Rheolau rhoddwyr sberm wedi 'chwalu breuddwydion' teulu

Nat a Nik Fraser-EdwardsFfynhonnell y llun, Nat Fraser-Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nat a Nik yn ofni y bydd pum embryo yr oedden nhw yn eu storio yn cael eu dinistrio ym mis Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae cwpl o Wrecsam yn galw am newid y gyfraith er mwyn sicrhau nad oes modd i roddwyr sberm neu wy dynnu caniatâd o'u defnydd yn ôl.

Ar ôl bod drwy sawl rownd o driniaeth ffrwythlondeb, roedd cael babi'r llynedd yn gwireddu breuddwyd i Nat a Nik Fraser-Edwards.

Roeddynt yn gobeithio ceisio am frawd neu chwaer i'w mab yn y flwyddyn newydd, ond maen nhw wedi cael clywed bod eu rhoddwr sberm wedi gwrthod unrhyw ddefnydd pellach - ac o ganlyniad bydd y pum embryo y maen nhw'n eu storio yn cael eu dinistrio.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r sector ffrwythlondeb i gefnogi gofal tosturiol ac o safon".

Ar ôl dychwelyd o'u mis mêl yn 2023, fe ddechreuodd Nat a Nik driniaeth ffrwythlondeb - proses wnaeth gostio cyfanswm o £23,000.

"Roedd yna lot o boen yn y cyfnod yna, ac roedd yn teimlo fel bod pawb o'n cwmpas yn mynd yn feichiog," meddai Nat, 37 oed.

Fe welodd y cwpwl y driniaeth yn methu sawl tro, ond pan newidion nhw at broses ICSI - ble mae'r wy yn cael ei ffrwythloni gan sberm ac mae'r embryo yn cael ei greu y tu allan i'r corff - fe gawson nhw lwyddiant.

Roedd chwe embryo gan Nat a Nik, ac ym mis Awst y llynedd fe gafodd Jude ei eni.

Nat a Nik Fraser-EdwardsFfynhonnell y llun, Nat Fraser-Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nat a Nik wybod am benderfyniad y rhoddwr sberm ym mis Mehefin

Cafodd y pum embryo arall eu storio er mwyn eu defnyddio yn ddiweddarach pe bai nhw eisiau.

Ond yn ystod ymgynghoriad ym mis Mehefin, dywedodd y cwpl fod "eu breuddwydion wedi eu chwalu".

"Dywedon nhw fod ein rhoddwr wedi tynnu'r caniatâd ar gyfer y defnydd o'r embryonau yn ôl," esboniodd Nat.

"Dwi'n cofio nhw'n dweud eu bod yn cadw nhw am flwyddyn rhag ofn bod yna newid, ond y peth anoddaf i'w glywed oedd 'wedi hynny byddwn ni'n gadael iddyn nhw farw'.

"Gawson ni ein llorio yn llwyr gan y newyddion."

Yn y DU mae hawl gan roddwr sberm neu wy i dynnu caniatad o'u defnydd yn ôl hyd nes bod yr embryo yn cael ei drosglwyddo i'r groth.

Nat a Nik Fraser-EdwardsFfynhonnell y llun, Nat Fraser-Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nik (dde) nawr yn wynebu'r posibilrwydd na chaiff hi fyth y profiad o fod yn feichiog

Mae'r ddwy yn dweud y bydden nhw wedi talu unrhyw beth i gael teulu, ond fod cost y broses wedi golygu eu bod nhw wedi gorfod "aberthu".

"Roedden ni'n gweld pethau'n anodd yn ariannol ar adegau, yn gorfod cael benthyciad ar un pwynt, ond roedd rhaid i wneud i hyn weithio," meddai Nat.

"Fy nghyngor i unrhyw un yn yr un sefyllfa yw i barhau i fyw eu bywydau, achos dwi'n meddwl ein bod ni wedi stopio am gyfnod."

Maen nhw'n dweud na fedran nhw fforddio mynd drwy'r driniaeth eto, ac i Nik mae'n golygu efallai na chaiff hi fyth y profiad o fod yn feichiog.

"Fel dynes dwi'n meddwl bod o'n rhywbeth anhygoel i allu ei wneud, a doeddwn i ddim eisiau edrych 'nôl a difaru unrhyw beth.

"Roedden ni wastad yn gwybod ein bod ni eisiau brawd neu chwaer i Jude, a drwy wylio Nat yn mynd drwy'r profiad yna, dwi'n cofio meddwl 'fyddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny'."

Profiad 'anodd a phoenus'

Mae'r cwpl yn galw am newid i'r gyfraith fyddai'n golygu unwaith y mae rhoddwr wedi rhoi caniatâd, nad oes hawl iddynt dynnu hynny yn ôl.

Dywedodd Nik nad oedden nhw'n ymwybodol bod hawl gan y rhoddwr sberm i dynnu caniatâd yn ôl ar ôl i'r broses fynd mor bell.

"Do, fe wnaethon ni arwyddo rhywbeth, ond 'dan ni ddim yn cofio unrhyw un yn egluro hynny i ni ar lafar," meddai.

Dywedodd HFEA, rheoleiddiwr ffrwythlondeb y DU, nad oes ganddyn nhw'r grym i newid y gyfraith, ac mai mater i Lywodraeth y DU fyddai hynny.

Mae HFEA yn dweud ei bod hi'n bwysig fod clinigau yn rhybuddio cleifion fod y fath sefyllfa yn bosib "achos fe all fod yn brofiad anodd a phoenus".

Dywedodd llefarydd ar ran adran iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth y DU eu bod yn "cydymdeimlo gydag unrhyw un sy'n wynebu anhawster neu amgylchiadau heriol yn ystod triniaeth ffrwythlondeb".

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector ffrwythlondeb er mwyn cefnogi gofal tosturiol ac o safon.

"Mae pob agwedd o'r broses reoliadol yn cael ei adolygu'n gyson."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig