Cerddi Rownd Gyn Derfynol Talwrn 2026
Y Ffoaduriaid
Wrth fentro curo'r cewri - mae hanes
yn mynnu mai colli
a wnawn, ond fe gredwn ni
yn wahanol eleni.
Gethin Wyn Davies ( 9)
Dros yr Aber
“It’s coming home!” Ddim tro’ma. Fe fyddwch
ryw fodd (fel tro dwytha)
ar y daith o’r UDA
mewn dadrith yn mynd adra!
Carwyn Eckley ( 8.5)
Cwpled caeth decsill yn cynnwys gwahoddiad i rywun penodol i rywle penodol.
Y Ffoaduriaid
Tyrd Andy reit handi lawr i Lundain
y lle i Faer...os yw â chyllell fain.
Gruffudd Owen (8.5)
Dros yr Aber
Tyrd i strydoedd y cymoedd sy’n cael cam
a newidia Barnett, Andy Burnham.
Marged Tudur (9)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘mi redais i allan o betrol’
YFfoaduriaid
Wrth deithio i'r semi flynyddol
mi redais i allan o betrol,
ar ôl sbrintio yma
dwi'n drewi'n reit bethma...
...gwell sgrwbio ngheseilia 'fo Dettol.
Gruffudd Owen – (8)
Dros yr Aber
Mi redais i allan o betrol
ger layby i swingars profiadol.
Y rhai mwyaf clên
oedd Gwilym a Jane,
sy’n ffrynt ’Babell Lên, yn arferol.
Rhys Iorwerth ( 8.5)
Cywydd gofyn (rhwng 12 a 18 llinell) unrhyw bŵer uwch (‘superpower’)
Y Ffoaduriaid
Cywydd yn gofyn am yr uwch-bwer i ynganu’r gair ‘Croissant’ gyda hyder.
Hoff ydwyf o gael ffidan,
hoff iawn o gresynt, (dwi’n ffan).
Hyd y wlad does dim mor dlws
â Bacchaidd seigiau’r becws.
Ond creisus sa dweud ‘Crasont’.
(Creisus hwy sa dweud ‘Crasônt’)
Tŷ pleser… ond tŷ sgêri
i Gruff yw’r boulangerie.*
Oedaf…ceisiaf…. “ym…. ‘Cwason’…?
…na, sori! Sori… ‘Cwasôn’???!
Heintiodd fy llais y cownter,
mi aeth ‘rembaras i’m mer.
Mor aflan oedd f’ynganiad
i glust…wyf gywilydd gwlad.
Rho’r uwch-bwer i’m Ceri
i fod yr hyn ydwyf fi
a’r hawl i ddatgan bob tro
“Un Crasont,” a chael croeso.
*I’w ynganu fel bwlongerî.
Gruffudd Owen (10)
Dros yr Aber
Cae’r ysgol. Mae tombola,
ambell dunnell o dda-da,
tedis a drewdod hotdogs.
Ochain band. A chiw’n y bogs.
Mae plant. A phlant. Candi fflos.
Crio. Nagio. Yn agos
at gyrraedd pen ei dennyn,
wele dad rhy dlawd i hyn.
Lwc din gaf ar lucky dip.
Talaf am hanner tiwlip.
A dyfod mae cŵn difoes,
a phlant. Ac mae raffl, oes.
O dduw, teleportia ddyn
(rwy’ bechod yn surbwchyn)
i ryw bwynt hwnt i’r bynting
a’r balŵns a’r gwerthwyr bling,
o’u plith nes ailymrithiaf
yn ffâr awê o’r Ffair Haf.
Rhys Iorwerth (9.5)
Pennill mawl neu ddychan, ar fesur y Clerihew, i unrhyw gymeriad ffuglennol
Y Ffoaduriaid
Y brenin Arthur,
fuo fo 'rioed ym Merthyr.
Tydach chi'm haws a holi.
Doedd o ddim yn bodoli.
Gruffudd Owen – (9)
Dros yr Aber
Mistar Urdd
yn ei goch, gwyn a gwyrdd.
I’w glwb yn yr ysgol es.
Triongl isosgeles.
Iwan Rhys (9)
Cân ysgafn: Pwt o Sylwebaeth
Y Ffoaduriaid
Mae’n ddiwrnod mabolgampau ac nid yw hi’n bwrw glaw!
Yn lle hynny, mae’r tymheredd newydd fwrw dau ddeg naw.
Awgrymais y gallem ganslo, ond chafodd neb yr hint
a phenderfynwyd cynnal y blwmin peth yn gynt.
Mae’n dri o’r gloch y bore. Rwy’n disgwyl am y wawr
mewn cae o blantos bibis sy di cysgu rhyw ddwy awr.
Y clwydi yw’r ras gyntaf - mae pethe’n dechre mynd yn hyll
a phawb ym mhob cyfeiriad yn baglu yn y gwyll.
Mae’r brifathrawes ifanc yn amau a fu’n ddoeth
wrth weld ei llywodraethwyr yn dal rhaff yn hanner noeth.
Mae’n edrych fel gardd eden, ond nid oes cysgod coed
a’r holl beth yn cymryd oriau ac oriau, fel erioed.
Rwy’n gwrthod ras y mamau, ond gwnaf ras y bagiau ffa
yn araf ac urddasol (nid wyf yn gwisgo bra).
Mae’r plant i gyd yn llefen, eu dagrau’n gymysg efo’r chwys
a’u holl neidiadau uchel yn mynd yn is ac is.
Pa dŷ a fu’n fuddugol? A y’n ni rhywfaint nes??
Oes ots??? (Nid yw’r athrawon ’gallu adio yn y gwres).
Cyn toddi, cawn fynd adre, am gwarter wedi saith.
Oes amser am un gawod oer cyn bwrw am y gwaith?
Gwennan Evans ( 9)
Dros yr Aber
Wel, am olygfa ryfedd yw’r dorf sydd o fy mlaen!
I chi wrandawyr radio, fe’i disgrifiaf yn go blaen.
Rhyw fenyw sy’n pendwmpian yn ei chadair ar y chwith:
mae hi ond ’di dod i’r Talwrn i gael y bara brith.
Mae Prif Lenor tua’r canol mewn shorts sydd braidd yn dynn;
diolchwch eich bod chi gartref – rwy’n gweld gormod o fan hyn.
Mae dyn draw fanna’n edrych fel tae mewn lle go gas
yn ceisio dala rhech i mewn, ond... ydy... mae’n dod mas.
Ar y dde, nôl yn y cefen, mae desg y dynion sain.
I haeddu’r joben ddiflas, pa drosedd wnaeth y rhain?
Yr Archdderwydd sydd yn rhwygo dalennau Waldo’n brysur
cyn eu plygu yn ofalus yn awyrennau papur.
Mae hi’n taflu un yn berffaith ac mae honno’n fflio’n syth
i glust dde Nei Karadog. Mae’n dod allan o’i glust chwith.
Ac wrth gwrs, mae na raffl: bisgedi, potel win,
Dail Pren (ond heb y cerddi), a thwb o Vaseline.
Mae pawb yn dechrau gadael! Ydy ’nghân mor wael â hynny?
Na, daliwch sownd, mae bron yn wyth – maen nhw bant i wylio’r ffwti.
Mae’r cadeiriau’n cael eu stacio, mae ’na foi yn brwsho’r llawr.
They think it is all over, myn diân! Wel, mae hi nawr!
Iwan Rhys ( 10)
Llinell ar y pryd
Y Ffoaduriaid
Mae’n siŵr fod hoe ddŵr yn dda
i Sol â’i wlyb geseilia
(0.5)
Dros yr Aber
Mae’n siŵr fod hoe ddŵr yn dda
Ger y Seine wrth groisianna
(0.5)
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Diwedd Tymor
Y Ffoaduriaid
Roedd e’ ar ei meddwl ar ddiwrnod fel heddi’, hyd yn oed;
pan na allai’r haul fod wedi codi’n uwch i’w chyfarch
a phan na allai’r awyr fod yn lasach
na’r môr yn ddisgleiriach
a goleuni’r dydd wedi lapio mor dynn amdani
fel na theimlai hi arlliw o’r tywyllwch.
Ar ôl heddi’, gwyddai y byddai’n dechrau colli gafael.
Dechreuodd baratoi,
fel y gwâi bob blwyddyn
gan gasglu pob mefusen a mafonen o fewn cyrraedd;
llwytho darnau o’r haul
fesul bocs i’r rhewgell
a’u cadw’n rheng o jariau.
Aeth ati i dorri coed,
a rheini yn eu hanterth a’r paill yn glynu wrth ei dwylo,
yn y gobaith y byddent,
o’u llwytho i’r tân,
yn ddigon eleni.
Hannah Sams-Jones (10)
Dros yr Aber
... ac wedi’r wythnosau o ddal fy ngwynt,
fe ddaeth hi’n amser cau cofrestr, diffodd sgrin
a heglu heibio sgrech y gloch
at y sent duty-free a seremoni’r
clustffonau a mwgwd dros lygaid
ac wedi hir ddychmygu sŵn cofleidio a chusanu,
anadliad araf harmonica yn y Plaza,
rhannu Marlboro, tywallt sangria
a’r awyr yn ymestyn fel breuddwydion,
dyma fi yno
ac wedi diosg yr haenau tynn, a chadw’r ces
â’i olwyn sydd ar fin dod yn rhydd,
o dan y parasol a’r gwres hallt,
dwi’n aros, aros i rywbeth newid...
Marged Tudur (10)
Englyn: Synnwyr Cyffredin
Y Ffoaduriaid
I’w wlad synhwyrol ydoedd, - arweinydd
gwir anian y cyhoedd;
ac i gwn chwiban ar goedd
i frifo lleiafrifoedd.
Gruffudd Owen (10)
Dros yr Aber
A’i atebion prydlon, pa raid i mi
feddwl mwy? Troi’n goflaid
wnaeth ei wybodaeth ddi-baid
a mynnu rhan o’m henaid.
Carwyn Eckley (10)




























