Teyrnasiad Iago I, 1603 - 1625
Yn 1603 bu farw Elisabeth I. Doedd ganddi hi ddim plant felly Iago I oedd yr etifeddPerson sydd â hawl i eiddo neu deitl rhywun arall pan fydd y person hwnnw yn marw. amlwg i goron Cymru a Lloegr. Roedd Iago eisoes yn frenin ar yr Alban (Brenin Iago VI). Aeth ati ar unwaith i geisio perswadio’r Senedd fod uno’r ddwy deyrnas yn ffurfiol yn syniad da. Ni lwyddodd Iago i berswadio’r Senedd bod angen uno, ond wnaeth hynny ddim atal Iago rhag galw ei hun yn Frenin Prydain Fawr ac Iwerddon.
Roedd Iago eisiau cael ei weld fel cymodwrPerson sydd yn trio atal pobl rhag dadlau neu ymladd. a rhywun oedd yn uno pobl yn Ynysoedd Prydain a hefyd yn Ewrop. Dyna pam mai un arall o’i weithredoedd cynharaf oedd dod â’r rhyfel gyda Sbaen i ben. Roedd ei ragflaenydd, Elisabeth, wedi bod yn brwydro ers 1585. Yn ddiweddarach, rhoddodd y teitl Tywysogion Cymru i’w feibion, Harri a Siarl, i sicrhau bod Cymru’n teimlo ei bod yn cael ei chynnwys mewn gwleidyddiaeth genedlaethol.
Wrth i’w deyrnasiad fynd yn ei flaen, roedd Iago yn anghytuno gyda’r Senedd am sawl peth, gan gynnwys y canlynol.
Arian a ffefrynnau
- Roedd Iago yn enwog am fyw bywyd moethus, gwario arian nad oedd ganddo, hela, cael partïon a rhoi anrhegion i’w ffefrynnau brenhinol.
- Roedd gan Iago berthynas wleidyddol a phersonol agos gyda Dug Lennox, Iarll Gwlad yr Haf a George Villiers, Dug Buckingham. Rhoddodd Iago arian, dylanwad a theitlau iddynt. Nid oedd y Senedd yn hoffi’r ffefrynnau hyn.
- Nid oedd Iago’n ennill digon o arian bob blwyddyn o’r tiroedd yr oedd yn berchen arnynt i gynnal ei hun. Daeth yn fwy dibynnol ar y Senedd i ariannu ei ffordd o fyw. Rôl y Senedd oedd darparu arian drwy drethi, ond nid oedd Tŷ’r CyffredinTŷ'r Cyffredin oedd y rhan etholedig o'r Senedd a oedd yn helpu i wneud cyfreithiau a chymeradwyo trethi. yn hapus gweld y brenin yn gwastraffu arian.
Crefydd
- Roedd llawer o Aelodau Seneddol yn PiwritanProtestant eithafol. Roeddent eisiau puro'r Eglwys a chael gwared ar yr holl elfennau Catholig. ac roeddent yn gobeithio y byddai’r brenin newydd yn gwneud newidiadau gwell i ardrefniant crefyddol presennol Prydain, a'i wneud yn fwy Protestannaidd. Roeddent yn credu hyn gan fod Iago yn dod o'r Alban, a oedd yn PresbyteraiddEnwad Cristnogol a oedd yn cael ei reoli gan Bresbyteriaid, ee Eglwys genedlaethol yr Alban..
- Roedd Catholigion hefyd yn disgwyl i Iago wella amodau ar gyfer eu ffydd nhw yn Lloegr, gan eu bod yn tybio y byddai cefndir Catholig cryf ei fam yn dylanwadu ar ei bolisïau.
- Nid oedd Iago ei hun yn arbennig o grefyddol ac roedd yn gweld crefydd fel arf gwleidyddol i helpu i reoli’r wlad. Ni allai Iago fodloni’r Piwritaniaid a’r Catholigion. Aeth grŵp o Gatholigion ati i gynllwynio i lofruddio’r brenin gyda chynllwyn enwog Brad y Powdwr Gwn yn 1605. Methodd hyn ac fe gawsant eu harestio a’u dienyddioLladd person o ganlyniad i droseddu.. Fe wnaeth Iago I fywyd yn anoddach fyth i Gatholigion ar ôl y brad, gyda dirwyCosb ariannol neu dâl y mae'n rhaid ei dalu am dorri rheol neu gyfraith., cyfyngiadau a llw teyrngarwchLlw teyrngarwch yw addewid ffurfiol i fod yn ffyddlon ac yn ufudd i wlad neu reolwr..
- Fe wnaeth Iago gyfarfod gydag arweinwyr Piwritanaidd yng nghynhadledd Hampton Court yn 1604. Gwrthododd y rhan fwyaf o’u gofynion gan nad oedd yn dymuno dieithrio Gwneud i rywun deimlo ar wahân i eraill. Catholigion yn y wlad na rhoi mwy o rym i’r Senedd dros y wlad. Cytunodd i Feibl newydd, a gafodd ei gyhoeddi yn 1611, o’r enw Beibl Brenin Iago. Roedd hwn yn cyd-fynd yn well â chredoau Piwritanaidd.
Bu farw Iago yn 1625. Yn ystod ei deyrnasiad, roedd yn aml yn dadlau gyda’r Senedd, a oedd yn dod yn fwy pwerus. Pan fu farw, ei fab Siarl a ddaeth yn frenin.
Y symudiad i gyfeiriad Rhyfel Cartref, 1625 - 1642
Pan esgynnodd Siarl I i’r orsedd yn 1625, etifeddodd wlad eithaf sefydlog gan ei dad. Fodd bynnag, o fewn 17 mlynedd roedd yr holl sefydlogrwydd wedi diflannu, ac roedd Rhyfel Cartref ym Mhrydain.
Roedd Siarl I yn anhapus bod y Senedd wedi ymyrryd yn ystod teyrnasiad ei dad ac wedi parhau i’w herio ef ar ddechrau ei deyrnasiad ei hun. Felly, penderfynodd reoli heb Senedd. Gan ddechrau yn 1629, dechreuodd ei Lywodraeth Bersonol, fel y mae’n cael ei galw. Aeth am 11 mlynedd heb alw Senedd.
Problemau a wynebodd Siarl I
Yn ariannol, roedd y Senedd i fod i gefnogi’r wlad drwy gasglu trethi. Fodd bynnag, heb Senedd, bu’n rhaid i Siarl I ddibynnu ar ddulliau eraill o wneud arian. Defnyddiodd y Treth LlongauMath o dreth a oedd fel arfer yn cael ei chasglu oddi wrth drefi arfordirol i dalu am longau, ond cododd Siarl I y dreth hon ledled y wlad heb ganiatâd y Senedd., gwerthodd monopoliHawl arbennig a oedd yn cael ei roi i berson neu gwmni i gael bod yr unig un a oedd â chaniatâd i wneud neu werthu cynnyrch penodol. Yn aml roedd yn rhaid i bobl dalu mwy o ganlyniad., a defnyddiodd ei brenhinfraintPwerau y gallai’r brenin eu defnyddio heb ganiatâd y Senedd.. Roedd Aelodau Seneddol (ASau) o’r farn nad oedd ganddo wir hawl i wneud dim o’r pethau hyn.
Ar ben hyn, fe wnaeth Siarl benodi William Laud yn Archesgob Caergaint. Newidiodd Laud Eglwys Loegr drwy ddod â gwasanaethau eglwys mwy cymhleth yn ôl a gwneud i bobl ufuddhau mwy i esgobPerson pwysig sy'n arwain ac yn goruchwylio eglwysi mewn ardal. . Roedd llawer o ASau Piwritanaidd yn gweld hyn bron fel dychwelyd at Gatholigiaeth, ac roedd hyn eu gwneud yn anhapus.
Pan geisiodd Laud a Siarl roi’r newidiadau crefyddol hyn ar waith yn yr Alban, drwy gyflwyno esgobion newydd a llyfr gweddi newydd, dechreuodd terfysgoedd yn 1637. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at Ryfel yr Esgobion (1639-40) rhwng lluoedd Siarl a’i wrthwynebwyr yn yr Alban. Collodd Siarl gan nad oedd ganddo’r cyllid i ariannu ei fyddin. Bu’n rhaid iddo fynd yn ôl at y Senedd i ofyn am arian.
Y Senedd Fer
Roedd Siarl yn poeni y byddai’r Senedd yn ei feirniadu. Ac roedd yn iawn i boeni oherwydd fe wnaeth y Senedd Fer, a gafodd ei galw ym mis Ebrill 1640, wrthod rhoi arian i Siarl heb iddo newid ei bolisïau’n sylweddol. Roedd Siarl yn gandryll ac fe wnaeth e ddiddymu'r Senedd ar ôl dim ond tair wythnos. Pan gafodd Siarl ei orfodi i alw Senedd am yr eildro yn 1640, aeth Aelodau o’r Senedd Hir ati i wneud newidiadau er mwyn iddynt gael rheolaeth ariannol dros y brenin.
Y Senedd Hir
- Yn gyntaf, cymerodd y Senedd gamau i gael gwared ar brif gefnogwyr Siarl. Fe wnaethant garcharu Archesgob Laud a dienyddio Thomas Wentworth.
- Yna, gwnaeth y Senedd yn siŵr na allai Siarl deyrnasu heb Senedd eto, gan gyflwyno’r Ddeddf Deirblwydd yn 1641. Fe wnaethant hefyd geisio tynnu rheolaeth dros y fyddin oddi ar Siarl drwy gynnig y Bil Milisia yn 1641. Roedd hyn tua’r un pryd ag y dechreuodd gwrthryfel yn Iwerddon, ac roedd y Senedd yn poeni y byddai Siarl yn defnyddio’r gwrthryfel hwn i gasglu byddin ynghyd ac yna troi yn eu herbyn nhw.
- Roedd y tensiynau rhwng Siarl a’r Senedd yn uwch nag erioed, ac nid oedd y naill ochr yn hoffi nac yn ymddiried yn y llall. Daeth hyn i uchafbwynt pan aeth Siarl â milwyr arfog i’r Senedd i arestio pum AS a oedd wedi cyflwyno a chyhoeddi’r Gwrthdystiad Mawr, sef rhestr o 204 o gwynion yn erbyn Siarl. Ystyriodd Siarl hyn yn sarhad personol.
- Roedd gwrthdaro treisgar, neu ryfel cartref, rhwng Siarl a’r Senedd bellach yn edrych yn debygol iawn.
Siarl I a Chymru
Daeth Cymru yn un o gadarnleoedd Siarl o ran cefnogaeth. Y rheswm am hyn oedd bod llawer o bonheddwrAelod o'r bonedd - sef y tirfeddianwyr, y dosbarth uchaf a'r uchelwyr., clerigwrPerson sy’n cynnal gwasanaethau crefyddol, yn enwedig yn yr eglwys Gristnogol. a phobl gyffredin Cymru yn credu mewn bod yn deyrngar i'r frenhiniaeth ac yn cefnogi Eglwys Loegr.
Roedd llawer o tirfeddiannwrPerson sydd yn berchen ar dir. dylanwadol yng Nghymru a oedd yn cefnogi Siarl, fel Syr John Owen, a fu’n casglu milwyr i gefnogi Siarl.
Roedd awdurdod brenhinol Siarl yng Nghymru hefyd yn cael ei atgyfnerthu gan Gyngor Cymru a’r Gororau yn Llwydlo, a oedd yn llywodraethu Cymru ar ran y Brenin.
Cafodd y Cyngor ei ddiddymu gan y Senedd yn 1641, gan wanhau rheolaeth Siarl yng Nghymru. Fe wnaeth hyn llawer o fonheddwyr Cymru yn fwy dig tuag at y Senedd.
Felly, pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref rhwng Siarl a’r Senedd yn 1642, roedd llawer o Gymry’n cefnogi'rbrenhinwrPerson a gefnogodd Brenin Siarl I yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr..
Pwysigrwydd Cymru yn y Rhyfel Cartref, 1642 - 1651
Dechreuodd y Rhyfel Cartref yn 1642 rhwng y Brenhinwyr a oedd yn cefnogi Siarl I, a’r SeneddwrPerson a gefnogodd y Senedd yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. a oedd eisiau cyfyngu ar bŵer y Brenin.
Roedd Cymru’n cefnogi Siarl I yn frwd yn ystod y Rhyfel Cartref. Fe wnaeth llawer o Gymry ddarparu milwyr, arian a nwyddau i’w helpu. Fe wnaeth milwyr o Gymru ymladd mewn sawl brwydr yn erbyn byddin y Senedd yn Lloegr.
Brwydr Edgehill (1642)
Brwydrodd troedfilwyr o dde Cymru, dan arweiniad Syr Edward Stradling, ochr yn ochr â catrawdUned filwrol sy'n cynnwys llawer o filwyr yw catrawd. arall o Gymru, dan arweiniad Syr Thomas Salusbury. Roedd llawer heb arfau digonol, ac yn cario picellau, mysgedMath o wn a oedd yn cael ei gario a'i danio gan filwyr oedd mysged., neu hyd yn oed offer ffermio. Cafodd Stradling ei ddal ar ôl i gwŷr meirchMilwyr a oedd yn ymladd ar gefn ceffyl. y Tywysog Rupert symud i ffwrdd, gan adael ei filwyr yn ddiamddiffyn. Cafodd llawer o filwyr Cymreig eu lladd neu eu hanafu.
Brwydr Newbury (1643)
Bu milwyr Cymreig hefyd yn ymladd ym Mrwydr Newbury dan cadlywyddPerson sy'n arwain ac yn rhoi gorchmynion i filwyr. a oedd yn cynnwys yr Arglwydd Richard Herbert. Cafodd Siarl ei orfodi i cilioTynnu'n ôl o frwydr, fel arfer er mwyn osgoi colledion neu er mwyn ail-drefnu ac amddiffyn yn fwy effeithiol. ar ôl y frwydr gyda dim ond deg casgen o bowdr gwn ar ôl. Fe wnaeth colli'r frwydr hon wanhau’r Brenhinwyr, ond roedd gan y Brenin gefnogaeth yng Nghymru o hyd.
Troedfilwyr oedd y rhan fwyaf o’r milwyr o Gymru a frwydrodd dros y brenin - naill ai fel picellwyr neu fel mysgedwyr. Roeddent yn codi cyn y wawr i ymarfer, i lanhau arfau ac i gynnal gwersylloedd cyn mynd ati i orymdeithio neu ymladd. Yn aml doedden nhw ddim mewn gwisg yr un fath â’i gilydd, gyda llawer o filwyr yn gwisgo eu dillad ffermio arferol. Roedd disgyblaeth yn llym, gallai ffoi olygu marwolaeth, ac roedd disgwyl i bawb ymddwyn yn foesol ac yn Gristnogol. Cafodd Richard Jones ei ddienyddio am ymosod ar ddinesydd sifil, er enghraifft.
Nid oedd Cymru gyfan yn cefnogi’r brenin. Yn Sir Benfro, roedd y Maer John Poyer a’r Cyrnol Rowland Laugharne yn cefnogi’r Senedd. Yn ddiweddarach, cipiodd Seneddwyr gestyll Dinbych-y-pysgod, Hwlffordd a Chaeriw.
Brwydro yng Nghymru
Digwyddodd y rhan fwyaf o frwydrau’r Rhyfel Cartref yn Lloegr. Ond bu ychydig o frwydro yng Nghymru.
- Yn 1644, ymosododd byddin y Senedd ar fyddin y Brenhinwyr a oedd yn amgylchynu Castell Trefaldwyn, a’i threchu.
- Fe wnaeth byddin y Senedd amgylchynu Castell Rhaglan am 10 wythnos cyn ei gipio yn 1646.
- Brwydr Sain Ffagan (1648) oedd y frwydr fwyaf erioed yng Nghymru a hon oedd un o frwydrau olaf y Rhyfel Cartref. Er bod ganddynt fyddin fwy, cafodd y Brenhinwyr eu trechu o fewn dwy awr, gyda thua 300 yn cael eu lladd a 3,000 yn cael eu dal, gan ddod â chefnogaeth gyfundrefnol y brenin yng Nghymru i ben.
- Ar ôl iddynt gael eu trechu yn Sain Ffagan, ciliodd arweinwyr y Brenhinwyr i Gastell Penfro, lle aeth milwyr y Seneddwyr ati i newid ochrau’n ddramatig, ac ymuno â’r Brenhinwyr ar ôl iddynt beidio â chael eu talu. Fe wnaeth Oliver Cromwell, arweinydd y Seneddwyr, amgylchynu’r castell am wyth wythnos nes i’r Brenhinwyr ildio.
Pam oedd Cymru’n bwysig?
Roedd Cymru’n strategol bwysig oherwydd ei bod yn dal yn gadarnle i’r Brenhinwyr am lawer o’r Rhyfel Cartref. Roedd Cymru hefyd wedi darparu llwybrau uniongyrchol dros y môr i Siarl i wlad Gatholig Iwerddon. Roedd lleoliad Cymru yn golygu bod milwyr ychwanegol o Iwerddon wedi gallu glanio mewn porthladdoedd – gan gynnwys Aberdaugleddau, Penfro a Chaergybi – cyn teithio drwy Gymru i ymuno â byddinoedd y Brenhinwyr yn Lloegr.
Ond er gwaethaf cefnogaeth y Cymry, cafodd y Brenhinwyr eu trechu yn y Rhyfel Cartref.
Effaith y Rhyfel Cartref ar Gymru
Pan enillodd y Senedd y Rhyfel Cartref, cyflwynodd gyfres o newidiadau pwysig a drawsnewidiodd fywyd yng Nghymru.
Arweinyddiaeth a phŵer
- Cafodd Siarl I ei roi ar dreial a chafodd ei ddienyddio yn 1649.
- Fe wnaeth y Senedd hefyd gael gwared ar y frenhiniaeth a Tŷ’r ArglwyddiTŷ'r Arglwyddi yw ail siambr Senedd y DU. Ei rôl yw trafod deddfwriaeth a dwyn y llywodraeth i gyfrif. .
- Cafodd tiroedd ac ystadau’r Brenhinwyr eu tynnu oddi wrthynt, neu eu dirwyo’n drwm gan y llywodraeth seneddol newydd. Roedd hyn wedi caniatáu i gefnogwyr y Senedd ddod yn dirfeddianwyr a phrynu eiddo gwerthfawr. Daeth Philip Jones o Langyfelach yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus, gan brynu Castell Ffwl-y-mwn yn 1654 cyn buddsoddi mewn amaethyddiaeth ac yn y diwydiannau glo a haearn a oedd ar gynnydd yn ne Cymru.
- Yn wleidyddol, cafodd llawer o Frenhinwyr Cymru eu cosbi ar ôl buddugoliaeth y Senedd. Bu’n rhaid i bobl oedd yn berchen ar dir dalu dirwyon trwm i adennill tir a gafodd ei gymryd oddi wrthynt, tra collodd eraill eu tir yn gyfan gwbl.
- Cafodd swyddogion y Brenhinwyr eu carcharu neu eu dienyddio, er enghraifft cafodd John Poyer, a arweiniodd wrthryfel Sir Benfro yn 1648, ei ddienyddio yn 1649.
- Hefyd, fe wnaeth y Senedd gael gwared ar lawer o Frenhinwyr mewn llywodraeth leol a rhoi cefnogwyr teyrngar yn eu lle. Gwnaeth hyn wanhau dylanwad y boneddY bonedd yw'r tirfeddianwyr, y dosbarth uchaf a'r uchelwyr. Cymreig traddodiadol.
- Fe wnaeth y Rhyfel Cartref hefyd newid gyrfaoedd y Cymry a frwydrodd dros y Senedd ac oedd yn gysylltiedig â dienyddiad y brenin. Y Cyrnol John Jones o Faes-y-garnedd oedd yr unig Gymro i lofnodi gwarant ddienyddio Siarl I, ac fe wasanaethodd ar y Cyngor Gwladol yn ddiweddarach. Fodd bynnag, pan ddychwelodd Siarl II yn 1660, cafodd Jones ei arestio a’i ddienyddio am ei ran yn y teyrnladdiadDienyddio brenin neu frenhines. .
Crefydd
- Diddymodd y Senedd swyddi esgobion ac archesgobion yn 1646.
- Roedd y Senedd hefyd wedi gwahardd llyfr gweddi Siarl, o'r enw'r Llyfr Gweddi Gyffredin, oherwydd roedd llawer o Aelodau Seneddol yn credu ei fod yn rhy debyg i addoliad Catholig.
- Roedd y Senedd yn credu bod angen addysgu Protestannaidd cryfach ar Gymru. Fe wnaethant lwyddo i basio Deddf Gwella Taeniad a Phregethiad yr Efengyl yng Nghymru 1650. Cafodd comisiynwyr eu hanfon gan y llywodraeth i gael gwared ar clerigwrPerson sy’n cynnal gwasanaethau crefyddol, yn enwedig yn yr eglwys Gristnogol. a oedd yn cael eu hystyried yn anonest, yn anghymwys, neu’n dal yn deyrngar i'r Brenin, a’u disodli â gweinidogion PiwritanProtestant eithafol. Roeddent eisiau puro'r Eglwys a chael gwared ar yr holl elfennau Catholig.. Fodd bynnag, Saesneg oedd unig iaith llawer o'r pregethwyr newydd, ac fe wnaeth hyn achosi llawer o densiwn mewn cymunedau lle roedd mwyafrif y bobl yn siarad Cymraeg.
Roedd y newidiadau hyn yn golygu bod PiwritaniaethProtestaniaid llym oedd y Piwritaniaid, a oedd yn dilyn y Beibl i'r llythyren ac yn ceisio byw bywydau syml a phlaen. Roeddent yn credu bod mai gweithio'n galed ac addoli oedd y ffordd i fynd i'r nefoedd. Felly, nid oeddent yn cymeradwyo unrhyw beth a oedd yn rhwystro gwaith ac addoliad. wedi dod yn llawer mwy dylanwadol yng Nghymru.
Cymdeithas
Bu newidiadau cymdeithasol difrifol yng Nghymru yn sgil y Rhyfel Cartref. Cafodd miloedd o filwyr Cymreig eu lladd, eu hanafu neu eu gadael mewn tlodi.
- Roedd pobl yn dioddef oherwydd bod milwyr wedi cymryd eu bwyd, eu ceffylau a’u hanifeiliaid fferm. O ganlyniad, fe wnaeth ffermio a masnach ddioddef, yn enwedig yn ystod sawl gwarchaeYmosodiad milwrol lle mae byddin yn amgylchynu tref neu gastell ac yn ceisio eu cipio. mewn llefydd fel Rhaglan a Phenfro. Roedd hylendid gwael hefyd yn helpu clefydau fel teiffwsHaint bacterol sy'n cael ei ledaenu gan lau neu chwain ac sy'n achosi twymyn, cur pen a brech. a dysentriHaint ar y perfedd sy'n achosi dolur rhydd gyda mwcws neu waed ynddo. i ledaenu, gan achosi hyd yn oed mwy o farwolaethau.
- Roedd y rhyfel hefyd wedi effeithio ar y rhai a oedd yn teithio gyda’r byddinoedd. Ar ôl Brwydr Naseby (1645), ymosododd milwyr y Seneddwyr ar dros 100 o fenywod a oedd yn teithio gyda byddin y Brenhinwyr. Gelwid nhw’n Fenywod Naseby. Cawsant eu lladd a’u anffurfioDifetha neu dynnu rhannau o'r corff. yn greulon gan filwyr y Seneddwyr. Roedd y milwyr yn honni mai ymladdwyr Catholig o'r Iwerddon oedd y menywod. Mewn gwirionedd, mae’n bosib mai menywod a oedd yn siarad Cymraeg ac a gafodd eu camgymryd am Wyddelod oedd llawer ohonynt.
O'r Weriniaeth i'r Adferiad, 1651 - 1660
Sut cafodd Cymru ei llywodraethu yn y 1650au?
Y Gymanwlad a Senedd y Gweddill
Y Gymanwlad oedd enw’r cyfnod o lywodraethu ar ôl i’r Rhyfel Cartref ddod i ben. Y Senedd oedd yn rhedeg y wlad, cafodd Siarl I ei ddienyddio, a chafodd y frenhiniaeth ei diddymu. Nid oedd rhai Aelodau Seneddol (ASau) eisiau i Siarl gael ei ddienyddio, a chafodd yr ASau hyn eu gorfodi allan o’r Senedd, gan adael tua 200 o ASau yn yr hyn oeed yn cael ei alw yn Senedd y Gweddill. Nhw oedd yn rheoli’r wlad ar ôl i'r Rhyfel Cartref ddod i ben.
Fodd bynnag, roedd Senedd y Gweddill yn cael trafferth llywodraethu’n effeithiol.
Oliver Cromwell a’r Brotectoriaeth
Yn 1653, fe wnaeth Oliver Cromwell ddiddymu Senedd y Gweddill a daeth yn Arglwydd Amddiffynnydd. Llywodraethodd gyda chefnogaeth y fyddin. Yn ystod ei reolaeth, cafodd Cymru a Lloegr eu rhannu’n ranbarthau a oedd yn cael eu llywodraethu gan Uwch-Frigadwyr, a oedd yn defnyddio awdurdod milwrol i gynnal cyfraith a threfn ac i orfodi polisïau Cromwell.
Rheolaeth filwrol a Phiwritaniaeth yng Nghymru
Cafodd Cymru ei rhoi dan reolaeth yr Uwch-Frigadydd James Berry, a oedd yn llywodraethu Cymru a siroedd yn Lloegr ar y ffin gyda Chymru. Ei dasg oedd atal gwrthryfeloedd pellach gan y Brenhinwyr, casglu trethi a gorfodi awdurdod y Senedd a Cromwell.
Roedd Berry hefyd yn ProtestantCristnogion a dorrodd yn rhydd o'r Eglwys Gatholig Rufeinig yn ystod y Diwygiad. Maent yn credu yn nysgeidiaeth y Beibl ond yn gwrthod awdurdod y Pab. i’r carn ac yn hyrwyddo Piwritaniaeth. Aeth ati i gau tafarndai, gwahardd gwyliau a chwaraeon traddodiadol, a gwneud yn siŵr bod clerigwrPerson sy’n cynnal gwasanaethau crefyddol, yn enwedig yn yr eglwys Gristnogol. Anglicanaidd yn cael eu disodli gyda phregethwyr PiwritanProtestant eithafol. Roeddent eisiau puro'r Eglwys a chael gwared ar yr holl elfennau Catholig.. Roedd llawer o Gymry’n ddig am y newidiadau hyn, yn enwedig gan fod Berry’n cael ei weld fel rhywun o’r tu allan a oedd wedi dod o Loegr i’w rheoli. Daeth ei reolaeth yn fwy a mwy amhoblogaidd a daeth i ben yn 1657, ychydig cyn marwolaeth Cromwell.
Cefnogaeth a gwrthwynebiad yng Nghymru
Ar ôl i Reolaeth yr Uwch-Frigadwyr a Cromwell ddod i ben, roedd y Senedd yn llywodraethu Cymru drwy Bwyllgorau Sirol, a oedd yn casglu trethi, yn cymryd ystadau’r Brenhinwyr oddi wrthynt ac yn gorfodi cyfreithiau Piwritanaidd. Fodd bynnag, dewisodd rhai bonheddwrAelod o'r bonedd - sef y tirfeddianwyr, y dosbarth uchaf a'r uchelwyr. Brenhingar weithio gyda nhw yn hytrach na'u gwrthsefyll. Roedd dynion fel Syr Thomas Myddelton a Syr Richard Wynn yn gobeithio y byddai cydweithredu yn diogelu eu hystadau, yn lleihau dirwyon ac yn eu helpu i gynnal eu dylanwad lleol.
Er gwaethaf y cydweithrediad hwn rhwng y llywodraeth newydd a bonedd Cymru, roedd teyrngarwch i’r Stiwartiaid, sef teulu brenhinol Siarl I a Siarl II, yn dal yn gryf ar draws llawer o Gymru. Roedd llawer o bobl Cymru yn casáu rheolaeth filwrol, cyfyngiadau Piwritanaidd, a rhoi dirwyon trwm i Frenhinwyr. Parhaodd grwpiau cudd o Frenhinwyr i weithredu gan argraffu a dosbarthu pamffledi cyfrinachol i gefnogi dychweliad Siarl II (mab ac etifedd Siarl I). Hefyd, dangosodd rhai Cymry eu gwrthwynebiad i’r Gymanwlad drwy wrthod talu trethi na gwasanaethu’r llywodraeth.
Cwymp y Gymanwlad
Dechreuodd y llywodraeth weriniaethol ddymchwel ar ôl i Oliver Cromwell farw yn 1658. Nid oedd gan ei fab, Richard Cromwell, awdurdod ac ymddiswyddodd y flwyddyn ganlynol wrth i anghydfodAnghytuno, dadlau neu wrthdaro rhwng pobl, grwpiau neu genhedloedd. rhwng y Senedd a’r fyddin fynd yn waeth.
Yn 1659, arweiniodd Syr Thomas Myddleton wrthryfel gan Frenhinwyr yn ardal Wrecsam. Fe wnaethant ddatgan mai Siarl II oedd y gwir frenin. Er i’r Cyrnol John Lambert drechu’r gwrthryfel yng Nghastell y Waun yn gyflym, fe wnaeth hyn hi'n amlwg bod y llywodraeth weriniaethol yn gwanhau, a bod y gefnogaeth i’r Brenhinwyr yn dal yn gryf yng Nghymru.
Daeth y Gymanwlad i ben yn 1660, pan orymdeithiodd George Monck i’r de o’r Alban a pherswadio’r Senedd i adfer y frenhiniaeth. Cyn dychwelyd, fe wnaeth Siarl II gyhoeddi Datganiad Breda, a oedd yn addo ychydig o oddefiant crefyddol, diogelu eiddo a maddeuant i’r rhan fwyaf o’r rhai a oedd wedi’i wrthwynebu. Rhoddodd yr addewidion hyn sicrwydd i lawer o ASau a oedd yn poeni amdano’n dychwelyd i rym.
Ym mis Mai 1660, fe wnaeth y Senedd wahodd Siarl II yn ôl i Brydain fel brenin. Cafodd brenhiniaeth y Stiwartiaid ei hadfer, gan ddod ag un mlynedd ar ddeg o reolaeth weriniaethol i ben.
More on Uned 1: Hanes Cymru
Find out more by working through a topic
- count2 of 4

- count3 of 4

