'Wedi cael rhai o'r profiadau gorau ers i fi fynd yn ddall'

Rhian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Rhian Evans ei golwg pan yn 32 oed

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn 32 oed fe gollodd Rhian Evans o Gaerfyrddin ei golwg - cyn hynny roedd hi'n llyfrgellydd yng Ngholeg y Drindod ac er ei bod wedi bod yn ddall am 50 o flynyddoedd bellach dywed bod modd troi'r anabledd yn rhywbeth positif.

"Er gwaetha'r tywyllwch mae modd troi'r anabledd ar ei ben a 'neud rhywbeth positif ohono," meddai.

"Dwin grediniol bod anabledd yn gallu esgor ar fendithion lawer.

"Pan yn ifanc fydden i ddim wedi breuddwydio canu geiriau'r emyn 'efallai mai'r storom fawr ei grym a ddaw â'r pethe gorau im'.

"Yn sicr dwi wedi cael rhai o brofiadau gorau fy mywyd ers i fi fynd yn ddall."

Rhian Evans yn ystod y cyfarfod yn Sanclêr yn gwisgo ffrog binc, beige a gwynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Evans yn ystod cyfarfod yn Sanclêr yr wythnos hon lle bu'n rhannu ei phrofiadau

Mae ffydd Gristnogol Rhian Evans wedi bod yn bwysig iddi ar hyd ei bywyd a'r wythnos hon bu'n rhannu ei phrofiadau mewn digwyddiad a gafodd ei drefnu gan Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin yn Ysgol Griffith Jones, Sanclêr.

'Goleuni mewn tywyllwch' oedd testun y sgwrs gan mai dyna ei phrofiad ers iddi fynd yn ddall yn 1976.

"Mi gollais i fy ngholwg yn araf - ac mae hynny yn fwy caredig gan i mi gael amser i addasu ac i ddysgu ffyrdd newydd o 'neud pethe.

"Dwi wedi cyfarfod â phobl sydd wedi colli golwg yn sydyn ac mae hynna'n drawmatig ofnadwy.

"Ond wrth gwrs, roedd e'n siom. Roedd e'n siom ofnadwy i orfod gadael fy ngwaith yng Ngholeg y Drindod a meddwl am ryw waith arall i'w wneud ond mae ffydd a bod yn bositif yn gallu gwneud y fath wahaniaeth i agwedd rhywun at bopeth yn ei fywyd - a dyna ganfod fy mod yn gallu helpu pobl mewn ffyrdd eraill."

Cynllun Casetiau Cymraeg oedd enw'r gwasanaeth yn wreiddiol, cyn troi'n Llyfrau Llafar CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr cynllun Casetiau Cymraeg - enw gwreiddiol gwasanaeth Llyfrau Llafar Cymru

Wrth i'w golwg ddirywio roedd Rhian yn benderfynol o fyw ei bywyd yn llawn ac felly ddechreuodd wasanaeth papurau newydd ar lafar i bobl ddall a rhannol ddall.

Gyda phwyllgor o wirfoddolwyr, aeth ati i ddechrau recordio newyddion y Carmarthen Journal yn stiwdio Radio Ysbyty Glangwili ac ymhen rhyw dair blynedd sefydlodd gynllun sy'n cael ei adnabod bellach fel Llyfrau Llafar Cymru.

Bellach mae cannoedd o bobl ar draws Cymru yn derbyn llyfrau llafar bob mis.

"Oni bai bo fi wedi colli fy ngolwg fy hun fydden i ddim wedi meddwl bod angen gwasanaeth o'r fath," dywedodd.

Yn 2010, a hithau yn Gristion o argyhoeddiad, cafodd ei breuddwyd o gael Beibl braille yn Gymraeg ei gwireddu.

"Mae'r Beibl hwnnw yn cyfrannu at y goleuni sydd 'na yn fy nhywyllwch," meddai, yn ogystal â'r synhwyrau eraill wedi fy helpu gymaint ers i fi golli fy ngolwg.

"Mae'n bwysig bod yn bositif - mae hynny yn fy nghynnal a bod â mesur go dda o hiwmor hefyd.

"Mae'n help eich bod yn gallu chwerthin pan mae rhywbeth yn mynd o'i le. Mae sawl tro trwstan wedi digwydd i fi - er enghraifft, y tro hwnnw pan aeth fy ffon wen i yn sownd yn nhrowsus rhywun.

"O'n i'n embarassed ond wedyn yn sylweddoli mai heb y ffon wen fyddai neb yn fy osgoi i ac yn fy helpu i."

Roedd hi braidd yn anodd ar y dechrau llyncu balchder ac ildio i ddefnyddio'r ffon wen, meddai, ond yn fuan iawn daeth i weld ei gwerth hi a charedigrwydd pobl eraill wrth iddi ei defnyddio.

"Dwi wedi cael rhai o'r profiadau gorau ers i fi fynd yn ddall - profiadau na fyddwn wedi'u cael fel arall," ychwanegodd.

Rhian Evans yn rhannu positifrwydd ei phrofiad

12/07/2026

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.