Datblygiadau mewn bacterioleg
Louis Pasteur a Robert Koch
Yn 1861, cyhoeddodd Pasteur ei ddamcaniaeth germau a brofodd mai bacteria oedd yn achosi clefydau. Bu i Robert Koch gydio yn y syniad yn Yr Almaen, a dechreuodd ynysu’r bacteria penodol oedd yn achosi clefydau penodol, megis TB a colera. Koch oedd yr un a sylweddolodd y gallai gwrthgorffProtein sy’n cael ei gynhyrchu gan system imiwnedd y corff sy’n ymosod ar organebau estron (antigenau) sy’n cyrraedd y corff. helpu i ddinistrio bacteria a chreu imiwnedd yn erbyn clefydau. Ond yn ôl yn Ffrainc, Pasteur oedd yr un a ddatblygodd y brechiadau cyntaf ers Jenner, a chreodd frechiadau ar gyfer geri’r ieir, anthracs a’r gynddaredd.
Yn ei labordy bu i Koch hefyd arloesi yn y dull o ddefnyddio staeniau er mwyn gweld bacteria yn gliriach o dan ficrosgop. Ei gynorthwyydd, Julius Petri, ddyfeisiodd y llestr Petri er mwyn helpu’r broses hon a datblygodd gwyddoniaeth bacterioleg yn gyflym. Bu i ymchwil Koch arwain at astudiaeth i atal clefydau a thrin clefydau drwy ddefnyddio brechiadau a serwm imiwnedd, cangen o feddygaeth a elwir yn imiwnoleg erbyn heddiw.
Bu datblygiad arall yn 1896 gan Almroth Wright, bacteriolegydd o Brydain yn Ysgol Feddygol y Fyddin, a ddatblygodd frechiad ar gyfer teiffoid. Bryd hynny, roedd teiffoid yn aml yn lladd mwy o filwyr mewn rhyfel nag ymladd.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cynhyrchwyd 10 miliwn o ddognau brechu ar gyfer milwyr a anfonwyd i’r Ffrynt Gorllewinol. O ganlyniad i hynny gostyngodd y marwolaethau o ganlyniad i teiffws i 0.14 o bob 1,000, o’i gymharu â 14 o bob 1,000 yn ystod Rhyfel y Böer 15 mlynedd cyn hynny.

Yng Nghymru, awgrymodd y Swyddog Meddygol dros IechydPerson a benodir i ofalu am iechyd cyhoeddus ardal. yng Nglyn Ebwy, Dr J W Power, y dylid trefnu cyrsiau mewn bacterioleg ar gyfer meddygon. Yn 1886 sefydlwyd un yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yn 1898, sefydlwyd labordy iechyd cyhoeddus yng Nghaerdydd er mwyn ymchwilio i achosion o glefydau. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd Cymru wedi cael ei gweddnewid yn sylweddol.
Mae rhai o’r cerrig milltir ym maes brechu wedi eu nodi ar y llinell amser yma.
Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae brechiadau wedi cael eu datblygu ar gyfer ystod ehangach o glefydau. Fodd bynnag, hyd yn oed mor ddiweddar â 1870, roedd chwech neu saith o blant yn marw bob dydd mewn epidemig o’r frech goch ym Mlaenafon. Yn ffodus, mae datblygu brechiadau yn golygu na ddylai achosion felly fyth ddigwydd eto.
Mewn gwirionedd, brechu byd-eang yw un o’r prif resymau dros y gostyngiad cyflym mewn marwolaethau plant yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Yn 2013 yn y DU, byddai plentyn dwy oed ar gyfartaledd wedi cael cyfanswm o naw brechiad fyddai’n rhoi imiwnedd rhag 22 o wahanol glefydau.
Ond mae yna ddatblygiadau pwysig eraill wedi digwydd yn ystod y 150 mlynedd diwethaf sydd hefyd wedi helpu i atal clefydau ym Mhrydain.
- Mae gwahanol ddeddfau iechyd cyhoeddus wedi gwella amodau byw. Mae systemau carthffosiaeth, cyflenwadau dŵr glân a chasglu gwastraff wedi helpu i ymladd yn erbyn clefydau.
- Mae gwell addysg ac ymgyrchoedd gan y llywodraeth wedi golygu bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o beth sy’n achosi clefydau.
- Mae gwell deiet a bwyd ffres drwy gydol y flwyddyn wedi golygu bod pobl yn iachach a’u bod yn gallu ymladd yn erbyn clefydau.
- Ers ei greu yn 1948, mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi rhoi pwyslais mawr ar atal clefydau. Mae ymgyrchoedd yn erbyn ysmygu, hyrwyddo bwyd iach, ymchwil i glefydau a mwy o bwyslais o lawer ar famolaeth a lles plant wedi helpu i atal clefydau.