Menywod bregus yn cael eu denu at roddwyr sberm anghyfreithlon

Dynes yn edrych ar ei ffôn symudol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r corff sy'n arolygu'r diwydiant ffrwythlondeb yn rhybuddio bod risg i fenywod gael eu "hecsploetio"

  • Cyhoeddwyd

Mae menywod sydd am ddod yn rhieni yn cael eu targedu ar gyfryngau cymdeithasol i brynu samplau sberm anghyfreithlon, yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru.

Roedd enghreifftiau lle'r oedd menywod sydd ddim yn gallu cael triniaeth ffrwythlondeb IVF yn chwilio am opsiynau eraill, gan gynnwys mynd ar wefannau tebyg i rai dêtio er mwyn chwilio am ffyrdd o gael babi.

Fe wnaeth ymchwiliad y BBC dalu £100 ar gyfer sampl sberm gan ddyn oedd yn hysbysebu ei wasanaethau ar-lein.

Cafodd y sampl ei anfon erbyn y diwrnod canlynol mewn carton saws tomato wedi ei rewi.

Mae'r corff sy'n arolygu'r diwydiant ffrwythlondeb yn rhybuddio bod risg i fenywod gael eu "hecsploetio gan roddwyr".

Dywedodd y cwmni cyfryngau cymdeithasol Meta eu bod yn caniatáu "trafodaeth am roi sberm" ar eu platfformau, ond eu bod yn dileu negeseuon a grwpiau sy'n torri eu rheolau.

Person yn gwisgo menyg glas yn gafael mewn bocs o passata tomato
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth rhaglen Wales Investigates archebu sampl sberm ar-lein, a gafodd ei anfon mewn bocs saws tomato

Roedd un hysbyseb ar-lein yn dweud y gall defnyddwyr "ddibynnu" ar ddyn o'r enw Joe Donor i anfon ei sampl yn y post.

Mae'n honni bod ganddo 180 o blant mewn sawl gwlad ar draws y byd, a hynny drwy gael rhyw a drwy ddulliau ffrwythloni artiffisial.

Yn dilyn achos llys yng Nghaerdydd, fe benderfynodd barnwr mewn llys teulu ddatgelu mai ei enw yw Robert Albon, a hynny er mwyn rhybuddio eraill am y peryglon o roi sberm drwy ddefnyddio dulliau sydd heb eu rheoleiddio.

Fe gysylltodd rhaglen Wales Investigates gydag ef drwy ddefnyddio ffugenw.

Yn dilyn cwpl o negeseuon e-bost ac un alwad ffôn, fe anfonodd sampl drwy'r post erbyn y diwrnod canlynol.

Fe ofynnodd am £100 mewn arian parod drwy'r post ar gyfer chwistrell oedd yn cynnwys sberm, a gafodd ei roi mewn bocs passata tomato wedi ei rewi.

Joe DonorFfynhonnell y llun, Fabulous
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Joe Donor ddim yn swil am fod yn rhoddwr, ac mae wedi rhoi sawl cyfweliad am y peth gan gynnwys yng nghylchgrawn Fabulous papur newydd The Sun

Mae Albon a channoedd o ddynion eraill wedi defnyddio Facebook i gysylltu gyda menywod sy'n chwilio am sberm - mae gan rai grwpiau hyd at 40,000 o aelodau.

Fe wnaeth aelod o staff rhaglen Wales Investigates ymuno gydag un grŵp rhoddwyr gan ddefnyddio proffil gwag.

Er i rai negeseuon gael eu hanfon oedd yn edrych fel rhai credadwy, fe wnaeth nifer gynnig rhyw neu anfon pris samplau sberm, ac roedd negeseuon eraill yn gofyn am luniau o natur rywiol ac yn cysylltu'n gyson er mwyn ceisio trefnu'r camau nesaf.

Roedd rhai o'r dynion yn gofyn yn gyson am ryw yn y negeseuon, ac yn dweud mai dyna'r ffordd rataf a mwyaf effeithiol o feichiogi.

Roedd un ddynes wedi rhannu neges yn rhybuddio ei bod hi wedi cael sampl gan ddyn yng ngogledd Cymru, cyn iddi ddarganfod ei fod yn droseddwr rhyw.

Mae'r Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol (HFEA) yn pwysleisio bod unrhyw roddion sy'n cael eu cynnig y tu hwnt i safleoedd sydd â thrwydded yr HFEA yn wasanaethau sydd heb eu rheoleiddio, a bod hynny'n anghyfreithlon yn y DU.

Tianna
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tianna bod pobl fel hi mewn "sefyllfa fregus iawn"

Roedd Tianna a'i gwraig Nicki o dde Cymru yn awyddus iawn i gael plentyn.

Doedden nhw ddim yn gymwys am driniaeth drwy'r gwasanaeth iechyd ac roedd triniaeth breifat yn rhy ddrud iddyn nhw.

Dywedodd Tianna: "Ro'n i wastad yn gwybod 'mod i eisiau bod yn fam - roedden ni'n gwybod bod rhywbeth ar goll."

Ychwanegodd ei bod hi'n ymwybodol o'r problemau posib o ddefnyddio rhoddwyr oedd yn cynnig gwasanaethau oedd heb eu rheoleiddio.

"Mae rhai pobl yn rhyfedd ac yn gwneud be maen nhw'n wneud am y rhesymau anghywir," dywedodd.

"Roedd 'na wefan oedd yn gyfuniad o gatalog a Tinder (ap dêtio), ac roeddech chi'n gallu nodi lliw llygaid, lliw gwallt fel eich bod chi'n gallu chwilio am yr hyn rydych chi eisiau."

'Risg, ond mae e werth e'

Roedd y cwpl yn bwriadu defnyddio dull ffrwythloni artiffisial, ond maen nhw'n dweud bod dynion yn aml yn dweud mai rhyw oedd yr opsiwn gorau.

"Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn bod gen i a fy ngwraig ein gilydd, felly doedd dim ffordd y gallai unrhyw un roi pwysau arnon ni i wneud unrhywbeth doedden ni ddim eisiau ei wneud, achos pan rydych chi mor awyddus i gael babi, rydych chi mewn sefyllfa fregus iawn."

Fe wnaeth Tianna a Nicki ddod o hyd i roddwr roedden nhw'n ymddiried ynddo ar wefan magu plant ar y cyd, ac fe wnaethon nhw greu cytundeb fel bod pawb yn ymwybodol o'r cynllun a hawliau'r rhieni.

Ond doedd y cytundeb hwnnw ddim yn un cyfreithiol.

"Mae dal yn bosib yn y dyfodol y gallai e ddod a cheisio cael hawliau fel rhiant a mynd â ni i'r llys," meddai Tianna.

"Ond rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud popeth allwn ni i stopio hynny rhag digwydd a rwy wir yn credu na fyddai e'n gwneud hynny i ni."

Mae gan Tianna a Nicki fachgen blwydd oed erbyn hyn.

"Roedden ni eisiau plentyn ers gymaint o amser. Yn amlwg mi wnaethon ni gymryd risg ond mae e werth hynny i gyd."

Daniel BayenFfynhonnell y llun, Daniel Bayen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Bayen yn dweud mai ef yw'r "rhoddwr sy'n cael ei dalu fwyaf"

Mae rhoddwyr sydd heb eu rheoleiddio yn cynnig gwasanaethu mewn ffyrdd gwahanol, gyda rhai yn cynnig cael rhyw am ddim, tra bod eraill yn hedfan i wledydd ar draws y byd ar er mwyn defnyddio dulliau ffrwythloni artiffisial.

Mae Daniel Bayen, 25, yn byw yn yr Unol Daleithiau ond fe deithiodd i'r DU yn 2025 i gyfrannu sberm drwy ddefnyddio dull ffrwythloni artiffisial.

Mae'n dweud fod pedwar babi wedi cael ei eni yn dilyn y daith honno.

Fe dreuliodd y BBC dridiau yn ffilmio gyda Dan, sy'n honni mai ef yw'r "rhoddwr sy'n cael ei dalu fwyaf", ond nad yw'n gweithio er mwyn gwneud elw.

"Mae pobl sydd wedi defnyddio fy samplau yn fy helpu i dalu am gostau iechyd a byw, yn ogystal â chostau teithio," dywedodd.

Dywedodd ei fod ond wedi gofyn i bobl yn y DU am gostau teithio, ond fod pobl mewn gwledydd eraill wedi cynnig hyd at $20,000 iddo am sampl.

"Does dim ots gen i beth mae pobl eraill yn ei feddwl. Rwy'n meddwl am yr hyn sydd orau i'r plant a'r teuluoedd rwy'n gweithio gyda nhw," meddai.

Mae Dan yn cyfeirio at ei hun fel rhoddwr agored ac yn hapus i'r plant wybod pwy yw eu tad.

Mae hefyd yn rhannu fideos am ei ffordd o fyw a chanlyniadau iechyd.

Mae'n mynnu nad oedd wedi torri'r gyfraith tra'r oedd yn rhoddwr yn y DU.

Beth yw'r gyfraith?

Mae clinigau sydd wedi eu trwyddedu yn y DU yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol (HFEA), sydd wedi rhoi tudalen ar eu gwefan er mwyn i bobl ddeall y gyfraith.

Dywedodd llefarydd ar ran yr HFEA eu bod wedi anfon manylion nifer o roddwyr sydd heb eu rheoleiddio at yr heddlu.

"Mae'n bwysig gwybod nad yw defnyddio rhoddwyr sydd heb eu rheoleiddio yn drosedd, a dydych chi ddim yn torri'r gyfraith, ond mae'n bosib bod y rhoddwyr a'r rhai sy'n rhan o'r broses yn cyflawni trosedd ddifrifol," meddai.

Yn ôl y Ddeddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol, "mae defnyddio, cadw, profi, prosesu a rhannu wyau neu sberm er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio gan bobl yn anghyfreithlon oni bai bod hynny'n cael ei wneud gan glinigau sydd wedi eu trwyddedu gan yr HFEA".

Dywedodd Clare Ettinghausen o'r HFEA bod y ffordd y cafodd y sberm ei anfon gan Robert Albon yn ei "synnu".

"Mae'r gyfraith yn glir - os nad oes gan rywun drwydded gan yr HFEA, allwch chi ddim prosesu a rhannu sberm, a dyna beth mae e'n ei wneud drwy ei anfon."

Wrth ymateb, dywedodd Albon nad yw'r rheoliadau yn berthnasol iddo gan ei fod yn deall bod rhoi samplau preifat yn gyfreithlon, gan gynnwys gofyn am arian amdanyn nhw.

Ychwanegodd nad yw'n "risg uniongyrchol" i fenywod bregus.

Dywedodd Clare Ettinghausen o'r HFEA bod Meta, sy'n berchen ar Facebook, yn "hwyluso prosesau sy'n torri'r gyfraith" a'i bod hi wedi codi'r mater yn un o bwyllgorau dethol Senedd y DU ym mis Mawrth.

Ychwanegodd yr HFEA eu bod nhw hefyd wedi cysylltu gyda Meta yn uniongyrchol am y sefyllfa.

  • Mae modd gwylio rhaglen Swipe Right for Sperm ar BBC iPlayer

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.