Polisi amddiffyn yn 'broblem fawr' i Lywodraeth Plaid Cymru – Dafydd Iwan

Fe wnaeth Dafydd Iwan ei sylwadau mewn trafodaeth ar ddylanwad traddodiad heddychol Plaid Cymru ar y blaid heddiw
- Cyhoeddwyd
Mae Dafydd Iwan wedi dweud bod busnesau sy'n "paratoi arfau" yng Nghymru yn mynd i greu "dilema" i lywodraeth newydd Plaid Cymru, oherwydd y traddodiad o heddychiaeth o fewn y blaid.
Yn ôl yr ymgyrchydd blaenllaw a chyn-lywydd y blaid, byddai rhai o fewn Llywodraeth Cymru yn "mynnu polisi pendant o wrthwynebu defnyddio tir Cymru i baratoi ar gyfer arfau rhyfel".
Yr wythnos diwethaf, cafodd Llywodraeth Plaid Cymru eu beirniadu am gyhoeddi polisi moesegol newydd ar fuddsoddiad amddiffyn, yr un diwrnod â noddi sioe fasnach i fusnesau amddiffyn yng Nghasnewydd.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwrthwynebu gwerthu arfau i wledydd sy'n cyflawni "tor-cyfraith ddyngarol ryngwladol ddifrifol".
Mae'r diwydiant amddiffyn yng Nghymru yn cyflogi tua 16,000 o bobl yn uniongyrchol.
Yn ôl Adam Price AS, y gweinidog dros fenter, cysylltedd ac ynni, nid yw ymrwymiadau'r llywodraeth yn "amcanion sy'n gwrthdaro â'i gilydd".
'Dadl fyw iawn ym Mhlaid Cymru'
Fe wnaeth Dafydd Iwan ei sylwadau ar rifyn arbennig o bodlediad Gwleidydda, i nodi 90 mlynedd ers i Saunders Lewis, y Parchedig Lewis Valentine a DJ Williams gynnau tân bwriadol ar safle'r ysgol fomio newydd oedd yn cael ei hadeiladu ym Mhenyberth ger Pwllheli.
Roedd y tri yn aelodau blaenllaw o Blaid Cymru ac yn gwrthwynebu cynlluniau'r Llywodraeth Brydeinig i sefydlu safle milwrol yno fel rhan o baratoadau amddiffyn y wlad cyn yr Ail Ryfel Byd.
Mewn trafodaeth ar ddylanwad traddodiad heddychol Plaid Cymru ar y blaid heddiw, dywedodd Dafydd Iwan: "Mae'n broblem fawr i lywodraeth Plaid Cymru achos ma' gynnon ni sawl man yng Nghymru sy'n chwarae rhan allweddol yn y busnes o baratoi arfau, er enghraifft dronau.
"Ond, mae dronau hefyd yn mynd i fod yn arf hynod o bwysig a dylanwadol i edrych ar ôl pobl sy'n byw mewn cyfandiroedd pellennig ac yn y blaen... ma' hon yn mynd i fod yn ddilema i lywodraeth Plaid Cymru."
Yn yr un drafodaeth, ategodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru bod yna "dyndra rŵan ym Mhlaid Cymru... mae'r dylanwad heddychol yn llai yn yr SNP erbyn hyn, ond mae dal yno fel dadl fyw iawn ym Mhlaid Cymru".
Y newyddiadurwr Bethan Rhys Roberts oedd cadeirydd y panel ar y rhifyn arbennig o Gwleidydda, gyda Dafydd Iwan, Richard Wyn Jones, y cyn-farnwr Nic Parry, Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r hanesydd Mari William yn ymuno fel gwesteion.
'Terfysgaeth... fydda fo'
Cafodd Saunders Lewis, Lewis Valentine a DJ Williams eu dedfrydu i naw mis o garchar yn Wormwood Scrubs fel cosb am losgi'r ysgol fomio.
Yn ôl y cyn-farnwr Nic Parry, petai'r tri yn ymddangos yn y llys heddiw am yr un drosedd, byddai'r ddedfryd "yn llawer nes at bum mlynedd" o hyd.
"Yn yr achos yma, yn llygaid y gyfraith, mi' fysa fo' hyd yn oed yn waeth heddiw.
"Ond ar y pryd, difrod troseddol [oedd y drosedd]. Doedd 'na ddim y fath drosedd â therfysgaeth... ond dyna fydda fo [heddiw]."
Bydd Nic Parry yn sôn mewn mwy o fanylder am yr achos cyfreithiol mewn erthygl yng nghylchgrawn Barn, fis nesaf.

Dywedodd Nic Parry y byddai'r tri yn euog o derfysgaeth pe bai'r troseddau'n digwydd heddiw
Yn ôl Dafydd Iwan, mae'n dal i gefnogi gweithredu'n uniongyrchol ar yr amod nad yw'n croesi'r "linell bwysig, hynny yw, bo' chi'n defnyddio trais yn erbyn pethau ond ddim yn erbyn pobl".
Dywedodd y byddai'n cefnogi gweithred debyg i Penyberth heddiw "mewn rhai amgylchiadau" ond mae'n derbyn bod llosgi [arson] yn mynd "yn beryglus o agos i'r ffin [o'r hyn sy'n dderbyniol]".
Ond i eraill, mae'r weithred yn parhau yn un hynod ddadleuol.
Ym mis Chwefror eleni, daeth Plaid Cymru dan feirniadaeth cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, am "glodfori ymosodiad tân bwriadol ar y filwriaeth Brydeinig".
Galwodd ar y blaid i "gondemnio'r ymosodwyr tân [arsonists]... yn ddigamsyniol".
'Y weithred fawr gyntaf'
I nifer, mae'r brotest ym Mhenyberth yn cael ei hystyried yn un o ddigwyddiadau hanesyddol pwysicaf yr 20fed ganrif yng Nghymru.
I Dafydd Iwan, mae'r weithred wedi tyfu mewn arwyddocâd.
"I mi, dyma oedd y weithred fawr gyntaf, ddramatig, gofiadwy... mae'n bwysicach heddiw nag oedd hi ar y pryd," dywedodd.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae Penyberth yn dal i ffurfio "rhan bwysig" o fytholeg Plaid Cymru.
"Hyd yn oed heddiw, er bod Penyberth yn bell iawn, iawn yn ôl yn y gorffennol, mae o dal yn bwysig dwi'n meddwl o ran Plaid Cymru gyfoes".

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, mae Penyberth yn dal i ffurfio "rhan bwysig" o fytholeg Plaid Cymru
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r sectorau awyrofod, amddiffyn, diogelwch a chadernid cenedlaethol er mwyn cefnogi miloedd o swyddi uwch-dechnoleg sy'n talu'n dda yng Nghymru, gan hyrwyddo parch at hawliau dynol a chyfraith ryngwladol.
"Rydym yn datblygu fframwaith amddiffyn moesegol, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, a fydd yn cael ei lywio gan drafodaethau gyda llywodraethau datganoledig eraill ac yn arwain ein hymgysylltiad â'r sector yn y dyfodol.
"Fel rhan o'r broses o ddatblygu'r fframwaith, dylid gohirio pob penderfyniad sy'n ymwneud â buddsoddi yn y sector amddiffyn, lle bo hynny'n gyfreithiol ac yn ymarferol bosibl, hyd nes y bydd y fframwaith wedi'i gyhoeddi."
Mae Plaid Cymru wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.