Diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif
Yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, mabwysiadwyd ymagwedd fwy gwyddonol tuag at astudio meddygaeth. Dechreuodd gwyddonwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol ddefnyddio arsylwadau, cynnal arbrofion a chofnodi eu canfyddiadau.
Er bod nifer o feddygon yn dal i seilio eu triniaeth ar y pedwar gwlybwyrPedwar hylif yn y corff roedd yr hen Roegwyr yn credu yr oedd angen eu cadw’n gytbwys er mwyn cael bywyd iach., roedd gwaith GalenOddeutu 129-203 OC. Adfywiwyd syniadau Hippocrates gan annog tynnu gwaed fel triniaeth, ar ôl dysgu am anatomi wrth drin gladiatoriaid wedi’u hanafu. a llenorion hynafol eraill yn dechrau bod yn llai pwysig.
Y frech wen
Y datblygiad meddygol mwyaf cyn 1850 oedd i Edward Jenner ddarganfod dull llwyddiannus o atal y frech wen, un o’r clefydau mwyaf marwol yn y cyfnod. Roedd felly’n arloeswr y maes meddygaeth ataliol.
Roedd epidemigau o’r frech wen yn digwydd bob ychydig o flynyddoedd, gan ladd llawer. Roedd yn lladd tua 30 y cant o’r rhai oedd yn cael eu heintio, tra bod y rhai oedd yn goroesi yn cael ei gadael wedi’u marcio’n ddrwg. Yn 1730, bu i fardd o Gymru, Cadwaladr Roberts ddisgrifio ei hun fel rhyw gorrach budr â chroen tyllog,
a chredai mai dim ond gwrach awyddus
fyddai’n ei briodi bellach.
Yn Nhwrci, gwelodd Y Fonesig Mary Montague ddull o frechu oedd yn golygu rhoi dogn ysgafn o’r frech wen i bobl oedd yn eu gwneud yn imiwn. Fe gyflwynodd y syniad ym Mhrydain. Ond, roedd risgiau yn gysylltiedig â brechuRhoi dogn ysgafn o glefyd i’r corff er mwyn helpu i ymladd yn erbyn ymosodiad mwy difrifol o’r clefyd.. Bu i rai farw o ganlyniad i’r dogn ysgafn a roddwyd iddyn nhw, a doedd y bobl oedd yn byw mewn tlodi ddim yn gallu fforddio’r brechiad. Ymysg y rhai a frechwyd roedd Edward Jenner pan oedd yn wyth oed. Bu iddo oroesi ond y pris a dalodd oedd oes o iechyd gwael.
Edward Jenner a brechu

Ar ddiwedd y 18fed ganrif, sylwodd Edward Jenner, meddyg yn Swydd Gaerloyw, bod morwynion llaeth lleol, a phobl eraill oedd yn gweithio â gwartheg, yn imiwn i’r frech wen.
Roedd yn credu ei bod yn ymddangos bod pobl oedd wedi dal clefyd o’r enw brech y fuwch yn imiwn. Cynhaliodd gyfres o arbrofion er mwyn profi ei syniadau.
Brechodd fachgen o’r enw James Phipps â brech y fuwch. Pan oedd Jenner yn sicr bod y brechiad wedi gweithio, rhoddodd y frech wen yn fwriadol i’r bachgen, ond ni effeithiodd y clefyd arno. Roedd Jenner wedi profi ei syniad.
Yn 1798, anfonodd Jenner ei ganfyddiadau i’r Y Gymdeithas FrenhinolY prif sefydliad cenedlaethol er hyrwyddo ymchwil gwyddonol ym Mhrydain., ond cafodd y gwaith ei wrthod. Nid nhw oedd yr unig rai a wrthwynebodd.
- Roedd rhai pobl yn amheus o’r syniad o ddefnyddio brech y fuwch er mwyn gwella clefyd dynol.
- Roedd meddygon yn gwneud arian o frechiadau ac nid oedden nhw eisiau colli’r incwm hwnnw.
- Ystyriwyd bod brechiadau yn beryglus - ond roedd hynny’n wir oherwydd bod meddygon yn aml yn defnyddio nodwyddau oedd wedi eu heintio.
Yn hytrach, aeth Jenner ati i gyhoeddi ei ganfyddiadau ei hun. Galwodd ei dechneg yn vaccination, sef brechu, o’r gair Lladin vacca sy'n golygu buwch. Roedd hyn yn amlwg wedi creu cryn argraff ar y Senedd a rhodwyd £30,000 i Jenner agor clinig brechu yn Llundain. Erbyn 1803 roedd meddygon yn America yn defnyddio ei syniad ac yn 1805 penderfynodd Napoleon frechu ei filwyr.