Teyrngedau i Dafydd Owen - 'arloeswr crefyddol'

Y diweddar Barchedig Dafydd Owen sydd wedi marw yn 90 oed
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi rhoi teyrnged i'r Parchedig Dafydd H Owen - Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru a chaplan ieuenctid cyntaf Coleg y Bala.
Bu farw wedi gwaeledd byr yn 90 oed.
Yn enedigol o Lanrug ger Caernarfon bu'n weinidog mewn sawl ardal - gan gynnwys Llansteffan, Bancyfelin, Caergybi a Llundain ond mae'n cael ei gofio'n bennaf am ei waith fel caplan ieuenctid cyntaf Coleg y Bala ac Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Ef a'i wraig Brenda gychwynnodd y gwaith ieuenctid yng Ngholeg y Bala yn 1967 - ac ers hynny mae miloedd o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru wedi bod ar gyrsiau yno.
"Os oedd rywun y gellid ei alw yn arloeswr neu arloeswyr crefyddol, wel Dafydd a Brenda Owen efo'i gilydd fasa rheini," meddai Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol presennol Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
"Dyma beth oedd arloesi, gweld cyfle, ei adnabod a gweithredu. Fe welodd fod Coleg y Bala, adeilad helaeth hanesyddol pwysig yn wag ac heb ddefnydd, a phenderfynu ei fod yn ddelfrydol i'w agor fel canolfan i blant, ieuenctid a hyfforddiant.
"Fe fydda' i yn gofyn yn aml sut le fyddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru pe na bai Coleg y Bala wedi agor.
"Mae cymaint o arweinwyr y blynyddoedd diwethaf ac arweinwyr arloesol newydd ein dyddiau ni yn gallu dweud fod llawer iawn o'u profiad a'r her maent wedi ei dderbyn yn tarddu o'r gwaith yn y Coleg.
"Roedd Dafydd yn gweld cyfle, yn perswadio ac yn mentro. Doedd pawb ddim yn cytuno, ond roedd y weledigaeth yn un roedd o'n gorfod ei dilyn ac roedd o'n gwneud hynny yn raslon gyda phawb."

'Fe fydda' i yn gofyn yn aml sut le fyddai Eglwys Bresbyteraidd Cymru pe na bai Coleg y Bala wedi agor,' medd Nan Powell-Davies
"Yn bersonol roedd ei ddylanwad yn fawr arna i, roedd o'n gweld anghenion ei ddydd ac yn annog ac yn rhoi hunan hyder i bobl gredu y gallent gyfrannu," ychwanegodd Nan Powell-Davies.
"Pwy ond rhywun mentrus fel Dafydd fyddai wedi rhoi swydd i rywun 18 oed di-brofiad a magu hyder ynddi i i gydio yn y gwaith? Roedd yn anogwr heb ei ail, ac mae fy nyled i yn fawr iawn iddo fo."
Mae nifer eraill wedi rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan gyfeirio at ei ddiffuantrwydd, ei gadernid a'i hynawsedd.
"Un o'r goreuon heb os - bu ei esiampl ysbrydol diffuant a llawen, ei ofal bugeiliol, a'i ddysgeidiaeth ddoeth a chadarn yn ddylanwad amhrisiadwy ar ffydd merch ifanc o Port - diolch o galon DHO," meddai Carys Humphreys sydd wedi bod yn gwneud gwaith cenhadol yn Taiwan am dros 40 mlynedd.
'Gweledigaeth glir'
Gwyddonydd oedd Dafydd H Owen - wedi graddio gyda BSc a BD o Aberystwyth.
"Roedd o'n gallu cyfannu y bwlch rhwng crefydd a gwyddoniaeth ac roedd ganddo feddwl dadansoddol," meddai'r Parchedig Dafydd Andrew Jones a fu'n cydweithio ag ef am dros hanner can mlynedd.
"Roedd o'n gyfaill triw ac yn arloeswr oedd â gweledigaeth glir - yn ddyn urddasol oedd ag empathi â phobl.
"Yn ogystal ag yng Ngholeg y Bala, fe wnaeth o arloesi hefyd fel Ysgrifennydd Bwrdd y Genhadaeth ac roedd ganddo weledigaeth glir yn ei swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf EBC.
"Bu hefyd yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol cyn ei weinidogaeth ar gapeli yn Llundain."
Mae e'n gadael ei wraig Brenda a'u plant Rhys a Rhian a'u teuluoedd.
Bydd teyrnged lawn i'r diweddar Barchedig Dafydd H Owen yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
