddai’n awgrymu ei fod yn ffyddlon i Rhisiart II.

Diwedd gwasanaeth milwrol Owain

Erbyn diwedd y 1390au, roedd gyrfa filwrol Owain wedi dod i ben. Penderfynodd ymddeol a dychwelyd i’w dŷ yn Sycharth i reoli ei diroedd a bod gyda’i deulu. Drwy ei wasanaeth milwrol, daeth Owain i adnabod aelodau pwerus o bendefigion Lloegr ac roedd yn brofiad gwerthfawr iddo mewn rhyfela, arweinyddiaeth a gweinyddiaeth.

Diwedd teyrnasiad Rhisiart II

Roedd gan Rhisiart II berthynas anodd gyda’i bendefigion:

  • Roedd Rhisiart II yn frenin eithaf amhoblogaidd, a fu’n trethu pobl ac yn cymryd tir oddi ar wrthwynebwyr. Yn 1387, heriodd y pendefigion Rhisiart ym mrwydr Pont Radcot. Yn dilyn eu buddugoliaeth, fe wnaethant geisio gwanhau rheolaeth y brenin.
  • Yn 1396, gwnaeth Rhisiart II â Ffrainc, a wnaeth olygu bod llawer o bendefigion pwerus Lloegr yn anhapus.
  • Yn 1397 cymerodd Rhisiart diroedd Iarll Warwick, Iarll Arundel a Dug Caerloyw oddi arnynt.
  • Cafodd Iarll Arundel a Dug Caerloyw eu yn ddiweddarach.

Yn 1399, dychwelodd Henry Bolingbroke o fod yn yn Ffrainc, gyda byddin. Roedd llawer o bendefigion wedi cefnogi Bolingbroke, gan orfodi Rhisiart II i .

Daeth Henry Bolingbroke yn Frenin Harri IV yn 1399. Bu farw Rhisiart II mewn caethiwed yn 1400, drwy lofruddiaeth neu newyn yn ôl llawer.

Back to top

Owain Glyndŵr a'r gefnogaeth i Wrthryfel Cymru

Erbyn 1400, roedd Owain Glyndŵr wedi dod â’i ymddeoliad yn Sycharth i ben. Roedd bellach yn arwain Cymru.

Sut ddigwyddodd hyn?

Beth wnaeth achosi Gwrthryfel Cymru?

Roedd ymdeimlad o a diffyg cyfle ymysg llawer o bobl yng Nghymru.

  • Roedd pobl yn credu bod yn trin Cymru’n annheg drwy roi swyddi pwysig i Saeson, anwybyddu hawliau’r Cymry, a gwrthod cyfiawnder i dirfeddianwyr Cymru.
  • Mae rhai haneswyr yn awgrymu bod Owain Glyndŵr yn teimlo nad oedd wedi cael teitl haeddiannol am ei flynyddoedd o wasanaeth milwrol i’r brenin.
  • Roedd llawer o Gymry’n teimlo eu bod yn cael eu gan drethi a rhenti uchel.

Rhoddodd y Brenin newydd, Harri IV, deitl Tywysog Cymru i’w fab. Nid oedd hyn yn boblogaidd yng Nghymru. Hefyd, gofynnodd am daliadau gan Gymru pan ddaeth i’r orsedd.

Anghydfod Owain Glyndŵr gyda’r Arglwydd Grey

  • Roedd yr Arglwydd Grey o Ruthun ac Owain Glyndŵr wedi bod mewn dros ddarn o .
  • Yn 1400, cafodd y mater ei drafod yn y Senedd.
  • Dyfarnodd y Senedd o blaid yr Arglwydd Grey.
  • Roedd Owain Glyndŵr yn credu bod Grey wedi defnyddio ei ddylanwad i gael dyfarniad annheg.

Dechrau Gwrthryfel Cymru

Ar 16 Medi 1400, sefydlodd Owain Glyndŵr ei hun yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy. Dyma nodi dechrau gwrthryfel 15-mlynedd yn erbyn teyrnasiad Lloegr.

Mae llawer o bobl yn credu bod tua 300 o bobl wedi dod i’w gefnogi, gan gynnwys ei deulu, pendefigion Cymru ac arweinwyr eglwysi.

Back to top

Ffaith bwysig

Mae’n bosibl bod Owain Glyndŵr, ac eraill, wedi dod i gredu mai Owain oedd y Mab Darogan - ffigwr chwedlonol a oedd, yn ôl , i fod i adennill y wlad ar gyfer y Cymry.

Rhuthun oedd y lle cyntaf yr ymosododd Owain Glyndŵr arno. Ymosododd gwrthryfelwyr ar rannau o’r dref a’u llosgi cyn symud ymlaen i drefi eraill gan gynnwys y Fflint, Penarlâg, Croesoswallt a’r Trallwng.

Back to top

Brwydr Mynydd Hyddgen (1401)

  • Hon oedd buddugoliaeth fawr gyntaf Owain Glyndŵr yn erbyn milwyr Lloegr a .
  • Defnyddiodd y Cymry eu hadnabyddiaeth o’r bryniau lleol i drechu llu’r gelyn, a oedd yn fwy na llu'r Cymry.
  • Cafodd tua 200 o filwyr y gelyn eu lladd, a chafodd sawl un arall eu dal.
  • Roedd y fuddugoliaeth yn hwb i hyder y Cymry ac fe anogodd fwy o bobl i ymuno â’r gwrthryfel.

Y Deddfau Cosbi (1401-1402)

  • Roedd Harri IV yn bryderus am drais y gwrthryfel.
  • Pasiodd y Deddfau Cosbi yn 1401 a 1402, i geisio cryfhau rheolaeth Lloegr dros Gymru ac atal y gwrthryfel.
  • Roedd y deddfau’n cyfyngu ar hawliau pobl Cymru, gan gynnwys eu gallu i ddal swyddi, i gario neu ddefnyddio arfau, ac i fod yn berchen ar fathau penodol o eiddo.
  • Roedd y rhain yn cael eu hystyried yn gosb yng Nghymru.
  • Fe wnaeth y deddfau annog mwy o Gymry i ymuno â’r gwrthryfel.
  • Roedd sawl rhan o ogledd a gorllewin Cymru yn cefnogi Owain, gan gynnwys Ynys Môn, Meirionnydd ac Arfon.

Yn 1402, daliodd Owain yr Arglwydd Reginald Grey o Ruthun. Cafodd o £6,666 ei dalu i ryddhau Grey, a oedd yn hwb ariannol mawr i Owain Glyndŵr.

Brwydr Bryn Glas (1402)

  • Fe wnaeth Owain Glyndŵr drechu byddin Lloegr, a oedd yn fwy na byddin y Cymry, ym Mryn Glas ger pentref Pyllalai.
  • Fe wnaeth a thactegau clyfar y Cymry helpu i ennill y frwydr.
  • Cafodd Edmund Mortimer ei ddal. Ymunodd â’r gwrthryfel yn ddiweddarach, a phriododd â Catrin, merch Owain.

Roedd y fuddugoliaeth wedi gwneud y gwrthryfel yn fwy o fygythiad i Harri IV.

Back to top

Teyrnasiad Owain Glyndŵr fel Tywysog Cymru

Ar ôl Brwydr Bryn Glas yn 1402, gwnaeth y gwrthdaro barhau rhwng y gwrthryfelwyr a'r Goron:

  • Casglodd Brenin Harri IV fyddinoedd mawr at ei gilydd yng Nghaer, Amwythig a Henffordd, ond fe wnaeth tywydd gwael ac ymosodiadau gan y gwrthryfelwyr arafu eu cynnydd.
  • Ymosododd y Tywysog Harri ar Sycharth, cartref Owain Glyndŵr, a’i losgi.
  • Erbyn haf 1404, roedd Glyndŵr a’i gefnogwyr wedi cipio Castell Harlech a Chastell Aberystwyth.

Castell Harlech

Erbyn 1404, Castell Harlech oedd canolbwynt teyrnasiad Owain Glyndŵr. Roedd hwn yn ddewis symbolaidd.

O Harlech, roedd Glyndŵr yn cynnal cyfarfodydd, yn gwneud penderfyniadau ac yn trefnu ei fyddin. Roedd y castell yn gryf, yn hawdd ei amddiffyn ac roedd cyflenwadau i’w cael o’r harbwr cyfagos. Roedd Owain yn gweld ei hun fel arweinydd annibynnol. Dechreuodd drafodaethau ffurfiol gyda gwledydd tramor i gael cefnogaeth, a chafodd ysgrifenyddion a eu penodi iddo.

Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth (1404)

  • Dyma’r senedd gyntaf yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
  • Roedd tirfeddianwyr pwerus ac arweinwyr eglwysi Cymru yno.
  • Roedd hyn yn dangos bod Glyndŵr yn ceisio rheoli Cymru, ac nid arwain gwrthryfel yn unig.

Cefnogaeth o’r tu allan i Gymru

Yn 1404, gwnaeth Glyndŵr gyda Ffrainc. Yn y cytuniad, roedd Ffrainc wedi cytuno i anfon milwyr, arfau ac arian i helpu Cymru i frwydro yn erbyn Lloegr. Bu lluoedd Ffrainc a Chymru’n llwyddiannus yn ne-orllewin Cymru, cyn symud ymlaen i Loegr, ac yna tynnu’n ôl. Fodd bynnag, roedd lluoedd Ffrainc wedi dychwelyd adref i raddau helaeth erbyn 1406.

Yn 1405 cafodd y Cytundeb Tridarn ei greu, sef cytundeb rhwng Glyndŵr ac Edmund Mortimer, pendefig o Loegr a oedd yn cefnogi ei achos, a Henry Percy, gwrthryfelwr pwerus o Loegr. Cytunodd y tri i rannu Cymru a Lloegr rhyngddynt os bydden nhw'n llwyddo i drechu Brenin Harri IV.

Roedd y cytundebau hyn yn dangos bod Glyndŵr yn cael ei gydnabod fel llywodraethwr pwysig a bod ganddo gefnogaeth gan gynghreiriaid pwerus. Fodd bynnag, mae haneswyr yn anghytuno am faint o gymorth milwrol ymarferol y gwnaethant ei ddarparu.

Llythyr Pennal

Ar 31 Mawrth 1406 ysgrifennodd Owain Glyndŵr Lythyr Pennal at Siarl VI o Ffrainc yn gofyn am ragor o help yn erbyn Lloegr.

Cytunodd Glyndŵr i gefnogi Benedict XIII, y Ffrengig yn Avignon, yn hytrach na Innocentius VII, sef y pab yn Rhufain a oedd yn cael ei gydnabod gan Lloegr.

Roedd y llythyr yn amlinellu cynlluniau ar gyfer Cymru annibynnol, gan gynnwys Eglwys yng Nghymru a dwy brifysgol. Roedd yn dangos bod Glyndŵr yn dymuno rheoli Cymru fel tywysog annibynnol, nid arwain gwrthryfel yn unig. Fodd bynnag, ni arweiniodd y Llythyr Pennal at gefnogaeth filwrol ychwanegol sylweddol gan Ffrainc.

Buddugoliaethau Lloegr yn 1405

Yn 1405, cafodd lluoedd Owain Glyndŵr eu trechu yng Ngrysmwnt yn Sir Fynwy gan y Tywysog Harri.

Roedd Brwydr Pwll Melyn, ger Brynbuga, yn fuddugoliaeth fawr arall i Loegr dros fyddin Owain Glyndŵr. Cafodd llawer o filwyr o Gymru eu lladd. Fe wnaeth y golled wanhau’r gwrthryfel ac roedd yn drobwynt ym mrwydr Glyndŵr yn erbyn teyrnasiad Lloegr.

Fe wnaeth y Tywysog Harri amgylchynu Castell Harlech a rhoi arno yn 1408-9. Yn y pen draw, yn 1409, doedd gan yr amddiffynwyr ddim bwyd ar ôl a bu’n rhaid ildio’r castell. Llwyddodd Owain Glyndŵr i ddianc, ond cafodd ei wraig a’i ferched eu dal. Roedd colli Harlech yn drobwynt pwysig yng ngwrthryfel Cymru.

Llinell amser fer o ddigwyddiadau

  • 1400 – Owain Glyndŵr yn sefydlu ei hun yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy.
  • 1404 – Castell Harlech yn dod yn ganolbwynt i'w lywodraeth, a chynnal senedd ym Machynlleth.
  • 1405 – Cytuno ar y Cytundeb Tridarn.
  • 1406 – Glyndŵr yn ysgrifennu Llythyr Pennal at Ffrainc.
  • 1409 – Castell Harlech yn cwympo i ddwylo’r Saeson.
Back to top

Marwolaeth a gwaddol Owain Glyndŵr

Blynyddoedd olaf Gwrthryfel Cymru

Ar ôl colli cadarnleoedd pwysig fel Aberystwyth a Chastell Harlech yn 1409, dechreuodd gwrthryfel Owain Glyndŵr wanhau. Dechreuodd arweinwyr eraill o Gymru ildio i’r Saeson.

Er i Glyndŵr gael cynnig gan Harri IV yn 1411, ac eto gan Harri V yn 1415, gwrthododd ildio. Yn hytrach, daliodd ati, gyda grŵp bach o gefnogwyr ffyddlon, i wrthwynebu teyrnasiad Lloegr drwy gynnal ymosodiadau o fynyddoedd Cymru. Roedd yr ymosodiadau annisgwyl hyn yn ei gwneud yn anodd i luoedd Lloegr eu trechu’n llwyr. Ond roedd y gwrthryfelwyr bellach wedi’u gwanhau’n sylweddol.

Effaith colli ar Owain Glyndŵr, ei deulu a’i gefnogwyr

  • Cafodd nifer o feibion Owain eu lladd yn ystod y gwrthryfel neu’n fuan ar ei ôl.
  • Cafodd ei fab Gruffudd ei ddal ym Mrwydr Pwll Melyn a bu farw fel carcharor yn Nhŵr Llundain tua 1411.
  • Cafodd Margaret, gwraig Owain, eu merch Catrin, a phlant Catrin hefyd eu carcharu yn Nhŵr Llundain.
  • Roedd llawer o wrthryfelwyr wedi cael eu dienyddio, eu carcharu neu wedi colli eu tiroedd.

Effaith y gwrthdaro ar Gymru

  • Roedd difrod yn sgil y rhyfel, tarfu economaidd a dirwyon wedi achosi caledi mewn llawer o gymunedau yng Nghymru.
  • Cafodd llyfrau a llawysgrifau eu dinistrio.
  • Roedd y Deddfau Cosbi (1402) yn cyfyngu ar hawliau’r Cymry, gan atal llawer rhag dal swyddi pwysig, cario arfau a bod yn berchen ar dir mewn trefi yn Lloegr.
  • Roedd cymdeithas wedi’i rhannu gan y gwrthryfel.

Beth ddigwyddodd i Owain Glyndŵr?

Mae blynyddoedd olaf Owain Glyndŵr yn parhau i fod yn un o ddirgelion mwyaf hanes Cymru. Ar ôl iddo roi cofnod dibynadwy o’i ymgyrch filwrol ddiwethaf yn 1412, diflannodd ac ni chafodd fyth ei ddal.

Mae haneswyr yn credu efallai ei fod wedi byw ynghudd gyda theulu neu gefnogwyr ffyddlon, ond nid oes tystiolaeth ddibynadwy i gadarnhau hyn. Nid yw union ddyddiad na lleoliad ei farwolaeth yn hysbys, ac nid yw ei fan claddu erioed wedi cael ei ddarganfod.

Gwaddol ac enw da Owain Glyndŵr

Roedd chwedl y Mab Darogan wedi bodoli ers canrifoedd. Y broffwydoliaeth oedd y byddai yna arweinydd o Gymru a fyddai’n trechu’r Saeson ac yn adennill teyrnasiad y Cymry. Ysbrydolodd y chwedl lawer o Gymry i gefnogi gwrthryfel Glyndŵr a helpodd i uno’r gwrthryfelwyr.

Mae llawer yn ystyried Owain Glyndŵr yn symbol pwysig o hunaniaeth genedlaethol Gymreig. Mae sawl cerflun a chofeb iddo, ac mae Diwrnod Owain Glyndŵr yn cael ei ddathlu ar 16 Medi. Mae’n aml yn cael ei gofio fel y Cymro brodorol olaf i fod yn Dywysog Cymru.

Back to top