Ymdrechion i atal afiechydon a chlefydauYr alcemyddion

Mae ymdrechion i atal afiechydon a chlefydau wedi newid dros y blynyddoedd o ganlyniad i welliannau mewn gwybodaeth feddygol a llwyddiant cynyddol meddyginiaethau ataliol. Pa mor effeithiol oedd ymdrechion i atal afiechydon a chlefydau dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Yr alcemyddion

Roedd gan lawer o ysgolheigion canoloesol ddiddordeb mewn alcemi. Prif nod yr alcemyddion oedd troi metelau cyffredin, megis haearn, yn aur. Roedd rhai hefyd yn chwilio am elicsir bywyd, meddyginiaeth roedden nhw'n credu fyddai'n atal clefydau a chadw rhywun yn ifanc am byth.

Wnaethon nhw ddim llwyddo wrth gwrs, ond yn y broses fe ddatblygodd yr alcemyddion offer a thechnoleg newydd ar gyfer echdynnu cemegau, mireinio hylifau a chymysgu hylifau. Daeth hynny yn ddefnyddiol wrth baratoi meddyginiaethau perlysieuol.

Ymdrechion i osgoi’r Pla Du

Roedd y Pla Du yn her aruthrol i weithwyr meddygol proffesiynol, nad oedd yn gallu egluro beth oedd yn ei achosi. Roedd yna lawer o syniadau gwahanol am sut oedd osgoi’r pla.

  • Roedd yr Eglwys yn dweud mai cosb Duw oedd y pla. Dywedwyd wrth bobl am fynd ar ymdaith i’r eglwys leol a gweddïo am faddeuant. Bu i rai fynd â’r cyngor hwn i’r eithaf gan droi’n fflangellwyr.
  • Roedd rhai yn credu y byddai cadw pob drws a chaead ffenest ar gau a chynnau tân yn cadw’r draw.
  • Roedd rhai meddygon yn dweud wrth gleifion i beidio ag ymolchi, oherwydd y byddai hynny yn agor y mandyllau yn y croen ac yn gadael y clefyd i mewn.
  • Roedd rhai yn awgrymu lladd cathod a chŵn oherwydd credid mai nhw oedd yn lledaenu’r pla.
  • Yn Llundain, gorchmynnodd Edward III i fudreddi’r strydoedd gael ei lanhau, gan ddweud mai’r arogl oedd yn lledaenu’r pla.

Wrth gwrs, nid oedd dim o hynny yn gallu atal y pla rhag lledaenu.

Fflangellwyr canoloesol yn gorymdeithio a chwipio eu hunain, gan gredu y bydden nhw'n puro eu hunain ac yn osgoi’r pla.
Image caption,
Fflangellwyr canoloesol yn gorymdeithio trwy dref Tournai, Yr Iseldiroedd yn 1349. Roedden nhw'n credu mai Duw oedd wedi anfon y pla. Roedden nhw'n credu y bydden nhw'n puro eu hunain drwy chwipio eu hunain, ac yn osgoi’r pla.

Ychydig iawn o ddatblygiad fu ym maes atal clefydau yn ystod yr oes fodern gynnar. Er bod pobl fel Vesalius a Harvey wedi mabwysiadu ymagwedd fwy gwyddonol tuag at feddygaeth, ni effeithiodd eu darganfyddiadau ddim ar .

Yn 1683, adeiladodd Anton van Leeuwenhoek ficrosgop, oedd â’r gallu i chwyddo gwrthrychau i 200 gwaith eu maint. Drwy hwn roedd yn gallu gweld creaduriaid bychan iawn o alwodd yn filionos. Roedd wedi darganfod bacteria.

Ond, nid oedd e nac unrhyw un arall wedi sylweddoli beth oedd eu harwyddocâd, na’u bod yn achosi clefydau. Fe gymerodd hi 200 mlynedd arall cyn i wyddoniaeth bacterioleg gynhyrchu brechiadau fyddai’n atal marwolaeth o ganlyniad i glefydau marwol.