Main content

Cerddi Rownd 1 2026

Pennill bachog: Galw am Ymchwiliad

Tegeingl

A ninnau’n llawn teilyngu

Ein hwyliog ogoneddu

Bydd rhaid stilio a chael ymchwil

Os bydd Twtil yn ein trechu!

Nesta Davies 8

Twtil

Os na awn ni i’r ffeinal eleni,

mi fynnaf ymchwiliad ar ras,

â fi, wyddoch chi, wedi ’magu

fel y Meuryn ym mro’r Garreg Las.

Steffan Phillips 8

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm o fyd busnes

Tegeingl

Anodd ydyw buddsoddi

a dim yn fy waled i.

Ewan Smith 8.5

Twtil

I falansau lleisiau’n llên,

y Talwrn yw’r fantolen.

Iestyn Tyne 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘O oes, mae ’na fynydd i’w ddringo’

Tegeingl

O oes, mae ’na fynydd i’w ddringo,

fel dysgwr, wrth loywi'r hen lingo.

Bob dydd dwi’n dioddef;

(mae’r threiglo yn hunllef!)

Ond dwi'n bron â llwyddo, by jingo!

Ewan Smith 8

Twtil

O oes, mae ’na fynydd i’w ddringo

i gadw’r côr meibion rhag fflato,

ma’ heliwm balŵn

yn neud gwyrthie i’r sŵn…

ond wedyn ma’ tuedd i sharpo.

Steffan Phillips 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Afon

Tegeingl

(Hen Ymson Meibion Amser)

Er cof am Norman Closs Parry, cyn-aelod o’r tîm hwn, a fu farw ym mis Chwefror eleni.

I hen ddwr daeth unwaith ddyn:

Do; dod, a darfod wedyn.

Afon yr holl ganrifoedd

a dwr ei ddegawdau oedd.

Cydymaith pob rhyw deithiwr:

Afon Rhaid, dibaid ei dwr.

Dyn fu’n dal hud gwialen

yn y lli; dyn campau llên;

dyn natur; dyn pysgota,

a dyn y gweithredoedd da;

hen gyfaill inni’i gofio;

gŵr, aeth yr Afon ag o.

Dafydd Efan Morris 9

[Rhaid cydnabod Isaac Watts, a’i emyn “O God, our help in ages past”, yn enwedig y pennill

“Time, like an ever-rolling stream/ Bears all its sons away;/They fly forgotten, as a dream

Dies at the opening day.]

Twtil

Mae fy rhieni wrthi’n gwerthu’r tŷ yn Llandrindod lle ces i fy magu

Dwi adra, ond mae’r dodrefn

wedi’u rhoi yn groes i’r drefn,

ac mae sbarc yn y marciau

os ga’i gip cyn i’r drws gau…

Fan hyn bu’n hatgofion ni

yn eu haenau, cyn inni

golli pob stori a staen

i dyrrau bocsys diraen.

Rhedaf rhag yr erydu;

rhedaf, dihangaf o dŷ

i lif ar waelod y lôn.

Af a rhythaf ar Ieithon.

Tegwen Bruce-Deans 9

Triban yn cynnwys y llinell ‘Does lawer o wahaniaeth’

Tegeingl

‘D oes lawer o wahanaieth

Rhwng deddf a gwyllt anarchiaeth

Pan fydd arweinwyr y Tŷ Gwyn

Fel hyn yn trin gwleidyddiaeth.

Nesta Davies 8

Twtil

Does lawer o wahaniaeth,

does lawer o wahaniaeth,

O fewn fy ngherddi cynnil, pêr,

does lawer o wahaniaeth.

Buddug Watcyn Roberts 8.5

Cân ysgafn: Esgusodion

Tegeingl

Nid ein beiau ni ein hunan sydd wrth wraidd pob strach a ffwdan,

Ond y rhwystrau ar ein llwybrau - dyna hadau drwg y cyfan.

Beti Bwt a aeth i olchi, eisiau dillad glân oedd arni,

Ond doedd merddwr hyll yr afon ddim o safon - llawn budreddi.

Princess Kate a fu'n cyfieithu - dysgu iaith Hen Wlad ei theulu:

Tybed oedd hi'n hollol barod? Roedd ei thafod bron â baglu.

Paffiwr cryf yw Garibaldi : neithiwr aeth i’r cylch, a cholli.

Cwynodd wedyn, ar y noson, na cha’dd ddigon o’I fisgedi.

Gweithiau gwych yw’n cerdd a’n canu, a dwi’n gweld bydd rhaid manylu –

Angen stilio, a chael ymchwil, 0s bydd Twtil yn ein trechu.

Gan y Talwrn ces i rybudd: bod amhleidiol yn dragywydd:

Sorry, ond bu’m hen, hen hendaid i “ryw blaid” yn gyn-ymgeisydd.

Cwyno mae fy annwyl gariad nad wy’n gwneud fy llawn gyfraniad

I’r gwaith tŷ, ond – Ow! Y Talwrn: dyna’r bwrn – a’m gwir ymroddiad.

Yn hen aeth ein to o feirddion – a hŷn beth ein hen benillion;

Rhaid cael gwared o’n gogynfeirdd, a chael cywfeirdd o’r ysgolion.

Fel y gwelwch, rwy’n difaru bod rhyw ffawd bob tro’n ein llethu;

Ond pe bai dim un “cymhlethdod” – dyna ddiwrnod fai’n diflasu!

Dyna natur esgusodion, ein hen loches ni feidrolion:

Pwyntio bys at bethau untro sy’n hymbygio’n holl ymdrechion.

Dafydd Efan Morris 8

Twtil

‘Croeso ffrindiau oll, dyma estyn eich gwahoddiad

i noson gyda’n beirdd, cantorion – gwir oreuon gwlad!’

'Cewch gelf, cewch gomedi, cewch gerddoriaeth a cherddi!’

‘Helo, sori, sgiwshwch fi, lle yn union ydan ni?’

'Dyma leinyp o safon, a’r meuryn mor dda!’

‘Iawn ond, lle ma’r merched?’ / ‘O ty’d rŵan, paid â dadla…’

'Dwi wir yn ymddiheuro – ’mond am bo’ chi’n cwyno!’

‘Ond aeth ’na gynnig i ni ddod?’ / Wel, o ryw fath, do…’

'Wir, mae yma groeso cynnes – fel cynulleidfa!

Dewch, eisteddwch yn gyfforddus, gwenwch fel genod da.’

'Cewch fe gewch wylio, cewch chwerthin… ddim yn rhy uchel -

Cewch sgwrsio neu ganu â’ch llesiau tawel, del.

Mae’n haws gadael gwaith caled roc a rôl i’r dynion!’

‘Ond lle mae’n lleisiau ni?’ / ‘Esgusodwch, gwyliwch eich tôn!’

‘Cerddi a mesurau caeth, yr holl reolau hyn,

yn cadw llygad barcud fel hogan ym myd bechgyn.’

Dwi’n derbyn y gwahoddiad, mi glywish i bob gair,

Ond dewis peidio gwrando, ac ista’n unrhyw gadair.’

‘Awgrymaf dweakio’r leinyps, newid ambell ‘hwn’ am ‘hon’,

I’r diawl â’r batriarchiaeth a chi a’ch esgusodion.’

Buddug Watcyn Roberts 8

Ateb llinell ar y pryd: Nid yw y newyddion da

Tegeingl

Nid yw y newyddion da

Yn rhoi ‘eek’ i Eureka

Dafydd Efan Morris

Twtil

Dal hernias wrth dalyrna

Nid yw y newyddion da

Tegwen Bruce-Deans 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Amser Brecwast

Tegeingl

Lled hwyr wrth gyrraedd gwesty

Buom y noson gynt,

Gan adael ôl confetti

Yn drywydd ar ein hynt.

Ac meiddiwn i dy arddel

Heb swildod yn y byd;

Pan aethom lawr at frecwast;

Pan aethom lawr ynghyd.

Doedd neb yn meddwl gofyn

Ai gŵr i ti o’n i,

A llonydd, fel at frecwast

Beunyddiol, gawsom ni.

Hen atgof o’n ers talwm

Ar fore cynnar o haf

Ein brecwast bwrw swildod

A’n bywyd perffaith, braf.

Dafydd Efan Morris 8.5

Twtil

Kovalam, Kerala

Soniwyd wrthym, fel chwedl, am seiniau hen siant

lafarganai’r pysgotwyr – y tadau a’r plant;

felly aethom yn fore, mor droednoeth â’r wawr,

drwy’r dref at y glannau, a phrysurdeb mawr

ysgwyddau esgyrnog yn lansio hen gwch

oedd yn dolciau i gyd, a’r rhwd arni’n drwch.

Fe gawsom ryw gornel i sipian ein chai

a chael tamaid i’w fwyta, rhwng y tywod a’r tai

a disgwyl a disgwyl am glywed y gân

pan frigai’r trymlwythi yn sgleiniog a glân.

Ond ddaeth yr un sill gan y cychwyr i'n clyw,

dim ond llanw ac adar, a thawelwch briw;

wrth i'r rhwydi ailgodi'n rhy ysgafn o chwim

dyma weld fod y ddalfa yn ddalfa o ddim

ond am ambell un bach yng nghilfachau'r rhwyd

gyda'r crancod a'r cregyn, a'r pecynnau bwyd.

Ac roedd cysgod y trawler yn llechu'n y tes

pan ddaeth un o'r pysgotwyr i ofyn am bres.

Iestyn Tyne 9.5

Englyn: Ysbyty

Tegeingl

(O gofio'r hen arfer o letya pererinion yn ardal Dôl Gynwal, a rhoes enw Ysbyty Ifan i'r pentref.)

Dod ato bob diwetydd - wnâi'r heidiau

o'r mannau a'r mynydd

at groeso lond ei ddolydd;

hwn yn ffald i braidd ein Ffydd.

Ewan Smith 9

Twtil

“Diolch, doctor”… a daw ’fory i addo

ei foddion i’r teulu

wrth ad’el cornel Dacu

a’u gwylio’n stripio’r gwely.

Steffan Phillips 9.5