Tafwyl i gynnal cyngerdd 'unigryw' i ddathlu 20 mlynedd

TafwylFfynhonnell y llun, Tafwyl
  • Cyhoeddwyd

I nodi 20 mlynedd ers sefydlu'r ŵyl, bydd Tafwyl yn cynnal cyngerdd "unigryw" eleni.

Mi fydd yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar nos Sul 21 Mehefin ac mae wedi'i churadu gan y cerddor, Mei Gwynedd.

Ymysg yr enwau fydd yn perfformio mae Meinir Gwilym, Al Lewis, Rose Datta, Dom a Lloyd, Heledd Watkins ac Efan Williams.

Bydd dehongliadau newydd yn cael eu perfformio o draciau sydd wedi'u hysbrydoli gan y brifddinas, gan gynnwys ambell i gân a gafodd eu hysgrifennu'n wreiddiol gan enwau adnabyddus y sîn fel Geraint Jarman a Catatonia.

Yn ôl prif leisydd y band Dadleoli, Efan Williams, "mae cael bod yn rhan o'r dathliadau wrth i Tafwyl droi'n 20 yn teimlo'n arbennig iawn".

Meinir GwilymFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Meinir Gwilym yn perfformio fel rhan o'r gyngerdd i ddathlu 20 mlynedd o Tafwyl

Dywedodd Efan Williams fod "bod yn rhan o brosiect Yn Cyflwyno gyda Dadleoli yn 2022 yn foment bwysig iawn i mi fel cerddor ifanc.

"Fe roddodd y profiad hyder a chyfleoedd newydd i mi, ac roedd cael gweithio gyda Mei Gwynedd yn rhan fawr o hynny.

"Ers hynny, mae wedi bod yn wych gweld Tafwyl yn parhau i dyfu a datblygu," ychwanegodd Efan.

"Mewn ffordd, rydw i wedi tyfu ochr yn ochr â'r ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae cael bod yn rhan o'r dathliadau wrth i Tafwyl droi'n 20 yn teimlo'n arbennig iawn."

Yn ogystal â'r brif ŵyl, bydd Tafwyl yn cynnal 20 o 'ddigwyddiadau ffrinj' dros bythefnos yn arwain at y penwythnos ei hun, gan adlewyrchu 20 mlynedd yr ŵyl a'i heffaith ar fywyd diwylliannol y brifddinas.

Ymhlith uchafbwyntiau'r rhaglen bydd:

  • Bwncath a'r Gerddorfa - perfformiad arbennig sy'n cyfuno un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru gyda cherddorfa fyw;

  • Dragwyl - noson liwgar a llawn hwyl yn dathlu creadigrwydd, perfformio a hunanfynegiant drwy gyfrwng y Gymraeg;

  • Gig Ieuenctid Tafwyl yng Nghlwb Ifor Bach - llwyfan i'r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymraeg ddisgleirio yng nghanol prif leoliad cerddoriaeth fyw'r brifddinas.

Heulyn Rees
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heulyn Rees mai'r "hyn sydd wedi aros yr un fath drwy'r cyfan yw ein hymrwymiad i sicrhau bod Tafwyl yn ŵyl agored i bawb"

Mewn datganiad, dywedodd yr ŵyl eu bod yn "parhau i fod yn un o wyliau diwylliannol mwyaf Cymru ac, yn sgil yr heriau costau byw sy'n wynebu teuluoedd ledled y wlad".

Esboniodd hefyd y bydd mynediad i'r ŵyl am ddim eto eleni.

Dywedodd Heulyn Rees, prif weithredwr Menter Caerdydd, fod cyrraedd 20 mlynedd yn "garreg filltir arbennig iawn".

"Dros ddau ddegawd mae'r ŵyl wedi tyfu o fod yn ddigwyddiad cymunedol i fod yn un o brif ddathliadau diwylliant Cymraeg Cymru.

"Yr hyn sydd wedi aros yr un fath drwy'r cyfan yw ein hymrwymiad i sicrhau bod Tafwyl yn ŵyl agored i bawb.

"Ar adeg pan mae llawer o deuluoedd yn teimlo pwysau costau byw, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i gynnig mynediad am ddim.

"Rydym am i bawb deimlo'n rhan o'r dathliad hwn ac i brofi'r gorau o gerddoriaeth, diwylliant a'r Gymraeg yng nghanol ein prifddinas," meddai Mr Rees.

'Edrych ymlaen at groesawu miloedd o bobl'

Dywedodd trefnydd Tafwyl, Bethan Jones-Ollerton: "Wrth edrych yn ôl dros 20 mlynedd Tafwyl, rydym yn hynod falch o'r gymuned sydd wedi tyfu o amgylch yr ŵyl.

"Mae'r rhaglen eleni yn adlewyrchu'r daith honno - o'r 20 digwyddiad ffrinj sy'n ymestyn y dathliadau ar draws y ddinas, i'r cyngerdd arbennig nos Sul sy'n dathlu'r berthynas unigryw rhwng Caerdydd a cherddoriaeth Gymraeg.

"Bydd dychwelyd i Gastell Caerdydd ar gyfer y dathliadau hyn yn arbennig iawn ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o bobl i ddathlu gyda ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.